Oriel yr Ardd

Mae Oriel yr Ardd yn swatio yng nghornel ein Bloc Stablau
Mae Oriel yr Ardd yn dangos ystod o arddangosfeydd celf a ysbrydolwyd gan fyd natur a botaneg trwy gydol y flwyddyn.
Mae’r rhain yn cynnwys popeth o baentiadau i ffotograffiaeth, o waith gwnïo i ddarluniadau.
Ry’n ni’n hoffi dangos arddangosfeydd gan artistiaiad sydd wedi’u hen sefydlu, ynghyd â rhai gan dalent newydd cyffrous a gwaith gan fyfyrwyr colegau celf.
Bydd y rhan fwyaf o arddangosfeydd yn parhau am tua deufis, a chynllunir rhai i gydfynd â’r tymor neu ddigwyddiadau perthnasol yn yr Ardd.