Penwythnos Gardd Lles
Yn sgil llwyddiant ein gardd nodwedd hardd Gardd Lles yn Sioe Flodau RHS yng Nghaerdydd, mae penwythnos arbennig wedi’i drefnu i hyrwyddo gerddi a garddio er mwyn iechyd a lles yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru.
Bydd Penwythnos Gardd Lles o ddydd Sadwrn 25 Mai i ddydd Lun 27 Mai yn brolio’r Ardd fel lle llesol drwy gyfrwng nifer o sgyrsiau, gweithdai, teithiau cerdded a stondinau. At hynny, rydyn ni’n bwriadu tynnu sylw at ffyrdd y gall pobl gymryd rhan i wella’u lles gan dynnu sylw hefyd at waith ar hyd a lled Cymru ar y thema hon.
Bydd thema wahanol i bob diwrnod yn ystod y penwythnos:
Dydd Sadwrn: “Gwyddoniaeth Lles”
Bydd y diwrnod hwn yn tynnu sylw at y gwaith sy’n digwydd i wella lles Cymru, boed drwy warchod ein hamgylchedd a’n rhywogaethau, neu drwy wella ansawdd bywyd i bobl sy’n byw ac yn gweithio yma.
Dyma fydd rhai o’r uchafbwyntiau:
- Dr Rhys Jones, Uwch Ddarlithydd ym Mhrifysgol Caerdydd, arbenigwr ar ymlusgiaid, ymgynghorydd amgylcheddol, ymchwilydd a darlledwr i’r BBC, y Sianel Smithsonian, National Geographic a’r sianel Discovery, yn rhoi sgwrs ar “Becoming Dr Jones”, gan gynnwys ei waith mewn cadwraeth.
- Sgyrsiau byr gan fyfyrwyr PhD ac academyddion eraill drwy gydol y dydd gyda sesiynau cwestiwn ac ateb.
- Bydd Canolfan Adar Ysglyfaethus Prydain yn trefnu sgyrsiau cadwraeth ar rai o’u hadar, a hefyd yn cyflwyno’r prosiect Ailgyflwyno’r Eryr yng Nghymru.
- Bydd Naissance yn rhedeg gweithdai ar wneud eich remedïau naturiol eich hun o ddefnyddiau’n seiliedig ar blanhigion, yn ogystal â’ch defnydd coluro eich hun.
Dydd Sul: “Corff Iach, Meddwl Iach – Diwrnod Lles Meddyliol”
Canolbwyntio ar wahanol ffyrdd ichi ofalu am eich iechyd meddyliol a chynnig y gallu i gymryd rhan gydag elusennau a chyrff sy’n gosod lles meddyliol ar frig eu rhestr.
Dyma rai o’r uchafbwyntiau:
- Bydd Hyfforddwyr Cymunedol y Gweilch yn yr Ardd i roi sgyrsiau a gweithdai ar yr elfen feddyliol mewn chwaraeon.
- Write4Words gan Melanie Perry. HI oedd hwylusydd “Bright Flowers”, sef cyfres o sesiynau ysgrifennu’n cael eu hariannu gan Llenyddiaeth Cymru ar gyfer Prosiect Cefnogi Merched sydd wedi Goroesi yng Nghaerfyrddin. Bydd yn rhedeg sesiynau ysgrifennu er lles. Mae hyn yn ymgorffori teithiau o gwmpas yr Ardd I gael ysbrydoliaeth cyn rhoi pensil ar bapur mewn gweithdy.
- Bydd Music and the Muse gyda Heather Murray, sy’n rhedeg gweithdai lles ar draws Cymru gan ymgorffori cerddoriaeth, yn rhedeg sesiynau ukulele a drymio samba i bawb. Bydd y rhain yn adlewyrchu sut y gall cerddoriaeth fod yn hwb er mwyn lles.
- Yng Nghanolfan Adar Ysglyfaethus Prydain bydd sesiynau “Darllen i Dylluanod / Reading to Owls”. Sesiynau un-i-un i blant yw’r rhain i blant gael darllen eu hoff lyfr i dylluan. Bu treial y cynllun hwn yn llwyddiannus gyda chŵn, a bydd plant yn gallu eistedd a darllen gyda’u hoff aderyn, yn ogystal â chael tynnu eu llun.
Dydd Llun: “Corff Iach, Meddwl Iach – Diwrnod Lles Corfforol”
Canolbwyntio ar sbectrwm o wahanol ffyrdd ichi ofalu am eich iechyd corfforol, sy’n gallu bod yn llesol i’ch iechyd meddyliol
Dyma rai o’r uchafbwyntiau:
- Bydd Hyfforddwyr Cymunedol y Sgarlets yn rhedeg gweithdai sgiliau rygbi i blant a gêm o rygbi cyffwrdd i blant yn eu harddegau ac oedolion gymryd rhan. Bydd gweithgareddau “rhoi cynnig arni” iddynt hefyd.
- Bydd Circus Eruption, sef elusen ieuenctid integredig yn Abertawe sy’n defnyddio sgiliau’r syrcas i greu amgylchedd ddiogel, chwareus, cyfleus a chreadigol ar gyfer pobl ifanc, yn rhedeg dau weithdy ar sgiliau’r syrcas.
- Yn yr Ardd Tyfu’r Dyfodol, cewch ddysgu tyfu, dewis a gwneud eich te llysieuol eich hun gyda sesiynau taro-heibio yn y bore a’r prynhawn.
- Bydd Canolfan Adar Ysglyfaethus Prydain yn rhoi sesiynau blasu “rhoi cynnig arni” ar drin adar er mwyn tynnu sylw at y buddiannau i ddyn ac i aderyn, i hebogiaeth ac i hedfan.
Mae sesiynau dethol yn ystod Penwythnos Gardd Lles ar gael i’w harchebu ar dudalen Eventbrite yr Ardd.
Digwyddiad gan brosiect Tyfu’r Dyfodol yr Ardd sydd am ddathlu garddwriaeth Cymru, i ddiogelu bywyd gwyllt ac i bwysleisio holl fanteision tyfu planhigion – i’w bwyta, i roi hwyl inni ac i gyfrannu at ein lles a’n hiechyd.
Mae’r prosiect hwn wedi derbyn cyllid trwy Raglen Datblygu Wledig 2014-2020 – Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru, a ariennir gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Ardaloedd Gwledig, a Llywodraeth Cymru.