Cwblhau pennod tair blynedd yn y Llysieufa
Mae’r Llysieufa yma yn yr Ardd wedi bod yn fwrlwm o weithgarwch yn ystod y tair blynedd ddiwethaf, diolch i gyllid gan Fenter Casgliadau Dynamig Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol. Prif nod prosiect Planhigion y Gorffennol, y Presennol a’r Dyfodol oedd digideiddio cyfran fawr o gasgliad yr Ardd Fotaneg o blanhigion wedi’u gwasgu, cynhyrchu lluniau o ansawdd uchel o bob sbesimen, cipio gwybodaeth oddi ar y labeli, a sicrhau eu bod i gyd ar gael ar lein.

Fodd bynnag, mae’r prosiect hwn wedi bod yn gymaint mwy na hynny!
Bu’r Llysieufa’n adnodd gwych i bawb – o ymchwilwyr i artistiaid, teuluoedd, myfyrwyr, a phobl nad oedden nhw hyd yn oed wedi clywed am lysieufa o’r blaen. Yn ystod y tair blynedd ddiwethaf, rydyn ni wedi croesawu grwpiau cymunedol i fyd sydd fel arfer wedi’i guddio o olwg y cyhoedd, gan roi cyfle iddyn nhw drin sbesimenau, curadu casgliadau, a darganfod y straeon sydd wedi’u gwasgu rhwng y dalennau. Mae ein digwyddiadau cyfeillgar i’r teulu wedi ysbrydoli plant ac oedolion fel ei gilydd i archwilio’r planhigion yn eu gerddi, mewn gwrychoedd, ac yn eu mannau gwyrdd lleol – ac rydyn ni wedi gwasgu llawer o blanhigion ar hyd y daith.
Rydyn ni wedi cynnal teithiau ar gyfer grwpiau prifysgolion ac ymwelwyr, creu adnoddau addysgol newydd gyda’n tîm Addysg gwych, a hyd yn oed wedi croesawu Artist Preswyl, Lily Tiger, y bu i’w gwaith gysylltu’n hyfryd â’r gweirgloddiau blodau gwyllt ar Warchodfa Natur Genedlaethol Waun Las. Gallwch ddarllen mwy am amser Lily yn yr ardd yn y blog hwn.

Taith tu ôl i’r llenni





Y tu ôl i’r llenni, mae staff, myfyrwyr a gwirfoddolwyr wedi bod yn gweithio’n ddiflino i ddigideiddio’r casgliad hanesyddol o fflora o Brydain ac Iwerddon a gronnwyd gan James Cosmo Melvill (1845–1929) ac a roddwyd i ni gan Ysgol Harrow yn 2011. Mae gwirfoddolwyr wedi cymryd rhan ym mhob cam: trwsio sbesimenau a sicrhau labeli, dyrannu codau bar, ffotograffiaeth, a’r cam a aeth â’r mwyaf o amser, trawsgrifio gwybodaeth o’r labeli. Ar ôl dwy flynedd a hanner, maen nhw wedi cyfrannu dros 5,000 o oriau ac wedi cyflawni’r canlynol:
- 26,000 o sbesimenau wedi cael eu gwarchod ac wedi cael cod bar
- 17,500 o sbesimenau wedi cael eu delweddu
- tua 10,000 o sbesimenau wedi cael eu trawsgrifio
- Ymchwiliodd dros 300 o gasglwyr
“Mae’r cyfle i gyfrannu mewn ffordd fach at y prosiect cyffrous hwn wedi bod mor werthfawr ar lefel bersonol hefyd. Sgiliau newydd, gwybodaeth gynyddol a chydweithwyr diddorol. Diolch am y cyfle.”
“Profiad hynod werth chweil: heriol a boddhaol a phleser gweithio gyda grŵp gwych o bobl.”
“Er bod casgliad y llysieufa yn eiddo i James Cosmo Melvill, mae mewn gwirionedd yn cynnwys sbesimenau llysieufa a gasglwyd ganddo ef, a chasglwyr planhigion eraill hefyd, naill ai trwy brynu’r casgliadau hyn, neu eu caffael trwy wahanol Glybiau Cyfnewid Botanegol (tebyg i glybiau cyfnewid hadau neu blanhigion heddiw). Rwyf wedi mwynhau edrych ar fywydau’r casglwyr hyn, sydd â chyfanswm o dros 350 cyn belled, ac wedi dysgu cymaint am gaiff y planhigion hyn eu cadw, a sut mae’r Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig a’r ardaloedd arbennig sydd gennym heddiw mor ddyledus i’r casglwyr hyn.”
“Rydw i wedi mwynhau fy amser gyda phrosiect y llysieufa yn fawr iawn. Dysgu sgiliau newydd yn ogystal â dysgu am y planhigion, y lleoedd a’r bobl sy’n rhan o’r casgliadau. Diolch am roi’r cyfle i mi gymryd rhan”.
“Fe wnes i fwynhau gweithio ar y prosiect gyda’r staff a’r gwirfoddolwyr yn fawr iawn. Roedd yn un o uchafbwyntiau fy mlwyddyn lleoliad, gan roi sgiliau a phrofiad amhrisiadwy i mi ar gyfer fy ngyrfa yn y dyfodol”.
Dyfyniadau a ddarparwyd gan wirfoddolwyr llysieufa
Rydyn ni’n eithriadol o ddiolchgar i’n tîm o wirfoddolwyr, sydd wedi dod yn llysgenhadon gwirioneddol ar gyfer y Llysieufa – cwmni ymrwymedig , brwdfrydig, a hyfryd. Diolch enfawr i bob un ohonoch chi.

I helpu gyda’r toreth o waith trawsgrifio, roedden ni hefyd wedi ymuno â DigiVol, sef llwyfan digideiddio sy’n cael ei letya gan yr Atlas of Living Australia. Ers lansio ein proffil ym mis Mawrth 2024, mae 105 o wirfoddolwyr o bob cwr o’r byd wedi trawsgrifio dros 3,000 o sbesimenau. Rydyn ni wedi gwneud cysylltiadau gwych trwy’r llwyfan hefyd. Diolch enfawr arall i bawb sydd wedi cyfrannu.
Os hoffech chi gymryd rhan, does dim rhaid i chi fod yn fotanegydd. Gallwch ddysgu rhagor am DigiVol a sut i gofrestru yn y blog isod: Trawsgrifio’r Gorffennol
Byddwn ni’n cymryd egwyl fer dros yr haf, ond mae gan Ardd Fotaneg Frenhinol Kew a Gardd Fotaneg Frenhinol Caeredin, fel ei gilydd, gasgliadau ar gael ar DigiVol os hoffech roi cynnig arni.
Wrth gwrs, dydy’r llif gwaith ddim yn dod i ben gyda thrawsgrifio. Wedi i’r data gael eu cipio, mae’r Tîm Gwyddoniaeth yn gwirio ansawdd y data trwy ddefnyddio adnodd Plants of the World Online Kew, gan ddiweddaru enwau planhigion a gwneud addasiadau terfynol cyn i’r sbesimenau fynd yn fyw.
🎉Un o brif dargedau ein prosiect oedd sicrhau bod 5,000 o sbesimenau ar gael yn llwyr ar-lein. A wyddoch chi beth – rydyn ni wedi llwyddo. Mae 5,100 o sbesimenau bellach yn fyw ar ein tudalen Archwilio’r Llysieufa newydd i chi bori drosti wrth eich pwysau🎉
Mae dirwyn y prosiect hwn i ben yn teimlo fel carreg filltir wirioneddol i’r Ardd. Diolch i ymroddiad staff, gwirfoddolwyr, grwpiau cymunedol a chefnogwyr pell ac agos, mae’r Llysieufa bellach yn fwy hygyrch, yn fwy cysylltiedig ac yn fwy byw nag erioed. Mae yna ddigon o waith i’w wneud o hyd i roi gweddill y casgliad ar-lein, ond mae cyrraedd y pwynt hwn wedi rhoi hwb enfawr i ni. Rydyn ni’n llawn cyffro ynghylch y bennod nesaf, ac yn edrych ymlaen at rannu’r daith â chi wrth i’r casgliad barhau i dyfu.
Mae prosiect Planhigion y Gorffennol, y Presennol a’r Dyfodol yn digideiddio ein llysieufa ac yn cael ei ariannu gan fenter Casgliadau Dynamig Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol, a wnaed yn bosibl diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol.
