Mae’r misoedd diwethaf wedi bod yn rhai prysur iawn i’r staff Gwyddoniaeth a Garddwriaeth wrth iddynt fentro i bob twll a chornel o Gymru i wneud casgliadau hadau eleni.
Nid yn unig y mae hyn yn gyffrous wrth i ni barhau i ehangu Banc Hadau Cenedlaethol Cymru, ond mae’n golygu bod ein Llysieufa yn ehangu hefyd!


Pan wneir casgliadau hadau, un gofyniad yw cael Sbesimen Taleb. Yn syml, mae hyn yn golygu torri rhan o’r planhigyn sy’n eich galluogi i weld yn glir yr holl nodweddion sy’n fodd i’w adnabod, megis siâp y dail, lliw’r blodau, yr hadau, ac ati. Mae’r rhan hon wedyn yn cael ei rhoi mewn gwasg a fydd yn mynd yn ôl i’r ganolfan, a’i throi’n sbesimen ar gyfer y llysieufa. Mae hwn yn gam pwysig gan ei fod nid yn unig yn creu cofnod parhaol o’r planhigyn, ond mae hefyd yn ffordd ddefnyddiol iawn o sicrhau bod gennych y rhywogaeth gywir, a gall hyd yn oed gael ei samplu ar gyfer echdynnu DNA!
Gelwir y gweisg yr ydym yn eu defnyddio yma yn yr ardd yn weisg maes. Maent yn syml ond wedi’u cynllunio’n arbennig i ddal casgliadau amryfal o blanhigion ac atal lleithder rhag cronni. Maent wedi’u gwneud o bren i ganiatáu pwysau gwastad ar draws y wasg ac i roi cryfder.


Ar ôl i’r planhigion gael eu casglu, dilynir y camau isod:
Rhowch y planhigion mewn darnau o bapur wedi’u plygu, wedi’u dal rhwng papur blotio amsugnol.
Yna caiff y rhain eu gosod rhwng dalennau o gardbord rhychiog i gadw’r sbesimenau’n wastad.
Ailadroddwch y broses nes bod y wasg yn llawn. Weithiau byddwn hefyd yn cynnwys dalennau ewyn i gynorthwyo’r llif aer ac i helpu i wasgu sbesimenau mwy swmpus.
Defnyddir dwy strap glicied i gadw’r wasg yn dynn. Dylai edrych fel brechdan wasg neis iawn.
Ar ôl cyrraedd yn ôl yn y ganolfan mae angen cadw’r gweisg mewn ystafell sych i ganiatáu i’r planhigion sychu’n dda yn y wasg. Gellir newid y papur blotio bob dau ddiwrnod i helpu yn hyn o beth. Rydym yn rhoi ein gweisg yn y deoryddion yn y banc hadau ar y gosodiad sychu (18⁰C). Gall gymryd rhwng wythnos a phythefnos i’r sbesimenau fod yn hollol sych, weithiau’n hirach yn dibynnu ar y planhigyn.
Pan fydd y gweisg yn barod i ddod allan o’r deoryddion, rydym yn gwirio bod popeth wedi sychu’n dda. Gan gadw’r planhigion yn y darnau o bapur sydd wedi’u plygu, rydym yn eu rhoi mewn bocs mewn bag plastig wedi’i selio, sydd wedyn yn cael ei roi yn y rhewgell ar -28⁰C – cam pwysig iawn i sicrhau bod y sbesimenau’n rhydd rhag pryfed sy’n bwyta planhigion, cyn i’r sbesimenau gael eu rhoi yn ein Llysieufa.
Yna caiff y sbesimenau eu cysylltu’n ofalus ar ddalennau archifol, gyda label, a’u storio’n ddiogel mewn cypyrddau

Mae prosiect Planhigion y Gorffennol, y Presennol a’r Dyfodol yn digido ein llysieufa ac yn cael ei ariannu gan fenter Casgliadau Dynamig Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol, a wnaed yn bosibl diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol.
