Gardd Tyfu’r Dyfodol

Os hoffech chi syniadau newydd ar gyfer gosod a threfnu’ch gardd eich hun er mwyn tyfu ffrwythau, llysiau, perlysiau a blodau, yna mae Gardd Tyfu’r Dyfodol i chi

Rhennir yr arddangosfa yn welyau fydd yn dangos dulliau gwahanol o dyfu – gardd i batrwm potager, gwelyau a godwyd, rhai traddodiadol, mannau cysgodlyd, a mannau addas i fywyd gwyllt.

Bob blwyddyn ceir un gwely wedi ei blannu i ddilyn thema benodol.

Fe ddewch chi o hyd iddi yn y bwlch rhwng yr Ardd Siapaneaidd a wal fewnol yr Ardd Ddeu-fur.