Dewch yn aelod

Newydd ar gyfer 2024/25…

1. Hyd at 4 o blant yn gynwysedig heb unrhyw gost ychwanegol

2. Clwb 18-25

…mwy o fanylion am brisiau isod


O ddod yn Aelod o’r Ardd Fotaneg, fyddwch chi nid yn unig yn cefnogi un o’r gerddi elusennol mwyaf hardd, hanesyddol, diddorol a phwysig yng Nghymru, byddwch hefyd yn helpu i achub a gwarchod rhywogaethau o blanhigion Cymreig sydd mewn perygl, ynghyd â rhywogaethau o blanhigion sydd bellach o dan fygwth o ddiflannu o ranbarthau ar draws y byd.

Manteision Aelodaeth o Ardd Fotaneg Genedlaethol Cymru*

  • Mynediad yn rhad ac am ddim gydol cyfnod eich aelodaeth**
  • Pecyn croeso
  • Diwrnod yr Aelodau
  • Cylchgrawn Aelodau, Yr Ardd – 2 rhifyn y flwyddyn
  • Calendr o ddigwyddiadau gydol y flwyddyn yn cynnwys, cyngherddau, ffeiriau bwyd a chrefft a mwy
  • Boreau coffi i aelodau’n unig, yn cynnwys sgyrsiau, teithiau a mwy
  • Gostyngiad o 10% yn y Siop Anrhegion a’r Canolfan Arddioac ar blanhigion o’r Ardd Fotaneg (mae rhai nwyddau wedi’u heithrio)
  • Gostyngiad ar bris rhai cyrsiau sy’n cael eu cynnal gan Ardd Fotaneg Genedlaethol Cymru, er enghraifft cadw gwenyn, turnio pren, tyfu’ch hun, ag ati
  • E-gylchlythyr – gallwch gael diweddariadau rheolaidd ynghylch newyddion a digwyddiadau’r Ardd
  • Mynediad yn rhad ac am ddim i’r gerddi canlynol ledled y DG (yn unol â chaniatâd y perchnogion***):
    • Coedfa Westonbirt, Swydd Caerloyw
    • Gardd a Choedfa Syr Harold Hillier
    • Gardd Organig HDRA Ryton
    • Gerddi Botaneg a Thai Gwydr Birmingham
    • Gardd Fotaneg Prifysgol Rhydychen a Choedfa Harcourt
    • Y Fforest Law Fyw, Berkshire
    • Gardd Fotaneg Frenhinol Caeredin
    • Gardd Fotaneg Younger
    • Gardd Fotaneg Logan
    • Gardd Fotaneg Dawyck
    • Gardd Fotaneg Benmore

Sut i ddod yn Aelod o’r Ardd Fotaneg:

Cyflwynwch ffurflenni cais aelodaeth wedi’u cwblhau yn y prif dderbynfa i ymwelwyr (pan dderbyniwch gerdyn aelodaeth dros dro sy’n ddilys am 28 diwrnod), neu ffurflen gais y gellir ei phostio i’r cyfeiriad canlynol: Aelodaeth, Gardd Fotaneg Gendlaethol Cymru, Llanarthne, Sir Gaerfyrddin SA32 8HN.

Noder: Caniatewch hyd at 28 diwrnod er mwyn inni anfon pecyn aelodaeth a chardiau atoch chi.

Drwy brynu aelodaeth flynyddol, deng mlynedd neu oes, fyddwch nid yn unig yn cefnogi’r Ardd fel elusen, ond byddwch hefyd, fel ymwelydd rheolaidd, yn arbed arian, gan roi’r cyfle i chi ymweld â’r Ardd pryd bynnag y hoffech o fewn ein horiau agor ac yn cymryd mantais o’r buddion aelodaeth sydd gennym i’w cynnig – mae’r rhain wedi’u hargraffu ar ohebiaeth aelodaeth pan fyddwch yn adnewyddu eich aelodaeth fel atgoffâd, ar gael ar ein gwefan, ac ar y ffurflen gais aelodaeth.

Prisiau Aelodaeth

Categori AelodaethBlynyddol10 MlyneddOes
Unigolyn – a hyd at 4 o blant o dan 18£60£780£1930
Ar y Cyd – a hyd at 4 o blant o dan 18£105£1430£3540
Aelodaeth a Mwy – Unigolyn a gwestai a hyd at 4 o blant o dan 18£110£1360£3220
Clwb 18-25 – Unigolyn 18-25 oed £90N/AN/A

Canolfan Adar Ysglyfaethus Prydain

Mae mynediad i’r Ganolfan Adar Ysglyfaethus Prydain nawr wedi’i gynnwys gydag aelodaeth i’r Ardd Fotaneg. Gellir prynu tocynnau i weld yr arddangosiadau hedfan anhygoel yn y ganolfan.


*Efallai y bydd tâl am ddigwyddiadau a gynhelir y tu allan i oriau agor arferol yr Ardd ac am ddigwyddiadau arbennig.

** Efallai y gwneir tâl am ddigwyddadau a gynhelir y tu allan i oriau agor arferol yr Ardd a digwyddadau arbennig.

*** Edrychwch ar amodau mynediad y gerddi hyn cyn gwneud y daith.  Gellir newid amodau a thermau.

Sylwch mai prif ddeiliad y cerdyn YN UNIG sy’n cael mynediad AM DDIM i’r atyniadau uchod