Roedd y prosiect Adfer Cyfnod y Rhaglywiaeth yn brosiect pum mlynedd a’r mwyaf yn yr Ardd ers ei hagor yn 2000. Ei nod oedd adfer nodweddion tirwedd o Gyfnod y Rhaglywiaeth a oedd wedi’i chreu yn y 18fed a’r 19edd ganrif ar gyfer Syr William Paxton a’i darlunio gan yr arlunydd Thomas Hornor mewn cyfres o beintiadau ym 1815. Mae’r prosiect wedi adfer llynnoedd, a oedd ar un adeg ar goll dan drwch o blanhigion, yn ardaloedd dŵr gwych a welech yma heddiw. Mae pontydd newydd addurnol, rhaeadr fywiog a gorlifannau dramatig yn golygu bod yn dirwedd yn werth ei gweld.
Ym mhob cam yn y gwaith adfer mae gwirfoddolwyr o Gymdeithas Ffotograffiaeth Dinefwr wedi bod ar y safle i dynnu lluniau o’r broses. O’r gwaith cychwynnol o glirio’r llynnoedd i osod y pontydd yn derfynol, mae’r tîm dawnus hwn wedi cofnodi trawsnewid y dirwedd.
Mae’r arddangosfa hon yn dathlu eu gwaith rhyfeddol ac yn datgelu proses yr adfer.
Cynhwysir yn yr arddangosfa hon fapiau a dyluniadau ym mhob cam yn y broses dylunio ac adeiladu.
Dewch i ymweld â’r arddangosfa hon ac archwiliwch y dirwedd adferedig i chi’ch hun!
Mae’r arddangosfa hon yn Oriel yr Ardd sydd wrth ymyl Siop Botanica yn y Bloc Stabl.