15 Meh 2017

Cylchlythyr yr Ardd – Mehefin 15

Ardd Fotaneg · Botanic Garden

Croeso i gylchlythyr diweddara’r Ardd, os hoffech ei dderbyn yn syth i’ch cyfeiriad e-bost, cofrestrwch yma.

Gweler y cylchlythyr llawn yma.

Sul y Tadau

 

Mae mynediad AM DDIM i Ardd Fotaneg Genedlaethol Cymru i bob tad, tad-cu a hen dad-cu ar Sul y Tadau, Dydd Sul Mehefin 18fed.
Mae digon o bethau ymlaen i dad, gydag arddangosfeydd hedfan o adar ysglyfaethus, sioeau hud a lledrith gan y dewin Luke Jugglestruck, cerddoriaeth boblogaidd gan y band ‘The Havishams’, saethyddiaeth yn yr Ardd Allanol a hwyl a gemau di-ri.

 

Gewch dad i roi cynnig ar y ddrysfa wellt a sorbio dŵr ar ei diwrnod arbennig ac yna beth am drin ef i rywbeth arbennig o farbeciw a bar yr Ardd.

 

Bydd yna beint o gwrw am ddim am y 50 tad cyntaf i mewn i’r Ardd ar Ddydd Sul!

 

Mae mynediad i’r Ardd yn RHAD AC AM DDIM i bob tad.  Mae mynediad arferol yn £10.50 (gan gynnwys Cymorth Rhodd).
Am fwy o wybodaeth am hyn neu ddigwyddiadau eraill, ffoniwch 01558 667149 neu e-bostiwch info@gardenofwales.org.uk

 

Cyngerdd Kate Rusby

Bydd Kate Rusby, seren cerddoriaeth werin, yng nghyngerdd yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru ar Ddydd Sadwrn Gorffennaf 15fed.

 

Un o ddehonglwyr gorau o werin draddodiadol ac yn un o gyfansoddwyr caneuon gorau’r DU, bydd Kate ar y llwyfan yn yr Ardd o 7:30yh.

 

Mae hi wedi cael ei henwebu ar gyfer Gwobr Mercury, ac wedi derbyn gwobrau am Ganwr Gwerin y Flwyddyn, Perfformiwr Fyw’r Flwyddyn, Albwm Gorau a Chân Wreiddiol Gorau yng Ngwobrau Gwerin BBC Radio 2.

 

Ar fin chwarter canrif o greu cerddoriaeth, gwnaeth Kate Rusby rhyddhau ei 14eg albwm stiwdio Life in a Paper Boat yn hwyr y llynedd i adolygiadau gwych.

 

Mae tocynnau yn £25 ac ar gael o Eventbrite, a Derricks Music yn Stryd Rhydychen, Abertawe.

 

Cyngerdd Gŵyl Ifan

Bydd Chwedleuon Dawns yn cymryd i’r llwyfan am Gyngerdd Gŵyl Ifan yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru.

Bydd y gerddorfa Symphonica Tywi, gyda 45 o aelodau, yn chwarae o 7:30yp tan iddi dywyllu ar Ddydd Sadwrn Mehefin 24ain gyda’r noswaith i fod yn wledd o gerddoriaeth dawns glasurol.
Meddai’r arweinydd Mike Cottam: “Mae cymaint o ddewis, ond byddwn yn rhoi’n droed orau ymlaen gyda chaneuon gan Gilbert & Sullivan, South Pacific, Sleeping Beauty, Danzón Rhif 2 gan Arturo Márquez a llawer mwy.”
Dewch â’ch picnic a dathlwch Flwyddyn Chwedlau a noson Gŵyl Ifan i’w gofio.
Mae tocynnau ar werth nawr am £14 (£12 i aelodau’r Ardd). Prynwch eich rhai chi drwy ffonio 01558 667149.

 

Yr Ardd – Cylchgrawn i Aelodau

 

Mae rhifyn diweddaraf Cylchgrawn i Aelodau’r Ardd, Yr Ardd, ar gael nawr!

 

Os ydych yn Aelod a hoffech dderbyn copi, neu os hoffech fwy o wybodaeth am ddod yn Aelod yr Ardd, cysylltwch â Jane Down ar 01558 667118 neujane.down@gardenofwales.org.uk

 

Pamffled Digwyddiadau’r Haf

 

Mae pamffled Digwyddiadau’r Haf 2017 yr Ardd nawr ar gael hefyd!

 

Galwch i mewn i gasglu copi i weld y rhestr wych o ddigwyddiadau sydd gennym dros y misoedd nesaf.

 

Taith Adfer y Parcdir

 

I gael gwybod mwy am barcdir hanesyddol ac anhygoel Syr William Paxton a chael y wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd ein Prosiect Adfer y Parcdir Godidog, ymunwch â Louise Austin, Swyddog Treftadaeth yr Ardd, am 2yp y Dydd Gwener hwn, o Fynedfa Orllewinol y Tŷ Gwydr Mawr am daith tywys o ddwy awr o hyd.

 

Mae’r tir yn anwastad a gall fod yn fwdlyd; gwisgwch esgidiau cadarn.

 

Diwrnod Blodau Gwyllt

 

Gallwch fwynhau taith dywys ar draws caeau o flodau hyfryd, a gweld pilipalod a thegeirianau ar Ddydd Sul, 24ain o Fehefin.

 

Cewch gwrdd â gwenynwyr brwd yr Ardd Wenyn, ac artistiaid a chrefftwyr sy’n creu gweithiau blodeuol.

 

A bydd gwyddonwyr yma’n dangos sut i wneud breichled DNA hwrli-bwm!