Ymchwil Peillwyr

Ry’n ni’n defnyddio ein harbenigedd ar godio-bar DNA planhigion a’n hadnoddau garddwriaethol er mwyn ymchwilio hoff flodau peillwyr, gan gynnwys gwenyn mêl, cacwn,  gwenyn unigol a phryfed hofran.

Trwy ddefnyddio codio-bar DNA er mwyn adnabod paill o fewn cyrff y peillwyr, gallwn ddarganfod ble mae gwenyn mêl yn ymborthi, pa blanhigion mae pryfed hofran yn ymweld â nhw, a beth yw ffynonellau blodeuol mêl.  Os gallwn ni ddod o hyd i ba planhigion sydd fwyaf pwysig i beillwyr, yna gallwn ni helpu sicrhau bod y planhigion hyn ar gael yn amgylchfyd y peillwyr.