Ymborthiant Peillwyr Gwyllt

Mae 75% o gnydau mwyaf pwysig y byd yn dibynnu ar ryw fath o beillio gan anifeiliaid, sy’n gyfartal i un rhan o dair o holl gynhyrchiad cnydau’r byd.  Fodd bynnag, mae poblogaethau peillwyr o dan fygwth, sy’n fater pryderus. Heb amrywiaeth o wahanol peillwyr, byddwn yn colli ffrwythau fel tomatos, ceirios, afalau, mafon a mefus, ynghyd a phrif nwyddau fel coffi a siocled. Mae pryfed yn peillio’r bwydydd yr ydym wrth ein bodd bwyta.

Un o brif achosion y dirywiad yn y nifer o beillwyr yw’r golled o gynefinoedd blodeuog sy’n darparu neithdar a phaill, sef bwyd y peillwyr. Er enghraifft, rydym wedi colli 97% o weunydd hynafol blodau gwyllt ers y 1930au, yr oedd unwaith wedi darparu amrywiaeth o blanhigion blodeuol i fwydo’n peillwyr llwglyd.

Mae tyfu planhigion ar gyfer pryfed peillio yn ein gerddi yn un ffordd o gynyddu’r adnoddau sydd ar gael – ond pa blanhigion sydd well gan beillwyr?

Gall rhestrau o blanhigion sy’n denu peillwyr ein helpu ni i ddewis y planhigion iawn, ond nid ydy’r rhestrau hyn yn seiliedig ar ddata gwyddonol go iawn, nac yn cynnwys rhai o’r planhigion pwysig sy’n denu pryfed peillio. Yma yn yr Ardd mae gennym gasgliadau garddwriaethol a Gwarchodfa Natur Genedlaethol, sy’n cynnwys dewis o dros 5000 o wahanol fathau o blanhigion i’n pryfed peillio. O’r herwydd, rydym mewn sefyllfa wych i wneud profion gwyddonol i weld pa blanhigion sydd fwyaf pwysig.

Mae ymchwilydd PhD Abigail Lowe yn defnyddio technegau DNA i astudio’r paill sy’n cael eu cario gan gacwn, gwenyn mêl, gwenyn unig a phryfed hofran. Cod-bar DNA yw darn byr o DNA sy’n cael ei defnyddio i adnabod rhywogaethau. Mae gwyddonwyr ar draws y byd yn gweithio gyda’i gilydd er mwyn creu cod-bar DNA ar gyfer popeth byw, sy’n gwneud i organebau cael eu hadnabod lle nad yw adnabod morffolegol yn bosib. Mae’r Ardd wedi cyfrannu at yr ymdrech byd-eang hwn gan greu’r gronfa data cod-bar DU.

Mae pryfed yn cael eu casglu pob mis ar draws Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru a’r Warchodfa Natur Genedlaethol Waun Las a’r paill yn cael ei gasglu am ddadansoddiad. Yna, caiff y DNA o fewn y paill ei echdynnu a’r cod-bar DNA yn cael ei amlhau yn ein labordai. Yn olaf, mae’r DNA yn cael ei dilyniannu a chymharu gyda gronfa data Cod-bar DU i nodi pa blanhigion bu’r paill yn tarddu.

Mae’r prosiect yma yn ceisio darganfod pa blanhigion mae peillwyr yn defnyddio, yn ogystal ag ateb cwestiynau penodol, sef â phlanhigion brodorol neu anfrodorol sy’n cael eu dewis, ac os oes rhaniad o adnoddau rhwng rhywogaethau neu o fewn rhywogaethau? Gall atebion y cwestiynau yma helpu ni i roi cyfarwyddiadau i arddwyr a thirfeddiannwr er mwyn codi poblogaethau peillwyr ac atal dirywiad pellach.

Cyhoeddiadau

Lowe A., Jones L., Brennan G., Creer S., Christie L. de Vere N., (2022) Temporal change in floral availability leads to periods of resource limitation and affects diet specificity in a generalist pollinator Molecular Ecology.

Lowe A, Jones L, Brennan G, Creer S., de Vere N. (2022). Seasonal progression and differences in major floral resource use by bees and hoverflies in a diverse horticultural and agricultural landscape revealed by DNA metabarcodingJournal of Applied Ecology.

Lowe A. (2022) Investigating floral resource use by pollinators using pollen DNA metabarcoding PhD thesis