Taith Tu ôl i’r Llen – Y Ganolfan Wyddoniaeth

Gwen 02 Awst 2024 2:30yh - 3:30yh Archebwch yma

Dewch i ymuno â ni am daith y tu ôl i’r llenni o’r Ganolfan Wyddoniaeth

Dysgwch bopeth am Fanc Hadau Cenedlaethol Cymru a’r ymdrechion sy’n cael eu gwneud i achub rhai o fflora mwyaf bregus Cymru. Cymerwch gip ar ein labordy moleciwlaidd a chael mewnwelediad i’r ymchwil geneteg cadwraeth bresennol. Archwiliwch ein Llysieufa, sy’n gartref i bron i 33,000 o sbesimenau planhigion dan bwysau a chlywed popeth am ein prosiect Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol newydd sbon i ddigideiddio’r casgliadau hyn!

 

 

Mae’r daith hon am 2.30yp a bydd yn para awr.

Mae’r daith yn cychwyn wrth fynedfa’r Ganolfan Wyddoniaeth (Rhif 24 ar fap yr Ardd).

Codir tâl o £7 i aelodau a £8 i bob ymwelydd arall.

Mae archebu’n hanfodol ar gyfer y daith hon gan fod lleoedd yn gyfyngedig.

Mae’r daith hon er budd y Cynllun Gerddi Cenedlaethol, sy’n un o’r partneriaid ar gyfer ein Prentisiaeth mewn Garddwriaeth Fotanegol.

Mae mynediad arferol i’r Ardd hefyd yn berthnasol.

Cofiwch y gallwch ddefnyddio ein tocyn ‘bwmerang’ saith diwrnod arbennig i ddod yn ôl gymaint o weithiau ag y dymunwch, am saith diwrnod ar ôl eich ymweliad cychwynnol, y talwyd amdano.

Upcoming Dates

  1. Gwen 02 Awst 2024
    2:30yh - 3:30yh
  2. Gwen 06 Medi 2024
    2:30yh - 3:30yh
  3. Gwen 04 Hyd 2024
    2:30yh - 3:30yh
  4. Gwen 01 Tach 2024
    2:30yh - 3:30yh