1 Gorff 2024

Yr Ardd Fotaneg yn ei Blodau: Mynd am Dro trwy’r Dolydd Gwair

Ellyn Baker

Mae gennym 40 erw o ddolydd gwair yn yr Ardd, a heddiw rydym yn eu dathlu’n rhan o Wythnos Natur Cymru.

Mis Mai i fis Gorffennaf yw’r amser perffaith o’r flwyddyn i fynd am dro trwy’r dolydd llawn blodau, sy’n cynnwys amrywiaeth o degeirianau, Blodau Menyn, y Gribell Felen, Effros, y Melynydd a Chribau San Ffraid. Mae’r arddangosfa o degeirianau’n arbennig o drawiadol yng Nghae Trawscoed, lle gallwch weld y Tegeirian Llydanwyrdd Mwyaf, Tegeirian-y-Gors Deheuol, Tegeirianau Brych a Thegeirianau Brych y Rhos.

Yn ystod y ganrif ddiwethaf rydym wedi colli dros 97% o’r dolydd yng Nghymru a Lloegr, sydd wedi arwain at ddirywiad yn amrywiaeth ein planhigion. Ffactor allweddol yn yr amrywiaeth hwn o blanhigion yw’r lefelau isel o faethynnau yn y pridd, lefelau a gynhelir trwy dorri a chasglu’r glaswellt ar ddiwedd y tymor a pheidio â gwasgaru unrhyw wrtaith.

Gyda symudiad cynyddol tuag at adfer y cynefinoedd rhyfeddol hyn, mae’r Ardd Fotaneg yn gweithredu fel ffynhonnell hadau a gwair gwyrdd o darddiad Cymreig i helpu sefydliadau a thirfeddianwyr lleol i adfer eu glaswelltiroedd a chynyddu amrywiaeth y planhigion.

Wedi i fwyafrif y planhigion yn y dolydd orffen blodeuo a hadu, defnyddir cynaeafwr brwsio i gasglu’r hadau, sydd wedyn yn cael eu sychu, eu hidlo a’u pecynnu i’w gwerthu. Dull arall o adfer dolydd llawn rhywogaethau yw cymryd y gwair ffres (gwair gwyrdd) a’i wasgaru ar y caeau cyfagos er mwyn i’r had ddisgyn. Gwnaethon ni taenu gwair gwyrdd ar Gae Gwair i wella amrywiaeth rhywogaethau, sydd wedi gweithio’n dda – gallwch chi weld hwn drosoch eich hun os dilynwch y llwybr oren trwy’r warchodfa natur.

Un rhywogaeth allweddol i’w chyflwyno yw’r gribell felen, sy’n lled-barasitig ar laswelltau. Trwy leihau tyfiant y glaswellt, gall rhywogaethau llysieuol gwahanol gystadlu a thyfu i greu cymuned fwy amrywiol o blanhigion. Mae cael dôl lwyddiannus ac amrywiol yn gofyn am reolaeth, a dyna pam yr ydym yn torri’r dolydd bob hydref ac yn caniatáu i wartheg eu pori’n ysgafn.

Cynaeafwr brwsio yng Nghae Gwair, Awst 2021

Cefnogir Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru gan Gronfa Rhwydweithiau Natur Llywodraeth Cymru, sy’n ariannu gwaith i gyflawni gwelliannau seilwaith ar Warchodfa Natur Genedlaethol Waun Las, gan ganiatáu i ni reoli’r safle er mwyn gwella bioamrywiaeth ac ymgysylltu ag ymwelwyr â’n treftadaeth naturiol.