Y Stablau

Y Bloc Stablau yw calon yr Ardd heddiw
Mae’n gartref i’r Bwyty Tymhorol, y Siop Anrhegion, y Dderbynfa a swyddfeydd.
Ond rhyw 200 mlynedd yn ôl, roedd yn gartref i 22 o geffylau marchogaeth a chefyllau tynnu-cerbyd, dau gerbyty mawr, stafell harneisiau, lloftydd a stafelloedd i’r coetsmyn a bechgyn y stablau.
Roedd pob lloc â phlac o bren ac arno enw’r ceffyl, ei daldra, dyddiad ei eni, a’i rieni. Pan fu farw’r ceffylau hyn, rhoddwyd angladd barchus iddynt.
Cadwyd colomennod yn y tyllau bach yn y gwaith brics, ond heddiw gwenoliaid y bondo sy’n hoff o’r lle, ac yn aml deuant i gadw cwmni i ymwelwyr yn y bwyty.