Fis Awst eleni, cynhaliodd yr elusen Botanic Gardens Conservation International (BGCI) ei 8fed Cyngres Gerddi Botaneg y Byd yn ninas ysblennydd Singapore.
Roedd tîm o Ardd Fotaneg Genedlaethol Cymru yn bresennol, a oedd yn cynnwys myfi fy hun (Cynorthwyydd Ymchwil a Chasgliadau yn y Tîm Gwyddoniaeth), Freddy (Hyfforddai Garddwriaethol), Elizabeth (Garddwriaethydd y Tŷ Gwydr) a Mia (Garddwriaethydd y Rhodfa). Roedd y daith hon yn brofiad bythgofiadwy gan iddi roi cyfle i ni gyfnewid syniadau, arddangos ein gwaith ac atgyfnerthu ein cysylltiad â rhwydwaith byd-eang o erddi botaneg.
Darllenwch fwy am yr hyn a wnaethom ar ein taith, a beth y bu i ni ei ddysgu o’r Gyngres!

‘Meddwl yn Fyd-eang, Gweithredu’n Lleol’
Daeth y digwyddiad â chymuned fyd-eang o 900 o gynrychiolwyr ynghyd, cynrychiolwyr a oedd yn cynnwys academyddion, ymchwilwyr, llunwyr polisi, staff gerddi botaneg a selogion planhigion, a hynny o bob rhan o’r byd.
Roedd y thema, “Gerddi Botaneg – Pobl a Phlanhigion ar gyfer Dyfodol Cynaliadwy”, yn canolbwyntio ar y modd y gall gerddi botaneg helpu i fynd i’r afael â heriau byd-eang, megis colli bioamrywiaeth, y newid yn yr hinsawdd a materion cymdeithasol.
Un neges allweddol i’w chadw mewn cof oedd “meddwl yn fyd-eang, gweithredu’n lleol,” sy’n annog camau gweithredu lleol i fynd i’r afael â heriau byd-eang. Roedd yn neges bwerus i’n hatgoffa o’r modd y mae ymdrechion cadwraeth lleol yn cyfrannu at y frwydr fyd-eang yn erbyn colli bioamrywiaeth.
Mae hyn yn rhoi ystyr ychwanegol i’n gwaith o warchod fflora Cymru yn y banc hadau ac mewn casgliadau byw. Mae gan bob gardd fotaneg ran i’w chwarae o ran diogelu bioamrywiaeth y blaned, felly trwy warchod ein rhywogaethau brodorol rydym yn cyfrannu at ddarlun llawer mwy.
Mewnwelediad i Fancio Hadau
A minnau’n aelod o’r Tîm Gwyddoniaeth yma yn yr Ardd Fotaneg, mae llawer o’m gwaith yn ymwneud â Banc Hadau Cenedlaethol Cymru, lle rydym yn casglu ac yn cadw hadau rhywogaethau brodorol Cymru. Felly, roeddwn yn arbennig o gyffrous yn cael cwrdd â gweithwyr proffesiynol eraill ym maes bancio hadau a dysgu am eu gwaith yn gwarchod fflora o bob math o gynefinoedd a hinsoddau.
Roedd yn ysbrydoliaeth ac yn agoriad llygad dysgu am ddulliau amrywiol o fancio hadau, a’r heriau unigryw sydd i gynnal gwaith maes mewn rhanbarthau gwahanol. Er enghraifft, i wneud casgliadau ar gyfer y Banc Hadau Cadwraeth Fictoraidd yn Awstralia, mae’n rhaid i’r timau fynd mewn hofrennydd yn aml i gyrraedd y safleoedd gan fod y rhywogaethau’n tyfu mewn lleoliadau anghysbell.
Roedd uchafbwyntiau eraill a amlygwyd yn y sgwrs am fancio hadau yn cynnwys:
- Digideiddio casgliadau hadau trwy dynnu lluniau uchel eu hansawdd ohonynt fel y gallant gael eu cyrchu’n ehangach (Kingsley et al., 2022).
- Bancio paill a datblygu protocolau cadwraeth paill, sef cysyniad newydd i mi.
- Defnyddio dronau i gasglu hadau o leoliadau anghysbell yn Hawaii (Nyberg et al., 2024), gwaith a ymddangosai’n drawiadol.
Banc Hadau Gerddi Botaneg Singapore
Un o uchafbwyntiau’r daith oedd ymweld â Banc Hadau Gerddi Botaneg Singapore. Wedi’i sefydlu yn 2019, sef yn yr un flwyddyn â’n banc hadau ni, mae’n canolbwyntio ar warchod fflora De-ddwyrain Asia.
Er bod llawer o agweddau ar eu gweithrediadau yn debyg i’n rhai ni – megis y cyfarpar glanhau a phrosesu hadau – roedd ganddynt hefyd ddatblygiadau arloesol megis labordai storio cryogenig ar gyfer rhewi hadau’n ddwfn, a pheiriannau pelydr-X ar gyfer gwirio hyfywedd hadau. Roedd yn hynod o ddiddorol gweld banc hadau gwahanol ar waith, banc a oedd yn cadw hadau mewn amgylchedd trofannol ym mhen arall y byd.
Roedd maint mawr yr hadau a’r codennau trofannol yn gyferbyniad trawiadol i’r fflora brodorol yr wyf wedi arfer eu casglu yng Nghymru gan fod gofyn cael mwy o leoedd storio a chyfleusterau sychu a rhewi arbenigol. Roedd yr hadau a oedd yn cael eu harddangos ar hambyrddau yn edrych yn debycach i ginio bys a bawd na chasgliadau hadau!



Singapore megis ‘Dinas mewn Natur’
Singapore oedd y ddinas letyol berffaith ar gyfer y digwyddiad hwn, dinas sydd â gweledigaeth o fod yn ‘Ddinas mewn Natur’, gweledigaeth y gallem ei gweld yn cael ei harddangos trwy ei seilwaith gwyrdd a’i chynllun trefol bioffilig. O Erddi Botaneg Singapore, sydd wedi’u rhestru gan UNESCO, i’r Gerddi dyfodolaidd ger y Bae (Gardens by the Bay), mae Singapore yn enghraifft o’r modd y gellir trawsnewid mannau trefol yn ecosystemau gwyrddlas, ffyniannus.
Wrth i ni grwydro’r ddinas, gwelsom y toreth o goed, a’r rheiny wedi’u gorchuddio â rhedyn rhyfeddol, tegeirianau ac epiffytau eraill, y cyfan yn ffynnu ymysg y nendyrau. Roedd y ffiniau rhwng adeiladau a mannau gwyrdd, yn ogystal â rhwng y tu mewn a’r tu allan, yn aml yn aneglur. Ar adegau, doedd hi ddim yn teimlo fel ein bod mewn dinas o gwbl, ond yn hytrach yng nghanol jyngl, lle caem gipolwg ar nenlinell y ddinas trwy’r canopi trwchus.
Uchafbwyntiau Eraill y Daith
Tra oeddem yn Singapore, bu i ni fanteisio ar fod mewn dinas mor anhygoel trwy archwilio llawer o’r atyniadau garddwriaethol a bywyd gwyllt sydd gan y ddinas i’w cynnig.

Our visit to Gardens by the Bay was spRoedd ein hymweliad â’r Gerddi ger y Bae yn drawiadol. Mae Coedwig y Cwmwl (Cloud Forest), gyda’i chromen wydr 58 metr o uchder a lle rheolir yr hinsawdd, wedi’i chynllunio i efelychu amodau claear, tarthog ucheldiroedd trofannol De-ddwyrain Asia.
Mae’r Gromen Flodau (Flower Dome) yn dynwared hinsawdd glaear a sych Môr y Canoldir – hinsawdd debyg i hinsawdd y Tŷ Gwydr Mawr yn ein Gardd Fotaneg ni, ac felly’n gartref i lawer o’r un rhywogaethau planhigion. Roedd yn ddiddorol gweld planhigion cyfarwydd yn cael eu harddangos mewn ffyrdd gwahanol, a rhoddodd hyn syniadau ar gyfer rhywogaethau a dulliau plannu newydd.


We also got to see the iconic Supertrees, towering above us, which are great examples of innovative biophilic and Cawsom hefyd weld y coed eiconig, yr Uwch-goed (Supertrees), a oedd fry uwch ein pen ac yn enghreifftiau gwych o ddylunio bioffilig a chynaliadwy arloesol. Wedi’u hysbrydoli gan goed ewcalyptws Gorllewin Awstralia, mae pob Uwch-goeden yn casglu dŵr glaw, mae ganddi baneli solar ar ei brig, ac mae wedi’i gorchuddio â phlanhigion dringo sy’n darparu cynefin.
Roedd Gerddi Botaneg Singapore hefyd yn drawiadol iawn, ac maent nid yn unig yn ganolfan gadwraeth, ond hefyd yn fan hardd lle mae pobl leol a thwristiaid, fel ei gilydd, yn mynd i ymlacio a mwynhau bod ym myd natur. Gwelsom lawer o fywyd gwyllt yn y Gerddi, gan gynnwys gloÿnnod byw, gweision y neidr, adar, dyfrgwn, a hyd yn oed y fadfall enfawr, y Monitor Dŵr Asiaidd!

Grymuso trwy Gydweithio
Pwysleisiwyd pwysigrwydd cydweithio trwy gydol y Gyngres, ynghyd â’r neges o gysylltu pobl â phlanhigion i’r dyfodol. Roedd y sesiynau’n atgyfnerthu’r syniad nad ymwneud â phlanhigion yn unig y mae cadwraeth – mae’n ymwneud â phobl hefyd. Mae grymuso cymunedau i gysylltu â phlanhigion a gweithredu yn hanfodol i ddiogelu ecosystemau a gwella llesiant cymdeithasol.
Wedi f’ysbrydoli gan y rhwydwaith byd-eang o weithwyr proffesiynol brwd y deuthum ar eu traws, rwy’n benderfynol o fynd â’r neges hon yn ei blaen a chymhwyso’r hyn a ddysgais i lywio fy ngwaith a chryfhau ein hymdrechion yn yr Ardd Fotaneg i warchod fflora Cymru.
Ni fyddai’r daith drawsnewidiol hon wedi bod yn bosibl heb gefnogaeth yr RHS ac Ymddiriedolaeth Myrddin, y bu i’w bwrsariaethau hael ein galluogi i fynd.
Pwyswch yma i ddarllen yr adroddiad llawn