26 Gorff 2024

Dathlu Wythnos Genedlaethol Gwyfynod

Ellyn Baker

Yr wythnos hon, rydym wedi bod yn dathlu Wythnos Genedlaethol Gwyfynod, sef adeg i arddangos yr amrywiaeth anhygoel o rywogaethau gwyfynod a’u cynefinoedd.

Mae gwyfynod yn perthyn yn agos i loÿnnod byw, ill dau yn perthyn i’r urdd Lepidoptera, ond maent yn wahanol i loÿnnod byw mewn sawl ffordd:

  • Mae gan wyfynod deimlyddion pluog heb bêl ar y pen, tra bo gan loÿnnod byw deimlyddion tenau, clybiog.
  • Mae gan wyfynod siâp corff byrdew, mwy cadarn, tra bo gan loÿnnod byw siâp corff mwy llilin.
  • Mae gloÿnnod byw yn weithgar yn ystod y dydd, gan ddefnyddio’r haul i gynhesu gan mwyaf, tra bo gwyfynod yn nosol ac yn dirgrynu eu hadenydd i gynhyrchu gwres.

Fodd bynnag, mae yna bob amser eithriadau i’r rheolau – mae gan wyfynod bwrned deimlyddion clybiog ac maent yn hedfan yn ystod y dydd; gallwch weld digonedd ohonynt yn hedfa o gwmpas ein dolydd ar yr adeg hon o’r flwyddyn!

Mae gwyfynod yn beillwyr hanfodol, a gall eu tafodau hir gyrraedd y neithdar mewn blodau hirion siâp trwmped, megis gwyddfid, sy’n rhyddhau ei bersawr cryfaf yn ystod y nos i ddenu’r ymwelwyr nosol hyn. Mae blodau eraill sy’n hynod o ddeniadol i wyfynod yn cynnwys creulys, byddon chwerw, y gynffon las, grug, ac iorwg. Dangoswyd hyd yn oed fod gwyfynod yn beillwyr mwy effeithlon yn ystod y nos na pheillwyr sy’n hedfan yn ystod y dydd, megis gwenyn!

Trapio Gwyfynod

Un o’r dulliau gorau o arsylwi ar amrywogaethau gwyfynod yw trwy ddefnyddio trapiau golau; golau uwchfioled yw’r mwyaf effeithiol ar gyfer eu denu. Mae’r gwyfynod yn disgyn i’r trap ac yn ymgartrefu ar flychau wyau a osodwyd ynddynt, a chânt eu rhyddhau ar ôl cael eu hadnabod. Yn yr Ardd Fotaneg, rydym yn defnyddio trap Robinson, sef dyfais fawr ac ynddi olau llachar. Rydym yn rhedeg y trap hwn ddwywaith yr wythnos. Mae ein gwirfoddolwyr gwyfynod ymroddedig yn nodi pob rhywogaeth sy’n cael ei dal; gall hynny fod yn gannoedd yn ystod yr haf.

Ers i ni ddechrau cofnodi yn 1998, hyd yn oed cyn i’r Ardd agor i’r cyhoedd, gwnaed bron 6,000 o gofnodion o dros 600 o rywogaethau. Mae yna tua 2,500 o rywogaethau gwyfynod yn y DU, ac rydym wedi dod o hyd i chwarter y rhywogaethau hynny yma yn yr Ardd Fotaneg.

Pwysigrwydd Cofnodi Gwyfynod

Mae cofnodi gwyfynod wedi dod yn boblogaidd ymhlith unigolion sy’n frwdfrydig dros fywyd gwyllt a chofnodwyr amatur. Mae’r arfer hwn yn hanfodol ar gyfer monitro newidiadau yn nosbarthiad a phoblogaethau rhywogaethau. Mae hyn wedi dod yn fwy pwysig nag erioed i ddeall y modd y mae ecosystemau yn ymateb i’r hinsawdd a chynefinoedd newidiol, gan helpu i lywio ymdrechion cadwraeth.

Gallwch hyd yn oed adeiladu eich trap gwyfynod eich hun a dechrau cofnodi gwyfynod yn eich gardd. Edrychwch ar y canllaw defnyddiol hwn gan Butterfly Conservation i ddechrau arni.

Uchafbwyntiau ein Trapiau Gwyfynod

Dyma saith o’n hoff rywogaethau gwyfynod, pob un yn unigryw ac yn arbennig, a phob un wedi’i chofnodi yn yr Ardd Fotaneg:

Gwalch-wyfyn Helyglys (Deilephila elpenor)

Mae’r gwyfyn lliwgar hwn yn syfrdanol gyda’i liwiau trawiadol. Mae’r lindys yn bwydo ar helyglys hardd, ac yn edrych yn debyg i drwnc eliffant, sy’n rhoi’r enw Saesneg elephant hawkmoth i’r gwyfyn! Mae’r oedolion yn bwydo yn ystod y nos, a hynny o wyddfid a blodau tiwbaidd eraill, gan ddefnyddio eu tafodau hir i gyrraedd y neithdar; mae hyn yn eu gwneud yn beillwyr pwysig y nos.

Gwyfyn Cennog (Dichonia aprilina)

Mae’r Gwyfyn Cennog yn wir feistr ar guddio, gan ymdoddi i’r amgylchedd er mwyn gochel rhag ysglyfaethwyr. Mae’r oedolion yn hedfan o fis Medi i fis Hydref, gan fwydo ar flodau iorwg ac aeron goraeddfed, tra bo’r larfâu yn bwydo ar wahanol rywogaethau derw.

Blaen Brown (Clostera curtula)

Mae gan y gwyfyn hwn, sy’n ychwanegiad diweddar at ein cofnodion, flotyn lliw siocled ar ei adain flaen. Y tro cyntaf cafodd y gwyfyn hwn ei weld yn Sir Gaerfyrddin oedd yma yn yr Ardd Fotaneg yn 2023, diolch i’n gwirfoddolwyr gwyfynod. Mae’r lindys yn bwydo ar aethnenni a choed poplys eraill, ac yn treulio’r gaeaf ar ffurf chwiler mewn cocŵn rhwng y dail.

Ermin (Yponomeuta sp.)

Mae’r genws Yponomeuta yn cynnwys nifer o rywogaethau prydferth o ficrowyfynod sy’n anodd eu hadnod. Mae’r gwyfynod pitw hyn, sydd ag adenydd hyd at 12 mm o led, yn osgoi ystlumod trwy gynhyrchu cliciau uwchsain. Maent yn amlygu dynwarededd Mülleraidd gan rybuddio ysglyfaethwyr bod arnynt flas drwg.

Chwimwyfyn Mapadeiniog (Korscheltellus fusconebulosa)

Enwyd y gwyfynod hyn am y marciau tebyg i fap sydd ar eu hadenydd blaen; mae ganddynt deimlyddion byr, ond dim gên-rannau gweithredol. Maent yn treulio’r rhan fwyaf o’u bywydau ar ffurf lindys, yn bwydo ar wreiddiau rhedyn ac yn gaeafu ddwywaith cyn chwilera ar ôl treulio dwy flynedd dan ddaear.

Gwyfyn Arian y Drain (Cilix glaucata)

Mae lliw a siâp y gwyfyn hwn yn ei guddio dan rith baw adar. Er gwaethaf ei faint bach o 13 mm, caiff ei ddosbarthu’n facrowyfyn. Tra ei fod yn lindysyn mae’n bwydo ar ddrain duon, drain gwynion, a choed afalau surion. Dyma’r unig rywogaeth yn yr is-deulu bachadain nad oes ganddi adenydd blaen bachog.

Gwalch-wyfyn Pisgwydd (Mimas tiliae)

Mae gan y bwystfil o wyfyn hwn led adenydd o 70 mm a lliw pinc a gwyrdd amlwg, ac mae’n wahanol i unrhyw walch-wyfyn arall a geir yn y DU. Cafodd ei gofnodi gyntaf yn yr Ardd Fotaneg yn 2021, sef y cofnod mwyaf mewndirol yn Sir Gaerfyrddin, a dim ond llond llaw o weithiau y mae wedi’i weld ers hynny. Fel y mae ei enw’n awgrymu, mae’r lindys yn bwydo’n bennaf ar goed pisgwydd, ac fe’u gwelir gan amlaf yn cropian i lawr y boncyffion neu ar y ddaear yn chwilio am le i chwilera.

Dathlu Gwyfynod

I ddathlu Wythnos Genedlaethol Gwyfynod, roeddem wedi rhedeg trap gwyfynod ychwanegol a rhannu ein canfyddiadau â’r ymwelwyr, gan arddangos y gwyfynod anhygoel a ddaliwyd gennym. Fe lwyddon ni hyd yn oed i ddal rhywogaeth newydd arall i’r Ardd – Plu-wyfyn Byddon Chwerw (Adaina microdactyla), sydd heb ei gofnodi yma o’r blaen!

Uchafbwyntiau eraill o’n trap gwyfynod yr wythnos hon oedd cwpwl o Odreon Golau, Carpiog Cynnar, dau Yfwr Gwlith, Gem Pres Gloyw a’r micro-wyfynod Pyrausta purpuralis ac Aspilapteryx tringipennella. Mewn cyfanswm, daliom 53 o wyfynod o bron i 30 rhywogaeth!

Wythnos Genedlaethol Gwyfynod hapus!

Credyd Llun: Vaughn Matthews & Ellyn Baker