16 Meh 2021

Gwyfyn cyffrous wedi’i ddarganfod yn yr Ardd

Ardd Fotaneg · Botanic Garden

Er mwyn ceisio gwella fy sgiliau adnabod gwyfynod (ac i ddal rhai gwyfynod rwy’n awyddus i’w gweld erioed), dechreuais ddal gwyfynod yn fy ngardd gartref yn Swydd Efrog yn yr haf y llynedd. Rwy’’n teimlo’n frwd iawn dros beillwyr a’u gwarchod, felly, roedd dysgu mwy am wyfynod (sy’n cael eu hanwybyddu’n fawr iawn ac sy’n beillwyr pwysig) yn rhywbeth roeddwn yn awyddus iawn i’w wneud. Rydw i wedi bod yn dal gwyfynod hefyd nid yn unig o ran fy niddordeb fy hun, ond hefyd ar gyfer y grŵp gwyfyna a oedd yn arfer cwrdd yn yr Ardd bob wythnos cyn y cyfnod clo cyntaf yn 2020, ac sy’n dal i fethu â chyfarfod oherwydd cyfyngiadau.

Mae dal gwyfynod (gwyfyna) yn golygu gosod allan yr hyn sy’n edrych fel cynhwysydd mawr yn llawn blychau wyau (y bydd y gwyfynod yn ei eistedd arnynt ac yn cuddio danynt), gyda bwlb mawr neu gryf iawn ar ei ben. Mae hyn yn denu’r gwyfynod ac yn cael eu dal ystod y nos. Wedyn bydd y gwyfynod yn disgyn drwy dwll yn y trap i mewn i’r cynhwysydd islaw ac yn cael eu dal yno tan yn gynnar y bore (os na fyddant wedi llwyddo i ddianc) Wedyn gall y gwyfynod gael eu tynnu allan o’r trap a’u henwi cyn cael eu cuddio yn y llwyni rhag yr adar ac allan o’r haul. Mae gwahanol fathau o drapiau ar gael – trap Skinner sydd gen i gartref, a thrap Robinson yw’r un rwyln ei ddefnyddio yn yr Ardd. Fodd bynnag, gallwch wneud eich trap gwyfyna eich hun hefyd drwy ddefnyddio lliain wen a golau llachar yn disgleirio arni mewn ystafell yn eich tŷ, i weld beth fydd yn cael ei ddenu at eich ffenestr.

Mae cofnodi gwyfynod wedi dod yn bwysig iawn oherwydd, fel nifer o rywogaethau o bryfed, mae eu nifer yn disgyn oherwydd colli cynefinoedd a newid yn yr hinsawdd. Yn ôl yr adroddiad The State of Britain’s Larger Moths 2021, mae 41% o tua 900 o’n gwyfynod macro wedi lleihau’n sylweddol, fel y Lappet (Gastropacha quercifolia) a’r gwyfyn Oren (Angerona prunaria). Mae cofnodi pob math o fywyd gwyllt yn rhoi gwybod i wyddonwyr a chadwraethwyr ble mae rhai mathau i’w gweld (prin neu gyffredin). Mae hefyd yn golygu bod unrhyw dueddiadau neu newidiadau mewn niferoedd a dosbarthiad yn cael eu nodi. Fel hyn gall ymdrechion cadwraeth dargedu’n fwy i’r mannau lle mae eu hangen fwyaf. Gall yr holl gofnodi ddigwydd o’ch gardd neu unrhyw le y tu allan, felly does dim angen hyd yn oed ichi fynd ymhell i allu cofnodi bwyd gwyllt. Gallwch gofnodi hyd yn oed drwy edrych drwy eich ffenestr. Mae Abigail Lowe, myfyrwraig PhD yr Ardd, yn esbonio sut y gallwch gofnodi bywyd gwyllt yn eich gardd chi a ble i gyflwyno’ch cofnodion yn y blog hwn: <https://botanicgarden.wales/blogs/2020/04/get-started-with-wildlife-recording-in-your-garden/>

Rydw i wrth fy modd yn dal gwyfynod, a hefyd yr her o geisio adnabod y rhan anodd. Rydw i wedi gallu dechrau dal gwyfynod yn yr Ardd yn ddiweddar gan fod y tywydd nawr y well a’r nosweithiau’n gynhesach. Mae’r niferoedd rydw i wedi’u dal yn amrywiol, gan fod rhai nosweithiau’n dal yn eithaf oer gan olygu dal llai. Ond er hynny, rydw i wedi bod yn dal gwyfynod rydw i wedi bod eisiau eu dal erioed, fel y Gwalch-wyfyn (Deilephila elpenor) a’r  Gwalch-wyfyn Poplys (Laothoe populi) anferth, yn ogystal â gwyfynod rhyfeddol eraill fel y Gwyfyn Sbectolog (Abrostola tripartita), yr Adain Ddeifiog (Plagodis dolabraria) a’r rhyfeddol Cathwyfyn (Cerura vinula). Bydd pryfed eraill hefyd yn dod i’r trap, fel chwilen y bŵm (Melolontha melolontha), sy’n ddigon annwyl yn fy meddwl i, a gwahanol fathau o bryf gwellt.

Ar 4 Mehefin roedd Gwalch-wyfyn Pisgwydd (Mimas tiliae) yn y trap, sy’n ganolig ei faint  gyda marciau arbennig iawn ar ei adenydd. Roeddwn wrth fy modd gweld hwn, oherwydd dyma’r tro cyntaf erioed i mi weld un (a bu’n ddigon caredig i eistedd ar fy llaw i fi dynnu lluniau ohono cyn hedfan i ffwrdd). Roedd dal y gwyfyn hwn a’i gofnodi ar fin dod yn fwy cyffrous hyd yn oed nag a feddyliais ar y cychwyn…

Anfonais fy nghofnodion at grŵp gwyfyna’r Ardd, fel y byddaf yn ei wneud bob tro wrth ddal. Wedyn daeth yn amlwg nad oedd y Gwalch-wyfyn Pisgwydd wedi ei gofnodi erioed o’r blaen yn yr Ardd (o leiaf hyd y gwyddai’r grŵp). Felly, euthum i archwilio’r data cofnodion ar gyfer y rhywogaeth, ac roedd fy nghofnod i i’w weld yn ddigon pell oddi wrth gofnodion eraill. Ar ôl cysylltu â chofnodydd gwyfynod y Sir, daeth yn amlwg mai fy nghofnod i yw’r un pellaf yn y tir mawr ar gyfer y rhywogaeth hon yn Sir Gaerfyrddin. Mae hyn yn newyddion cyffrous iawn, a golyga ei fod yn un yn sicr i gadw llygad amdano eto yn y trap!

Cyfeiriadau

Fox R, Dennis EB, Harrower CA, Blumgart D, Bell JR, Cook P, Davis AM, Evans-Hill LJ, Haynes F, Hill D, Isaac NJB, Parsons MS, Pocock MJO, Prescott T, Randle Z, Shortall CR, Tordoff GM, Tuson D & Bourn NAD. (2021). The State of Britain’s Larger Moths 2021. Butterfly Conservation, Rothamsted Research and UK Centre for Ecology & Hydrology, Wareham, Dorset.