Datgelu ein Gwaith Adfer

Sad 27 Gorff 2024 5:06yb - 5:06yb Am ddim gyda mynediad

Roedd y prosiect Adfer Cyfnod y Rhaglywiaeth yn brosiect pum mlynedd a’r mwyaf yn yr Ardd ers ei hagor yn 2000. Ei nod oedd adfer nodweddion tirwedd o Gyfnod y Rhaglywiaeth  a oedd wedi’i chreu yn y 18fed a’r 19edd ganrif  ar gyfer Syr William Paxton a’i darlunio gan yr arlunydd Thomas Hornor mewn cyfres o beintiadau  ym 1815. Mae’r prosiect wedi adfer llynnoedd, a oedd ar un adeg ar goll dan drwch o blanhigion, yn ardaloedd  dŵr gwych a welech yma heddiw. Mae pontydd newydd addurnol, rhaeadr fywiog a gorlifannau dramatig yn golygu bod yn dirwedd yn werth ei gweld.

Ym mhob cam yn y gwaith adfer mae gwirfoddolwyr o Gymdeithas  Ffotograffiaeth Dinefwr wedi bod ar y safle i dynnu lluniau o’r broses.  O’r gwaith cychwynnol o glirio’r llynnoedd i osod y pontydd yn derfynol, mae’r tîm dawnus hwn wedi cofnodi trawsnewid y dirwedd.

Mae’r arddangosfa hon yn dathlu eu gwaith rhyfeddol ac yn datgelu proses yr adfer.

Cynhwysir yn yr arddangosfa hon fapiau a dyluniadau ym mhob cam yn y broses dylunio ac adeiladu.

Dewch i ymweld â’r arddangosfa hon ac archwiliwch y dirwedd adferedig i chi’ch hun!

Mae’r arddangosfa hon yn Oriel yr Ardd sydd wrth ymyl Siop Botanica yn y Bloc Stabl.