Canolfan Adar Ysglyfaethus Prydain

Ni yw’r unig ganolfan adar ysglyfaethus yn y DU sy’n canolbwyntio ar ein rhywogaethau brodorol ein hunain yn unig.

Mae Canolfan Adar Ysglyfaethus Prydain yn cynnig diwrnod allan prysur, llawn hwyl i bobl o bob oed.

Gallwch ymlwybro o amgylch ein hadardai a dysgu am y gwahanol adar sy’n byw yma yn y DU ac yn treulio eu gwyliau yma.

Cynhelir tair sioe hedfan yn rhydd anhygoel bob dydd, pob un yn cynnwys rhywogaeth aderyn ysglyfaethus gwahanol. Gallwch wylio eryrod aur, barcutiaid coch a hebogiaid tramor yn hedfan o fewn modfeddi i chi. Pob un â Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru yn gefnlen iddo.

Os ydych yn chwilio am fwy o gyffro, gallwch roi cynnig ar hedfa aderyn eich hun, a hynny’n rhan o’n profiadau preifat a grŵp arobryn!

Addas ar gyfer pob oed a gallu. I archebu www.britishbirdofpreycentre.co.uk/flying-experiences/

11.30 arddangosfa hedfan: Gwalch y môr, Gyr Hebog, Tylluan yr Eira, Eryr y Môr Cynffonwen, Hebog Tramor

1.30 arddangosfa hedfan: Tylluan fach, Gwalch Glas, cudyllod coch, Barcud Coch, Barcud Du, Eryr Aur

3.30 arddangosfa hedfan: Tylluan wen, Hebog Myrddin, Barcud Coch, Barcud Du, Tylluan Eryr Ewropeaidd

Ein nod yw rhoi cyfle i bawb ryngweithio â’r adar ysglyfaethus y gellir dod o hyd iddynt yma yn y DU, a dysgu amdanynt, ac, wrth wneud hynny, ysbrydoli cymunedau i sicrhau eu hirhoedledd.

“Ni fydd unrhyw un yn gwarchod yr hyn nad yw’n poeni yn ei gylch; ac ni fydd unrhyw un yn poeni ynghylch yr hyn nad yw erioed wedi ei brofi.” – David Attenborough

A kite!

Amserlen Ddyddiol – O 1af o fis Ebrill 2023

Amser
Byddwch yn ymwybodol y gall arddangosfeydd newid oherwydd y tywydd a chymeriad yr aderyn. Ni allwn ddweud wrthynt wneud beth ddydy nhw ddim eisiau gwneud! Yn ystod misoedd y gaeaf, efallai na fydd arddangosiadau’n cynnwys pob rhywogaeth ac fel arfer maent ychydig yn fyrrach. Os ydych yn dod yn benodol i weld aderyn cysylltwch â ni a gallwn roi’r amserlen hedfan fwyaf diweddar i chi.
09:30yb Profiad Eryr Cymru neu Profiad Taith Hebog Preifat yn dechrau – Archebu ymlaen llaw yn hanfodol, darganfyddwch fwy ymaGweler eich e-bost cadarnhau am gyfarwyddiadau mynediad
10:00yb Gatiau’n Agored – Canolfan Adar Ysglyfaethus Prydain a Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru
11.30yb Arddangosfa Hedfan (30 munud)
12.00yp Profiad Tylluanod Preifat – Archebu Ymlaen Llaw yn Hanfodol, darganfod mwy yma
1.30yp Arddangosfa Hedfan (30 munud)
2.00yp Profiad Hanner Diwrnod Preifat neu Brofiad Ffotograffiaeth Breifat yn dechrau – Archebu ymlaen llaw yn hanfodol, darganfod mwy yma
2.00yp Profiad Hedfan Tylluanod (uchafswm o 15 o gyfranogwyr) – darganfod mwy yma
3.30yp Arddangosfa Hedfan (30 munud)
4.00yp Profiad Hedfan Barcud (uchafswm o 15 o gyfranogwyr) – darganfod mwy yma
5:00yp Canolfan yn Cau – Canolfan Adar Ysglyfaethus Prydain
6:00yp Gatiau ar Gau – Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru