Mabwysiadu McCutcheon’s Grevillea
£15.00
Cyhoeddodd llywodraeth Awstralia ym 1995 fod ‘McCutcheon’s Grevillea’ mewn perygl enbyd a sefydlwyd Tîm Adfer i fynd i’r afael â’r prosesau mwyaf bygythiol sy’n peryglu ei barhad yn y gwyllt.
Bydd eich cyfraniad yn ein galluogi i barhau ein gwaith i warchod y rhywogaeth hon, a bydd yn cynnwys tystysgrif mabwysiadu a dewis o gerdyn o ddetholiad botanegol yr ardd.
In stock
Disgrifiad
Mae ‘McCutcheon’s Grevillea’, neu blanhigyn corryn McCutcheon, un yn un o’r planhigion prinnaf yn y byd, ac mae’n ffynnu yn y Tŷ Gwydr Mawr.
Llwyn prin yw hwn o’r teulu Proteaceae. Mae’n frodorol yn Ne Orllewin Awstralia, lle nad oes ond saith planhigyn aeddfed ar ôl yn y gwyllt. Mae’n tyfu rhwng y Swan Coastal Plain a Whicher Scarp ac mae ganddo flodau mawr coch sy’n ddeniadol iawn. O gwmpas y goes mae dail gwastad tair-llabed.
Cyhoeddodd llywodraeth Awstralia ym 1995 fod ‘McCutcheon’s Grevillea’ mewn perygl enbyd a sefydlwyd Tîm Adfer i fynd i’r afael â’r prosesau mwyaf bygythiol sy’n peryglu ei barhad yn y gwyllt.
Bydd eich cyfraniad yn ein galluogi i barhau ein gwaith i warchod y rhywogaeth hon, a bydd yn cynnwys tystysgrif mabwysiadu a dewis o gerdyn o ddetholiad botanegol yr ardd.
Mae’r nawdd yn para am flwyddyn.