Dychmygwch warchodfa natur, a honno’n cynnwys rhywogaethau prin sy’n cyfateb i fison Ewrop, orangutang Sumatra, llewpart yr eira, yr arth wen, y manatî, y mwnci colobws du, y crwban môr gwyrdd, yr armadilo mawr, jiráff Masai a llwyn y ddraig.
Heb os ac oni bai, byddai hwn yn un o’r lleoedd pwysicaf ar y Ddaear. Lleoliad y byddech yn gwneud eich gorau glas i’w warchod. Un ar gyfer y rhestr bwced.
Rhestrir yr holl rywogaethau hyn yn rhai sydd dan fygythiad o ddiflannu ar y Rhestr Goch o Rywogaethau dan Fygythiad a lunnir gan yr Undeb Rhyngwladol dros Gadwraeth Natur (IUCN). Dyma’r rhestr y mae llywodraethau a chadwraethwyr ledled y byd yn ymgynghori â hi i ddeall pa rywogaethau y mae ganddynt gyfrifoldeb i ofalu amdanynt a’u gwarchod. Mae’r rhestr yn fuddugoliaeth ragorol o ran cydweithrediad rhyngwladol, ac yn golygu bod gwyddonwyr ledled y byd yn gweithio gyda’i gilydd i lunio a diweddaru’r rhestr. Mae wedi arwain at bob math o fesurau gwarchod ledled y blaned. Mae’n bosibl ei bod, yn llythrennol, wedi helpu i achub y morfil.
Yn ddiweddar, cysylltodd un o fycolegwyr/gennegwyr/fotanegwyr mwyaf blaenllaw Cymru â mi, sef Ray Woods. Mae Ray wedi gwneud llawer o waith gwych gyda ni yn yr Ardd Fotaneg ac mae’n drysorfa o wybodaeth. Gofynnodd a oeddwn wedi clywed bod y cap cwyr ffibraidd, sef y ffwng glaswelltir oren hardd sy’n tyfu yn Waun Las, ein Gwarchodfa Natur Genedlaethol, wedi cael ei ychwanegu at restr yr IUCN o rywogaethau dan fygythiad? Credai fod hyn yn debygol o olygu bod gennym o leiaf chwech o’r capiau cwyr hyn sydd dan fygythiad ledled y byd yng Ngwarchodfa Natur Genedlaethol Waun Las.
E? Beth? Arhoswch funud. Beth a ddywedodd eto? Gwell i mi wirio hyn.
Ac rwyf wedi gwneud. Ond doedd Ray ddim yn hollol gywir. Nid oes gennym chwe ffwng sydd dan fygythiad o ddiflannu. Mae gennym ddeg ffwng sydd wedi cael eu rhestru yn rhai dan fygythiad o ddiflannu, pob un ohonynt dan yr un bygythiad yn union â llewpart yr eira, yr arth wen, a gweddill y rhywogaethau y soniais amdanynt yn gynharach. Gydol y 22 mlynedd diwethaf, maent i gyd wedi cael eu cofnodi gan fycolegwyr arbenigol, a hynny yn yr un cae – y cae yr ydym yn ei alw’n Cae’r Capiau Cwyr. Dyma’r rhestr arbennig iawn o ddeg ffwng sydd wedi cael eu cofnodi yng Nghae’r Capiau Cwyr.
Hygrocybe splendissima – y Cap Cwyr Ysblennydd
Cuphophyllus flavipes – y Cap Cwyr Bonfelyn
Hygrocybe intermedia – y Cap Cwyr Ffibraidd
Porpolomopsis calyptriformis – y Cap Cwyr Pinc
Hygrocybe punicea – y Cap Cwyr Rhuddgoch
Hygrocybe citrinovirens – y Cap Cwyr Lemon
Cuphophyllus colemannianus – y Cap Cwyr Cras
Entoloma porphyrophaeum – Tagell Binc Lelog
Neohygrocybe nitrata – y Cap Cwyr Nitraidd
Trichoglossum walteri – Tafod Daear Sborau Byrion
A allwch chi gredu hyn? Mae’n sicr wedi fy syfrdanu i. I’r bobl hynny yng Nghymru sydd â diddordeb mewn mycoleg, gallai hyn ymddangos fel pe bai’n mynd dros ben llestri braidd. Wedi’r cyfan, gydag ychydig o gynllunio strategol, ymdrech go fawr, llawer o gerdded a llygad craff, mae’n bosibl y byddai edmygwr ffyngau o Gymru yn dod o hyd i bob un o’r ffyngau hyn yn ystod 2-3 blynedd o chwilio yng nglaswelltiroedd a mynwentydd Cymru yn ystod tymor ffrwytho’r capiau cwyr yn yr hydref. Ond mae Cymru’n lle arbennig iawn ar gyfer ffyngau glaswelltir, yn yr un modd ag y mae’r coedwigoedd glaw trofannol yn lleoedd arbennig ar gyfer yr orangutang, neu goedwigoedd digyfnewid Gwlad Pwyl a Belarws ar gyfer y bison. Mae angen i ni ddeall a gwerthfawrogi bod Cymru wedi’i bendithio â’r fraint o fod yn geidwad rhai o’r ffyngau prinnaf hyn sydd ar y Ddaear.
Daw’r newyddion hyn yr un pryd yn union â genedigaeth ŵyn newydd i’n diadell o ddefaid Balwen yn Waun Las yn ystod yr wythnos diwethaf. I gadw’r glaswellt yn fyr, rydym yn pori ein defaid Balwen yng Nghae’r Capiau Cwyr. Roeddem wedi dewis y brîd hwn gan fod y defaid yn gymharol ysgafn, gan olygu nad ydynt yn cywasgu’r pridd fel bridiau eraill, trymach. Hefyd, fel yr wyf wedi cael gwybod yn ddiweddar gan ein bugail Rebecca Thomas, nid yw baw defaid Balwen yn niweidio’r pridd fel y mae baw bridiau eraill o ddefaid yn ei wneud. Ni fyddwch yn gallu gweld y ffyngau tlws hyn yn y glaswelltir hyd nes y byddant yn dechrau ffrwytho eto ddiwedd yr haf, ond byddwch yn gallu gweld ŵyn bach hynod o giwt yng Nghae’r Capiau Cwyr ymhen dim ond ychydig wythnosau – mae gennym lwybr troed sy’n mynd â chi yno mewn dim mwy na phymtheg munud o’r Tŷ Gwydr Mawr.
Gair arall gan Ray Woods i ddiweddu: “Rwy’n amau a oes gan unrhyw ardd fotaneg yn y byd gasgliad tebyg ar ei thir o organebau naturiol sydd dan fygythiad o ddiflannu ledled y byd”. Wel, byddai gennyf ddiddordeb mewn clywed gan unrhyw un a allai ein helpu i gael gwybod rhagor am hyn.