Siopa a Bwyta

Mae gennym ddewis ardderchog o lefydd i fwyta, yfed a siopa yn yr Ardd

Caffi Botanica

O fewn yr Ardd, mae ein Caffi Botanica, a leolir yn y Bloc Stablau, yn lle ardderchog i fwyta pryd twym hyfryd, byrbrydau neu frechdanau.  Yma ry’n ni’n amcanu at ddefnyddio bwydydd sydd mor organig a lleol ag sy’n bosibl, gan gynnwys cynnyrch a dyfwyd yn yr Ardd ei hun.

Oriau agor

Gaeaf – 10yb – 3.30yp (bwyd poeth yn cael ei weini 12pm – 2pm)

Haf – 10yb – 4yp (bwyd poeth yn cael ei weini 12pm – 2pm)

Siop Botanica

Hefyd o fewn y Bloc Stablau y mae ein Siop Roddion. Mae hwn yn cynnwys amrywiaeth eang o gynnyrch, o grefftau lleol Cymreig i anrhegion sydd ar gael yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol yn unig. Ffoniwch 01558 667168 er mwyn cysylltu â’r Siop yn uniongyrchol.

Oriau agor

Gaeaf – 10yb – 3.45yp

Haf – 10yb – 5yp

Canolfan Arddio Botanica

Mae ein Canolfan Arddio – Y Pot Blodyn – sydd wedi’i lleoli ger y fynedfa i ymwelwyr, yn gwerthu anrhegion garddio, potiau a phlanhigion, o’r cyffredin i’r ecsotig.   Mae mynediad i’r Pot Blodyn YN RHAD AC AM DDIM.