Croeso i gylchlythyr diweddaraf yr Ardd, os hoffech ei dderbyn yn uniongyrchol i’ch blwch post, cofrestrwch yma. Mae croeso i chi roi gwybod i ni beth yw eich barn chi ac rhoi gwybod i ni am unrhyw syniadau sydd gennych. Mwynhewch!
Nadolig yn yr Ardd
Bydd yr Ardd yn cynnal detholiad o ddigwyddiadau ym mis Rhagfyr i ddod â chi yn ysbryd yr ŵyl!
Ar Rhagfyr 8fed a 9fed, bydd ffair poblogaidd crefftiau yr Ardd yn dychwelyd ac mae’n cynnig rhywbeth i bawb sy’n edrych i brynu yr anrheg perffaith funud. O ganhwyllau a wedi’u gwneud â llaw, a gemwaith wedi’u gwneud â llaw i eitemau cartref ac eitemau gwaith gwydr! Bydd yr Ardd hefyd yng nghroesawi Mess Up The Mess am bantomeimau Nadoligaidd Gwynfyd Gwyrthiol y penwythnos yna!
Ar Ragfyr 15fed a’r 16eg bydd Ffair Fwyd Nadolig poblogaidd Gardd Fotaneg Genedlaethol yn ol. Bydd llawer o flasau blasus ar gael sy’n cynnwys cacennau moethus gan enillydd The Apprentice – Alana Spencer, caws, siocled a siytni, mêl, nwyddau pobi a seidr, cigoedd a choffi, a llawer mwy o bwyd Nadolig! Bydd yr Ardd hefyd yng nghroesawi Mess Up The Mess am bantomeimau Nadoligaidd Yr Antur Olaf y penwythnos yna!
Mae’r Nadolig eleni yn mynd i fod yn hwyl wrth i’r Ardd ac Canolfan Adar Ysglyfaethus Prydain cynnal sioeau Gwdihŵ ddyddiol am 1yh o 5-23 o Ragfyr. Mae’r sioeau’n cynnwys arddangosfeydd gwdihŵ, cerddoriaeth a gemau Nadoligaidd, a byddwch hefyd yn cwrdd ag ein Gwdihŵ Siôn Corn! Bydd yn costi £3.50 ychwanegol y person – mae hyn hefyd yn cynnwys mynediad i Ganolfan Adar Ysglyfaethus Prydain a’u harddangosfeydd hedfan dyddiol.
Yr Nadolig yma rydyn hefyd yn cynnig cinio Nadolig yn yr Ardd. Mae’r fwydlen Nadolig yn dechrau ar Ddydd Llun 3ydd o Ragfyr tan ddydd Sul 23ain Rhagfyr. Am fwy o wybodaeth ac i archebu ffoniwch 01558 667141 neu e-bostiwch catering@gardenofwales.org.uk.
Parti Sêr
Ymunwch â ni am brofiad allan o’r byd hwn ar dydd Sadwrn Tachwedd 17. Mewn partneriaeth â Chymdeithas Seryddiaeth Abertawe ac AstroCymru bydd eu gweithdai a’u gweithgareddau o 2yp, gyda’r Parti Sêr ymlaen rhwng 6yh-9yh. (Nodwch: bydd yna dâl ychwanegol o £3 yr un am Barti’r Sêr).
Os yw’r awyr yn glir, byddwch hefyd yn archwilio’r lleuad, y blaned Mawrth, Wranws a’r blaned Neifion. Ond peidiwch â phoeni os yw’n gymylog, gallwch chi fwynhau’r gweithgareddau seryddiaeth yn y Tŷ Gwydr Mawr.
Am fwy o wybodaeth am yr digwyddiad yma a digwyddiadau eraill yn yr Ardd e-bostiwch info@gardenofwales.org.uk neu ffoniwch 01558 667149.
Aelodaeth fel Anrheg
Mae aelodaeth i’r Ardd Fotaneg Genedlaethol yn anrheg sy’n parhau i roi.
Mwynhewch ysblander a harddwch y lle arbennig iawn hwn 363 diwrnod y flwyddyn – o gyn lleied â £ 38.
Yr anrheg perffaith. Am nawr a’r dyfodol.
Am fwy o wybodaeth am y wahanol fathau o aelodaeth sydd ar gael, cymerwch olwg yma neu ffoniwch Jane ar 01558 667118 neu’r tîm mynediadau ar 01558 667149.
Mae Eu Holau’n Dal i Ddisgleirio
Mae’r gwasanaeth arbennig yma yn y Tŷ Gwydr Mawr yn amser i adlewyrchu a chofio’r rhai yr ydym wedi’u colli.
Bydd yna darlleniadau dewisiĕdig, cyfraniadau cerddorol gan artistiaid lleol, ynghyd ā chanu rhai caneuon/carolau poblogaidd.
Mae’r digwyddiad yn cychwyn am 2.30yh ar ddydd Sul 18 Tachwedd.
Am fwy o wybodaeth cysylltwch a: Ysgrifenydd Tŷ Cymorth Emlyn Schiavone 07779 420626 neu Euryl Howells, Uwch Gaplan, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda (01267) 227563 neu Euryl.Howells2@wales.nhs.uk
Cerdded Nordig
Cerdded Nordig yn yr Ardd Fotaneg Genedlaethol Cymru.
Taith Antur 12.30yp – taith gymdeithasol i fwynhau ein hamgylchoedd prydferth ac yn gorffen gyda chwpaned o de.
Taith Lles 1.30yp – Taith ysgafn am reini sydd yn pryderu am y pellter neu gyflymder.
Bydd cwrs 4 wythnos ‘Dysgu i Cerdded Nordig’ yn cychwyn ddydd Llun 5 Tachwedd am 12.30yp yn yr Ardd.
Mae sesiynau blasu a dysgu sut i gerdded Nordig yn help mawr iawn i ddysgu am gerdded Nordig am ffitrwydd, colli pwysau neu am hwyl.
Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â Becki o Pilates in the Nordig os gwelwch yn dda, ar 07502 215827 neu pilatesinthenordic@gmail.com neu ewch i ei wefan.
Bygi Ffit
Mae yna sesiynau Bygi Ffit AM DDIM bob dydd Mawrth am 10am, yng cyd â Chymdeithas Athletau Cymru a Mudiad Meithrin.
Mae Bygi Ffit ar gyfer teuluoedd sydd am gerdded, loncian neu redeg gyda’u rhai bach.
Bydd y cyfranogwyr yn gyfarfod yn y caffi ger prif fynedfa’r Ardd. Mae bygi sy’n addas ar gyfer rhedeg yn hanfodol.
Arweinir y sesiynau gan arweinydd rhedeg Ti a Fi cymwysedig. Mae lleoedd yn gyfyngedig felly archebwch eich lle trwy EventBrite.
Am ragor o wybodaeth am Bygi Ffit yn yr Ardd Fotaneg, cysylltwch â tanwen.randell@meithrin.cymru neu sharon.leech@welshathletics.org.
Y Ganolfan Adar Ysglyfaethus Prydeinig
Mae’r Ganolfan Adar Ysglyfaethus Prydeining wedi cael wedi cael safle rhif 1 o bethau i wneud yng Nghaerfyrddin gan Trip Advisor. Mae gan yr canolfan casgliad arbenigol o adar ysglyfaethus Prydeinig, sydd yn ffocysu ar les a chadwraeth ein rhywogaethau brodorol o adar ysglyfaethus.
Rydym wedi ein lleoli yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru, felly medrwch ymweld â ni yn ystod eich diwrnod yn y gerddi.
Amserlen Hedfan Dyddiol
11.30 am – Arddangosfa Hedfan (45 munud)
1pm – Hedfan Tylluan & Sgwrs (30 munud)
2.30 – Arddangosfa Hedfan (45 munud)
3.30pm – Sgwrs Cadwraeth (30 munud)
Ar agor 10yb-5yp yn ddyddiol
Gallwch hefyd cael profiad hanner diwrnod i hedfan ein adar gyda falconer profiadol!
Oedolion £75
Teulu (2+2) £199
Plant (5-16) £30*
*Mae plant o dan 5 yn hedfan am ddim. Mae rhaid i bob plentyn bod gydag oedolyn sy’n talu’n llawn.
Mae’r profiadau anhygoel yma yn cynnwys 2.5 awr o hedfan gyda 4 wahanol rywogaeth o adar, ffotograffau, lluniaeth a mynediad mewn i’r Ardd. Mae’n gyfle unigryw a 100% preifat i chi mwynhau’r profiad!
I archebu eich lle –
Ffoniwch: 01437 751725 neu
e-bost: info@britishbirdofpreycentre.co.uk
Mercher Mwdlyd
Anogir rhieni i adael i’w plant archwilio a chwarae yn yr awyr agored yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru, pob Dydd Mercher yn ystod tymor yr ysgol.
Bydd y Dyddiau Mercher Mwdlyd yn dechrau am 11yb, ac fe’u cynhwysir yn y tâl mynediad (am ddim i rai dan 5 oed), ac fe’u cynhelir pob Dydd Mercher yn ystod tymor yr ysgol.
Ein gweithgaredd wythnos hyn, sef 14eg o Tachwedd y sesiwn ‘Nos Da Draenog’. Bydd y plant yn cwrdd â draenog cysglyd iawn ac yn darganfod mwy amdano. Byddant yn ei helpu i wneud lle diogel i gysgu dros y gaeaf a hefyd ei fwydo cyn iddo fynd i gysgu. Bydd y plant hefyd yn gwneud draenog eu hunain allan o glai i fynd adref.
Ein gweithgaredd wythnos nesaf, 21ain o Tachwedd, yw ‘Llwynog yn ei Gwâl’. Bydd y plant yn dysgu sut mae llwynogod yn byw mewn gwalau o dan yr daear. Byddwn yn creu gwâl fawr i’r plant cael archwilio gyda’i tortsh. Byddant hefyd yn gwneud pyped bys o llwynog i mynd adref gyda. Arf y diwedd fe fyddwn yn dysgu can am llwynogod ac yn cael stori amdanynt.
lwb Gweithgareddau Archwilwyr yr Ardd
Diolch yn fawr i bawb a wnaeth mynychu’r Clwb Gweithgareddau Archwilwyr yr Ardd yn yr hanner tymor diwethaf. Cawsom amser hudol yn dysgu am dylluanod, coetir Cymru a bywyd mewn pyllau. A hefyd yn cadw’n hunain yn brysur gyda chreu rafftiau, celf greadigol, anturiaethau’r maes chwarae a hyd yn oed ychydig o ganu a dawnsio.
Fydd ein clwb gweithgareddau yn rhedeg eto yn ystod yr hanner tymor ym mis Chwefror. Ar gyfer i blant rhwng 6 i 12 flwydd oed ar y 25-27ain Chwefror, o 8yb pob dydd. Os hoffech mwy o wybodaeth, neu i archebu lle, cysylltwch gyda ni ar gardenexplorers@gardenofwales.org.uk os gwelwch yn dda.
Diwrnodau a Phenwythnosau i Chi a’r Ci
Mae’n penwythnos i Chi a’r Ci penwythnos yma (Tachwedd 17-18) dewch a’ch ci anwes am wâc hyfryd o gwmpas ein Gardd brydferth. Peidiwch a poeni os chi methu dod oherwydd mae POB dydd Llun yn Diwrnod i Chi a’r Ci yn yr Ardd,
Rydyn hefyd yn cynnal penwythnosau i Chi a’r Ci ar:
Rhagfyr 22-23
Ionawr 5-6
Chwefror 9-10
Mawrth 16-17
Ebrill 6-7
Mae rheolau Diwrnod i Chi a’r Ci yr Ardd yn annog pob perchennog i fod yn gyfrifol a chlirio i fyny ar ôl eu cŵn, a chadw eu hanifeiliaid ar dennyn estynadwy bob amser.