Gwirfoddoli i’r Ardd

Mae Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru yn ystyried bod gwirfoddolwyr yn chwarae rhan bwysig yma ac mae’n cael ei werthfawrogi.

Fel un o’r gerddi yr ymwelir â hi fwyaf  yn y DU, mae gan yr Ardd enw da am yr awyrgylch gyfeillgar a’n ffordd ni o drin ymwelwyr.  Rydym yn gwir werthfawrogi cyfraniad ein gwirfoddolwyr ac yn eu hystyried ymhlith ein llysgenhadon pwysicaf, p’un ai ar y safle neu ble bynnag yr ânt yn y byd, gan gyfrannu at ddatblygiad ein henw da a’i hyrwyddo.

Pam rydym angen gwirfoddolwyr a pham rydym yn eu cefnogi

Mae’r Ardd yn cydnabod fod gweithgarwch y gwirfoddolwyr yn rym positif pwysig wrth godi proffil y sefydliad a chryfhau’r gefnogaeth yn y gymuned.  Mae gwirfoddolwyr yn rhan hanfodol o guriad calon yr Ardd ac maent ymhlith ei llysgenhadon.  Gall gwirfoddolwyr ddod â sgiliau ychwanegol arbennig neu brofiadau sy’n ychwanegu dimensiwn i fywyd yr Ardd.  Maent hefyd yn help i glymu’r Ardd yn dynn wrth y gymuned ehangach – cymuned lle a chymuned pobl.  Caiff ei gydnabod fod ymwneud ag amrywiaeth eang o safbwyntiau yn dod â gwerth ychwanegol i sefydliadau.

Fel gyda llawer o elusennau yn y DU, mae adnoddau’r Ardd yn gyfyngedig. Felly, er mwyn galluogi’r Ardd i gwrdd â’i hamcanion mae wedi datblygu partneriaeth staff/gwirfoddolwr sy’n hanfodol, yn gytbwys, yn effeithiol ac yn gyd-fuddiol.  Mae hyn yn seiliedig ar yr egwyddor fod staff yr Ardd yn darparu’r strwythur, trefniadaeth, cyfeiriad a rheolaeth ddyddiol, tra bo gwirfoddolwyr yn ychwanegu gwerth at waith yr Ardd trwy ymgymryd ag ystod eang o ddyletswyddau, gan roi eu hamser, dangos hyblygrwydd, a rhannu profiad a sgiliau arbenigol.  Felly o fewn y fframwaith hwn, mae gwirfoddoli yn weithgaredd gwerthchweil a hanfodol ac yn un y mae’r Ardd yn ei chefnogi a’i hyrwyddo.

Tîm Codi Arian

Oes gennych chi sgiliau gweinyddol gwych? Yna byddem wrth ein bodd pe baech yn ymuno â’n tîm Codi Arian a helpu i drefnu rhediad esmwyth ein gweithgareddau codi arian. Trwy rannu eich sgiliau trefnu gyda ni, byddwch yn ein helpu i ymateb yn effeithlon i ymholiadau a chodi mwy o arian er budd ein gweithgareddau elusennol, gan ysbrydoli mwy o bobl am blanhigion.

Manteision bod yn wirfoddolwr codi arian

Fel gwirfoddolwr byddwch yn ennill ystod o sgiliau a phrofiad, a fydd yn golygu y gallwch ddatblygu eich CV a dysgu sgiliau a fydd yn rhoi hwb i’ch rhagolygon swydd. Mae’r rhain yn cynnwys:

  • Sgiliau TG a gweinyddol
  • mwy o hyder
  • gwaith tîm
  • datrys Problemau
  • rheoli prosiect

Mathau o waith gwirfoddol codi arian

Mae rhai enghreifftiau o brosiectau y gallwch gymryd rhan ynddynt yn cynnwys:

– Ymchwilio i gyfleoedd codi arian, gan gynnwys ymddiriedolaethau elusennol, corfforaethau a grantiau

– Drafftio testun ar gyfer cynigion, gan gynnwys dod o hyd i luniau a golygu cynnwys

– Diweddaru meysydd codi arian y wefan, ysgrifennu blogiau ac ymgysylltu â’r tîm marchnata

– Cael mewnwelediad codi arian trwy edrych ar elusennau eraill a sut y gallent fod yn arloesi o ran codi arian

– Cysylltu â rhoddwyr newydd a chyfredol, gan roi’r wybodaeth ddiweddaraf iddynt am ein gweithgareddau a meithrin perthnasoedd newydd

– Ymateb i ymholiadau a chadw cofnodion

Am fwy o fanylion, cysylltwch â jane.down@gardenofwales.org.uk os gwelwch yn dda.