Mabwysiadu Gweirglodd yng Ngwarchodfa Natur Genedlaethol Waun Las

£30.00

Yn y 22 flynedd diwethaf, mae’r gweirgloddiau yng Ngwarchodfa Natur Genedlaethol Waun Las wedi eu rheoli’n organaidd. Mae blodau gwylltion wedi parhau i ledu a chynyddu mewn nifer ar draws y caeau, gan ymuno ag arddangosfa ryfeddol o flodau tegeirian. Yn anffodus, mae gweld yr holl flodau gwylltion hyn a’u lliwiau niferus yn olygfa brin wrth i weirgloddiau ar hyd a lled y wlad ddirywio’n ddramatig.

Gallwch chi ein helpu drwy fabwysiadu Gweirglodd Blodau Gwylltion. Bydd hyn yn cynnwys eich sampl fach chi eich hun o hadau gweirglodd blodau gwylltion i’w hau. Byddwch hefyd yn cael tystysgrif mabwysiadu.

In stock

Categori:

Disgrifiad

Mae 97% o weirgloddiau blodau gwylltion wedi eu colli yn y DG ers y 1940au. Mae’r tiroedd porfa hardd hyn yn cynnal amrywiaeth ryfeddol o blanhigion ac yn darparu cynefin gwerthfawr lle gall bywyd gwyllt fwydo, bridio a theithio drwyddynt yn llwyddiannus.

Yn y 22 flynedd diwethaf, mae’r gweirgloddiau yng Ngwarchodfa Natur Genedlaethol Waun Las wedi eu rheoli’n organaidd. Mae blodau gwylltion wedi parhau i ledu a chynyddu mewn nifer ar draws y caeau, gan ymuno ag arddangosfa ryfeddol o flodau tegeirian. Yn anffodus, mae gweld yr holl flodau gwylltion hyn a’u lliwiau niferus yn olygfa brin wrth i weirgloddiau ar hyd a lled y wlad ddirywio’n ddramatig.

Gallwch chi ein helpu drwy fabwysiadu Gweirglodd Blodau Gwylltion. Bydd hyn yn cynnwys eich sampl fach chi eich hun o hadau gweirglodd blodau gwylltion i’w hau. Byddwch hefyd yn cael tystysgrif mabwysiadu.

Mae’r nawdd yn para am flwyddyn.