24 Tach 2025

Wythnos Genedlaethol y Coed: Coed trwy’r tymhorau gan y Gwirfoddolwyr Cadwraeth

Ellyn Baker

Mae hi’n Wythnos Genedlaethol y Coed, felly roeddem am dynnu sylw at beth o’r gwaith rhyfeddol y mae ein grŵp Gwirfoddolwyr Cadwraeth wedi bod yn ei wneud i fonitro coed yn yr Ardd Fotaneg.

Coed trwy’r tymhorau

Ers 2019, mae’r Gwirfoddolwyr Cadwraeth wedi bod yn monitro coed dethol yn yr Ardd Fotaneg a Gwarchodfa Natur Genedlaethol Waun Las, gan ddogfennu eu cylch bywyd trwy’r tymhorau, yn cynnwys y blagur yn agor, y coed yn blodeuo, a chwymp y dail. Mae hyn i gyd wedi’i gofnodi mewn dyddiaduron darluniadol hardd sy’n cynnwys llawer mwy na dim ond paramedrau gwyddonol mesuradwy’r coed. Mae’r dyddiaduron bywyd gwyllt hyn yn dal hanfod y coed, ac yn cyfuno celf, barddoniaeth, ffotograffiaeth a gwaith ysgrifenedig i grynhoi nid yn unig fywydau’r coed, ond hefyd yr holl rywogaethau cysylltiedig, a’r dreftadaeth a’r llên gwerin sy’n ymwneud â nhw. 

Caiff y 17 goeden a ddetholwyd eu harchwilio’n rheolaidd trwy gydol y pedwar tymor, gyda phob ymweliad yn ychwanegu at stori bywyd cyfoethog y goeden a’r ddealltwriaeth ohoni, a’i lle yn yr ecosystem o’i chwmpas.

Mae’r gwaith arsylwi nid yn unig yn cynnwys y goeden ei hun, ond llawer o rywogaethau eraill sy’n dibynnu ar bob coeden ac sy’n gysylltiedig â hi, a hynny o bob rhan o we bywyd.

Mae un dudalen o’r cyfnodolyn wedi’i neilltuo i ddarlunio “ffyngau diddorol y gellir eu canfod yn gysylltiedig â choed a phren pydredig.”

Mae tudalen arall yn tynnu sylw at y rhywogaethau buchod coch cwta y gellir eu canfod yn gysylltiedig â Llwyfen Lydanddail.

Mae rhai tudalennau wedi’u neilltuo i gelf a myfyrdodau ar yr hyn y gallwn ei ddysgu gan fyd natur…

Cyngor gan goeden.

Sefwch yn dal ac yn falch, 

Mentrwch ar eich pen eich hun,

Cofiwch eich gwreiddiau, 

Yfwch ddigon o ddŵr,

Byddwch yn fodlon ar eich harddwch naturiol,

Mwynhewch yr olygfa.

Mae’r dyddiaduron yn cofnodi bywydau’r coed trwy donnau gwres, stormydd a hyd yn oed pandemig byd-eang. Bydd yn ddiddorol edrych yn ôl ar y dyddiaduron hyn yn y blynyddoedd i ddod a gweld sut y mae’r coed a’r dirwedd o’u cwmpas wedi newid ac esblygu. 

Mae’n wirioneddol ysbrydoledig gweld arsylwadau gwyddonol wedi’u cofnodi ochr yn ochr â darluniau artistig hynod o brydferth, a barddoniaeth, hanesion, ffotograffau a nodiadau monitro eraill. Mae hyn oll nid yn unig yn anfarwoli bywydau’r coed, ond hefyd y gwirfoddolwyr sy’n neilltuo eu hamser i’w monitro.

Edrychwch y Tu Mewn

Cymryd Rhan

Gallwch chi helpu i olrhain y tymhorau sy’n newid trwy rannu eich arsylwadau eich hun ar eich gardd neu eich ardal leol, a hynny trwy gyfrwng prosiect gwyddoniaeth dinasyddion Coed Cadw, sef ‘Nature’s Calendar’. Mae’n bwysig cofnodi arwyddion y tymhorau newidiol er mwyn monitro effeithiau’r tywydd a’r hinsawdd ar amseriadau bywyd gwyllt – gallwch ddysgu rhagor trwy wefan Nature’s Calendar.

Os hoffech gael gwybod mwy am wirfoddoli yn yr Ardd, cliciwch yma.


Cefnogir Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru gan Gronfa Rhwydweithiau Natur Llywodraeth Cymru, sy’n ariannu gwaith i gyflawni gwelliannau seilwaith ar Warchodfa Natur Genedlaethol Waun Las, gan ganiatáu i ni reoli’r safle er mwyn gwella bioamrywiaeth ac ymgysylltu ag ymwelwyr â’n treftadaeth naturiol.