Yn ystod y naw mlynedd ddiwethaf, mae grŵp bach o wirfoddolwyr o blith aelodau’r Grŵp Cadwraeth, sy’n gweithio ar ffurf tîm, wedi bod yn nodi a chofnodi’r rhywogaethau gwyfynod sydd i’w cael yn yr Ardd Fotaneg.
Mae diwedd y flwyddyn yn gyfle i adolygu canlyniadau 2022.
Mae’r trap golau yn cael ei osod tua dwywaith y mis. Mae’r gwyfynod yn cael eu nodi, eu cofnodi ac yna eu rhyddhau. Mae nifer y gwyfynod a gofnodir bob tro yn dibynnu i raddau helaeth ar dymor hedfan y rhywogaeth, gwedd y lleuad a’r tywydd yn yr ardal. Yn yr haf, gallai’r trap gynnwys cymaint â 150 o wyfynod, ar adegau eraill llai na chwech, ac maent yn cynnwys gwyfynod Macro a Micro.
Mae’r Cyfeirlyfrau a ddefnyddiwyd yn cynnwys y canlynol:
Field Guide to the Moths of Great Britain and Ireland – Martin Townsend a Paul Waring
Field Guide to the Micro Moths of Great Britain and Ireland – Phil Sterling a Mark Parsons
Atlas of Britain & Ireland’s Larger Moths – Zoe Randle, Les J Evans-Hill, Mark S Parsons, Angus Tyner, Nigel A D Bourn, Tony Davis, Emily B Dennis, Michael O’Donnell, Tom Prescott, George M Tordoff a Richard Fox (Noder: mae’r argraffiad cyfredol o’r llyfr hwn yn cynnwys manylion y gwyfyn a noddir gan Wirfoddolwyr Cadwraeth Bywyd Gwyllt Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru – y Gwyfyn Melynwellt Godreog Anfynych – Helicoverpa armigera)
Eleni, rydym wedi nodi dros wyth cant a hanner o wyfynod, a thros 200 o rywogaethau. Mae wedi bod yn ddiddorol ac yn addysgiadol i bob un ohonom fod yn rhan o’r tîm sydd wedi nodi cymaint o wyfynod hardd a chanddynt hefyd enwau hyfryd.
Ymhlith ein huchafbwyntiau y mae’r canlynol:
- Ymerawdwr Saturnia pavonia – nodwyd ym mis Mawrth
- Blaen Brown Closteria curtula – gwelwyd ym mis Mai, ac nid yw fel arfer i’w weld cyn belled â hyn i’r gorllewin
- Gwalch-wyfyn Yswydd Sphinx ligustri – y gwyfyn preswyl mwyaf a welwyd ym mis Gorffennaf
- Brychan Cochwyrdd Chloroclysta siterata – nodwyd am y tro cyntaf ym mis Hydref
- Gem Smotiau Aur Pulsia festucea
- Teigr yr Ardd Arctia caja
- Gwalch-wyfyn Helyglys Deilephila elpenor
- Gwyfyn Peli Pinc Thyatira batis