Y Tŷ Gwydr Mawr

Gyda’i fwa hynod drawiadol, hwn yw’r tŷ gwydr un-rhychwant mwyaf yn y byd

Wedi ei gynllunio gan Foster & Partners, mae’r adeilad arbennig hwn i’w weld ar dirwedd Cymru fel diferyn enfawr o law.

Mae’n gwarchod rhai o’r planhigion sydd fwyaf dan fygythiad ar y blaned, sy’n hannu o chwe ardal sydd ag hinsawdd Ganoldirol, sef Califfornia, Awstralia, yr Ynysoedd Dedwydd, Chile, De Affrica a Basn y Canoldir, a rhannwyd y Tŷ Gwydr Mawr yn adrannau gwahanol i adlewyrchu hyn.

Mae hafau sych a phoeth, gaeafau llaith ac oer, golau haul disglair, awelon cryfion ac ambell dân i glirio’r tir yn creu amodau perffaith i lawer o blanhigion ffynnu, a hynny ar dirwedd brysgiog a chreigiog. Mewn gwirionedd, mae mor berffaith fel nad yw’r rhan fwyaf o’r planhigion hyn yn tyfu unrhyw le arall ar y Ddaear.

Er bod yr ardaloedd hyn yn llai na 2% o arwyneb y Ddaear, maen nhw’n cynnwys dros 20% o’r holl rywogaethau o blanhigion blodeuol yr ydyn ni’n gwybod amdanynt, a dywedir bod cyfoeth ac amrywiaeth y planhigion yn eu gwneud yn ail o ran pwysigrwydd i gynefinoedd trofannol.

Yn anffodus, mae’r planhigion hyn o dan fygythiad difrifol oherwydd gweithgarwch cyfoes y ddynoliaeth ym meysydd amaethyddiaeth, twristiaeth, tai, ac yn gynyddol, newid yn yr hinsawdd.

Ar yr olwg gyntaf, nid yw’n amlwg fod y planhigion yn dod o chwe lleoliad gwahanol yn y byd. Y rheswm dros hyn yw eu bod yn aml yn rhannu llawer o nodweddion, megis dail bach bythwyrdd ag ansawdd fel lledr, a ffurfiau byr a thrwchus fel llwyni. Gwelir eu bod wedi addasu mewn ffordd gyffredin i’r ffactorau amgylcheddol tebyg y maen nhw eu hwynebu.

Kathryn Gustafson a ddyluniodd y dirwedd donnog a dychmygus y mae’r planhigion hyn yn ffynnu arni. Mae’n cwmpasu 3,500 metr sgwâr ac mae ei therasau caregog, clogwyni tywodfaen a llethrau sgri o raean wedi eu llunio i adlewyrchu’r amgylchedd naturiol ac i greu amrywiaeth eang o gynefinoedd, gan greu cydbwysedd rhwng golau a chysgod a darparu lefelau lleithder amrywiol a fydd yn ddelfrydol ar gyfer anghenion planhigion gwahanol.

Yn union y tu mewn i fynedfa ogleddol y Tŷ Gwydr Mawr y mae ein Caffi Med. Yma cewch eistedd ac ymlacio, gan fwynhau golygfeydd ac arogleuon ein planhigion, tra eich bod yn mwynhau detholiad o fyrbrydau ysgafn, a diodydd poeth ac oer.