Tirwedd wedi’i Chynllunio

Cyflwyniad

Wrth archwilio Gwarchodfa Natur Waun Las heddiw fe gewch dirwedd dawel, gytûn ac o’i chwmpas ffrâm o olygfeydd hardd gyda digonedd o fywyd gwyllt. Caeau bryniog, cadwyn o lynnoedd, rhaeadrau tawel a choedlannau aeddfed i gyd yn cyfrannu at dirwedd sy’n ymddangos yn fythol a diderfyn. Ond hoffem eich annog i edrych eto. Mae tirweddi sy’n cael eu rheoli yn bethau deinamig sy’n newid ymhen amser ac yn esblygu yn ôl perchennog, defnydd a dylanwad. Ychydig olion sydd o’r tir ffermio canol oesol neu’r gerddi blodau Jacobeaidd a oedd yno gynt, ar wahân i’r pridd maethlon gwych a adawyd ar eu hôl. Ond dydy’r holl hanes ddim wedi mynd ar goll, ac mae nifer o nodweddion y dirwedd yn atgof o orffennol Ystâd MIddleton a rhan yr ardd yn hanes honno. Roedd y prosiect Adfer o Gyfnod y Rhaglywiaeth sydd newydd ei gwblhau (2015 – 2020) yn archwilio hanes yr ystâd, yn adfer y dreftadaeth adeiladu, esthetig y parcdir a’r nodweddion dŵr. Mae’r prosiect a gefnogwyd gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri yn ofalus iawn wedi adfer nifer o’r elfennau a gafodd eu dogfennu ddechrau’r 1800au, fel llynnoedd, rhaeadrau, llwybrau a phontydd i wella’r Warchodfa Natur, gan ddarparu gwell mynediad i amgylcheddau hanesyddol a threftadaeth naturiol yr Ardd Fotaneg. Mae’r prosiect wedi ailsefydlu llawer o gymeriad y dirwedd a oedd yn ffasiynol yn ystod cyfnod y Rhaglywiaeth ac sydd nawr wedi ei hailddychmygu ar gyfer gardd fotaneg fodern.

Pam roedd cyfnod y Rhaglywiaeth yn gyfnod pwysig yn hanes gerddi?

Yn ystod y 1700au roedd syniadau William Kent (1685 – 1748), Lancelot ‘Capability’ Brown (1716 – 1783) a’u dehongliad o’r ‘ardd dirwedd’ yn cael eu parchu ledled Prydain a chyfandir Ewrop. Cafodd nifer o barciau a gerddi eu dylunio ar sail yr egwyddorion hyn neu dan eu cyfarwyddyd.  Ni wyddom ar hyn o bryd pwy oedd dylunydd/dylunwyr prif gynllun Ystâd Middleton ddiwedd y 1700au a dechrau’r 1800au, ond mae ychydig dystiolaeth yn awgrymu bod Samuel Lapidge yn eithaf tebygol. Roedd Lapidge yn gweithio i Brown fel drafftsmon a byddai’n dilyn ei athroniaeth yn frwd ac yn rhannu ei deimladau. Parhaodd i ddilyn syniadau a dulliau Brown ar ôl marwolaeth hwnnw, a chwblhaodd nifer o’i brosiectau anorffenedig. Mae’r berthynas â phensaernïaeth neo-glasurol a’r prif nodweddion a ddefnyddiwyd yn awgrymu parhad, a bod etifeddiaeth barhaus Lancelot ‘Capability’ Brown wedi helpu llunio Middleton.

Fodd bynnag, roedd cyfnod newydd yn hanes gerddi ar fin dechrau, ac ni fyddai gerddi tirwedd yn edrych yr un fath byth wedyn. Roedd y mudiad rhamantaidd mewn celfyddyd yn ysbrydoli penseiri i ymdrechu am yr aruchel a’r darluniadol, cynyddodd y feirniadaeth ar etifeddiaeth Brown, a chydiodd Humphry Repton yn fuan yn ei fantell fel pensaer tirweddu arbennig y cyfnod. Roedd Repton yn gynllunydd ac awdur trwyadl, a byddai ei lyfrau a’i gofnodion yn cael eu darllen yn eang gan y rhai a oedd yn ymddiddori mewn ystadau, gerddi a garddwriaeth. Roedd ei safbwyntiau’n anodd eu hanwybyddu, ac mae cymeriad tirwedd Middleton yn nodweddiadol o’r cyfnod hwn. Cafodd dylanwadau Repton a rhai rhamantaidd eu dogfennu yng nghofnodion artistig Thomas Hornor o’r ystâd o 1815 ymlaen. Roedd parodrwydd i Middleton fod yn dirwedd fodern a chyfoes ac i fod yn agored i newid. Cyfnod byr mewn hanes oedd cyfnod y Rhaglywiaeth, ond roedd pensaernïaeth tirweddu yn fan troi pwysig yn ystod y cyfnod hwn a fyddai’n llunio’r ffordd rydym yn rheoli parcdiroedd a gerddi heddiw. Mae nifer o’r nodweddion sydd i’w gweld yn yr Ardd Fotaneg heddiw yn brin ac yn arwyddocaol yn hanesyddol. Mae’r Ardd Fotaneg wedi ei rhestru yng Nghofrestr Cadw/ICOMOS o Barciau a Gerddi o Ddiddordeb Hanesyddol Arbennig yng Nghymru (Gradd II*) sy’n cydnabod ei phwysigrwydd.

Coed

Defnyddid coed mewn gerddi tirwedd i fframio golygfeydd, i gael eu hedmygu mewn clystyrau bach neu fel enghreifftiau unigol. Gan fod iddynt fywyd maith, mae coed yn aml yn drech na hanes, perchnogion a defnydd tir, gan adael etifeddiaeth i’r dyfodol.  Mae rhai o’r coed a blannwyd yng nghyfnod y Rhaglywiaeth i’w gweld yma fel y rhai hynaf yn y coedydd a’r parcdir. Y prif goed yng Nghoedlan Afon Gwynon yw deri (Quercus spp.) a ffawydd (Fagus sylvatica) a phlannwyd yn y parcdir sydd wedi’i ddylunio amrywiaeth o  goed brodorol a rhai wedi ymgartrefu. Mae oestrwydd (Carpinus betulus), castanwydd pêr (Castanea sativa), celyn (Ilex aquifolium) a choed cyll (Corylus avellana) i gyd wedi eu defnyddio i greu argraff o ystâd fythol. Fel rhan o brosiect adfer cyfnod y Rhaglywiaeth, cafodd nifer o’r twmpathau a lleiniau parcdir eu hail-greu gyda llawer o blannu o’r newydd. Dim ond prin dechrau ymsefydlu mae’r coed ifanc, ond byddant yn llunio’r dirwedd am flynyddoedd i ddod.

Defnyddiwyd coed conwydd hefyd mewn cynlluniau plannu hanesyddol, ac roeddent yn ffefryn am eu bod yn fythwyrdd ac yn tyfu’n gyflym. Defnyddiwyd pinwydd yr Alban (Pinus slyvestris) a ffinidwydd arian (Abies alba) ar yr ystâd. Ychydig enghreifftiau o goed conwydd sydd ar ôl oherwydd cynaeafu’r coed ddiwedd y 1930au. Ond erbyn hyn mae’r rhai a gafodd eu hachub yn goed sylweddol eu maint, wedi’u llunio gan amser, y prif wynt a’u hamgylchedd.

Mae’r dirwedd wedi parhau i esblygu ar ôl cwblhau’r prosiect. Mae presenoldeb afiechyd Lladdwr yr Ynn (Hymenoscyphus fraxineus) wedi cael cryn effaith ar goed yn y Warchodfa Natur. Mae’r mater yn cael ei reoli’n brysur drwy deneuo a  thorri’n ofalus. Gall rhai coed ynn wrthsefyll yr afiechyd ac ni fydd yn effeithio arnynt, ond collir y mwyafrif. Bydd yr Ardd Fotaneg yn parhau i adfer cymeriad hanesyddol y parcdir drwy ailblannu. Bydd rhywogaethau gwahanol o goed sy’n gysylltiedig â’r cymunedau planhigion presennol neu â’r hanes yn cael eu defnyddio i greu parcdir amrywiol a llennyrch, cynefinoedd bioamrywiol ac amgylcheddau cyfoethogi er mwyn eich mwynhad a’ch llesiant chi.

Porfeydd

Byddai parcdir mewn gerddi tirwedd yn fwriadol yn llyfn, ychydig yn fryniog ac yn fannau tawel. Yn Middleton byddai gwartheg a defaid yn pori’r tir porfa eang heb ei rannu gan helpu creu effaith caeau glas bryniog. Byddai rhai twmpathau a lleiniau o goed parcdir yn cael eu gosod yn fwriadol er mwyn diddordeb a chysgod. Dim ond lonydd gwyrdd, cylchedau ymylol a llynnoedd wedi’u hamgáu oedd yn amgylchynu’r parcdir agored a ddogfennwyd gan Horner ym 1815. Adnewyddwyd llawer o gymeriad y parcdir yn ystod prosiect Cyfnod y Rhaglywiaeth drwy ailagor y llynnoedd, plannu coed, dileu ffiniau’r caeau a dal i bori’r tir porfa gan wartheg a defaid.

Bydd cymdeithas, ideoleg a blaenoriaethau’n newid ymhen amser. Yn ystod cyfnod y Rhaglywiaeth roedd parcdir yn gynfas i ymarfer rheolaeth dros dirwedd a natur er mwyn mynegiant artistig – fersiwn ddelfrydol o gefn gwlad er mwyn pleser. Heddiw mae ein gwybodaeth a’n dealltwriaeth o fyd natur wedi datblygu’n sylweddol ac rydym yn deall yn well yr angen i warchod a meithrin bioamrywiaeth. Caiff tir ei reoli’n gynyddol gan feddwl am gadwraeth a gwytnwch ecolegol. Felly, nid lleiniau o borfa sy’n cael e pori’n fyr yw porfeydd y Warchodfa Natur, ond cymunedau amrywiol a chymhleth o blanhigion tir porfa a ffyngau. Mae ffermio organig (yn cael ei ardystio gan Soil Association), targedu pori ac arferion cadwraeth i gyd yn cael eu defnyddio i helpu planhigion a chreaduriaid i ffynnu.  Ers dyfarnu statws Gwarchodfa Natur genedlaethol i’r Ardd yn 2008, mae’r parcdiroedd o gyfnod y Rhaglywiaeth wedi eu trawsnewid drwy ffermio adferol a gwaith y staff a’r gwirfoddolwyr, gan weithio i gefnogi cenhadaeth yr Ardd Fotaneg yn adnodd gwerthfawr ar gyfer cadwraeth bioamrywiaeth.