Taith Gwas y Neidr yr Ardd

Sul 07 Gorff 2024 2yh - 4yh Mae mynediad arferol i'r Ardd yn berthnasol

Darganfyddwch fwy am y gweision neidr a’r mursennod hynod ddiddorol sy’n byw yn yr Ardd Fotaneg yn y daith unigryw hon.

Mae gan yr Ardd ystod eang o gynefinoedd bioamrywiol ac mae mwclis llynnoedd yn gartref i ystod eang o anifeiliaid a phryfed gan gynnwys gweision neidr a mursennod. Mae’r ceidwad gwirfoddol David wedi bod yn astudio’r gwahanol rywogaethau o weision neidr a mursennod am yr ychydig flynyddoedd diwethaf a bydd yn eich arwain ar daith dwy awr o amgylch y llynnoedd amrywiol. Cewch gyfle i ddysgu mwy am y pryfed diddorol hyn.

Mae’r daith hon yn dechrau wrth fynedfa’r ymwelwyr a bydd yn para dwy awr. Gwisgwch esgidiau priodol a dewch â phâr o ysbienddrych os ydych chi am gael golwg agosach ar y bywyd gwyllt y byddwch chi’n ei weld ar y daith hon.
Mae’r daith am ddim ond mae mynediad arferol i’r Ardd yn berthnasol. Nid oes angen archebu ymlaen llaw.

Mae’r daith hon yn rhan o Wythnos Natur Cymru (29 Mehefin – 7 Gorffennaf).

Gwiriwch gyda’r tîm gwasanaethau ymwelwyr yn y bore drwy ffonio 01558 667148 neu edrychwch ar y cyfryngau cymdeithasol (Facebook a Instagram) os yw’r daith yn mynd yn ei blaen oherwydd os yw’n bwrw glaw ni fydd unrhyw weision neidr i’w gweld a bydd y daith yn cael ei chanslo.