Prosiect Adfer o Gyfnod y Rhaglywiaeth

Prosiect pum mlynedd oedd y prosiect Adfer yn anelu at adfer nodweddion tirweddu o gyfnod y Rhaglywiaeth a grëwyd ddiwedd y 18fed ganrif a dechrau’r 19edd ganrif ar gyfer William Paxton ar y tir sydd erbyn hyn yn Warchodfa Natur Genedlaethol Waun Las. Roedd y parcdiroedd yn enghraifft gynnar o ddelfrydau Darluniadol yn cael eu defnyddio wrth gynllunio tirweddi, ynghyd â’r gwahaniaethau y gall natur eu ddangos – un funud yn dawelwch hardd a’r funud nesaf y ddrama o weld dŵr yn byrlymu dros bistyll, cored a rhaeadr. Gallwn weld wyth o bymtheg darlun a wnaed gan Thomas Hornor, a oedd wedi ei wahodd gan William Paxton i beintio cyfres o olygfannau ar draws yr ystâd ym 1815. Mae’r manylion cymhleth yn y darluniau hyn o’r parcdir a’r llynnoedd wedi rhoi i’r dylunwyr a’r peirianwyr gyfoeth o wybodaeth yn sail i gynlluniau’r gwaith adfer.

Yn ystod y ddwy flynedd a hanner diwethaf, mae safle’r gwaith adfer wedi bod yn fyw o weithgarwch. Yn haf poeth 2018 gwelwyd peiriannau mawrion yn ymgymryd â’r dasg o symud 22,000m3 o laid o waelod Llyn Mawr a oedd wedi crynhoi dros y degawdau blaenorol. Wedyn cafodd clai ei gloddio o byllau benthyg yn y caeau gerllaw i greu’r argae a hwnnw’n cael ei galedu gan beiriant a elwir yn rholiwr troed neu droed dafad. Yn amser Paxton byddai’r gwaith caledu hwn wedi ei wneud gan deuluoedd yn defnyddio berfâu a phreiddiau o ddefaid – a dyna sy’n rhoi ei enw i’r peiriant modern. Byddai pob haen yn cael ei phrofi ag offer geodechnegol, i sicrhau y byddai’r argae’n cyrraedd gofynion llym y Ddeddf Argaeau.  Mae Llyn Mawr yn un o’r llynnoedd mwyaf yn yr Ardd Fotaneg – dros 65,000m3, sydd deirgwaith yn fwy na’r llynnoedd presennol i gyd gyda’i gilydd! Mae’r argae yn 350m o hyd ac mae tair arllwysfa i fynd â’r dŵr dros yr argae. Defnyddir arllwysfa un mewn amodau cyffredin bob dydd, ac mae’r ddwy arall wedi eu llunio i allu delio â llifogydd trymach.

Cafodd Llyn Felin Gât hefyd ei thrawsnewid drwy greu pistyll naturiol yr olwg a chyda chored hir. Mae pompren nawr yn rhedeg dros y gored fel y gall ymwelwyr sefyll a’r dŵr yn taranu o danynt. Roedd Selwyn Jones, saer maen dawnus y prosiect, yn rhan o’r gwaith adfer. Ef fu’n gyfrifol am adnewyddu’r bont sydd wedi’i rhestru’n Radd II, pistyll Llyn Mawr (arllwysfa un), muriau hanesyddol y rhaeadr yn Llyn Felin Gât, a’r rhaeadr. Er mwyn i Selwyn allu gweithio ar y rhaeadr eiconaidd hon, codwyd sgaffaldiau braced – cryn gamp beirianegol ynddi’i hun, a chafodd y dŵr ei ddargyfeirio ar hyd pibell wrth ymyl y rhaeadr. Yn narlun Thomas Hornor mae’r bont yn edrych fel pe bae’n crogi yn yr awyr, ond yn sicr ni fydd hynny’n wir am ein pont newydd ni, sydd wedi ei gosod yn gadarn!

Mae yna chwe phont i gyd sy’n cysylltu i ddarparu cyfres o gylchedau cerdded ar hyd y dirwedd. Cyrhaeddodd y ddwy bont ddur, a wnaed gan gwmni Afon Engineering yn Abertawe, ar graeniau ym mis Awst 2019. Gosodwyd y pedair pont arall yn ystod haf 2020.

Un o’r rhannau pwysicaf yng ngwaith adfer y dirwedd yw’r llwybrau. Maent yn dueddol o gael eu hanwybyddu, ond maent yn rhwydwaith sy’n cysylltu’r nodweddion ac yn tynnu ymwelwyr i mewn i’r dirwedd. Yn ystod y prosiect mae llwybr newydd wedi ei greu drwy Goedwig y Tylwyth Teg, sy’n mynd heibio i dai’r tylwyth teg a’r caws llyffant a rhoi cipolwg ar y Llyn Mawr a’r parcdir y tu hwnt. Mae llwyfan syllu sydd wedi bod ynghudd am fwy na chanrif yn gyfle ichi weld a theimlo ehangder y Llyn Mawr a dangos ichi hefyd y ddwy bont ddur a’r argae anferth.

Hoffai Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru ddiolch yn fawr i’n holl gyllidwyr sydd wedi cefnogi’r prosiect hwn, mae’r rhain yn cynnwys Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol – a pawb sy’n chwarae’r Loteri Genedlaethol, Cyngor Sir Caerfyrddin, Llywodraeth Cymru, Esmée Fairbairn,  Sefydliad Waterloo, Ymddiriedolaeth y Pererinion, Sefydliad Tai Gwledig (Country Houses Foundation), Ymddiriedolaeth Patsy Wood, Ymddiriedolaeth Monument,  Sefydliad Garfield Weston, ac yn olaf diolch enfawr i Ymddiriedolaeth Richard Broyd y mae ei gefnogaeth wedi bod yn amhrisiadwy.

Mae’r prosiect adfer hwn wedi cyfoethogi’r dirwedd drawiadol a gynlluniwyd er pleser ein holl ymwelwyr.

 

Mae’r parcdir sydd wedi’i adfer ar agor!

Dyma’ch canllaw i’r dirwedd ehangach, llynnoedd, rhaeadrau a phontydd.