13 Maw 2024

Uchafbwyntiau Bywyd Gwyllt – Mae’r gwanwyn ar y ffordd

Conservation Volunteers

Eleni, un o’r tasgau y mae’r grŵp Cadwraeth wedi’i osod i’w hun yw monitro llecynnau nythu adar gan ddefnyddio’r arolwg a luniodd Richard Pryce ar gyfer y Prosiect Treftadaeth yn 2015-16. I’n helpu i wneud hyn rydym yn defnyddio ap adar Merlin, sy’n adnabod caneuon adar yn eithriadol o gywir fel yr ydym wedi bod yn darganfod; serch hynny, hyd at yr wythnos hon yr unig adar a glywyd yn canu yn yr Ardd oedd y Robinod, llawer ohonynt, ac ambell Ditw Tomos Las. Ond roedd yr wythnos hon yn wahanol. Es i, Dafydd, Chris a Peter allan i Goed y Gwanwyn a mynd o gwmpas Pwll yr Ardd a’r tri llyn, a dyma beth a glywsom ac a welsom.

Tremella mesentarica – Yellow Brain. Peter Williams

Cawsom y syndod cyntaf yng Nghoed y Gwanwyn lle nododd Merlin Ddringwr Coed, ac wrth gwrs Robinod. Gwelodd Chris a Dafydd Sgrech y Coed yn y goedwig y tu hwnt i’r Tŷ Iâ, a thua phump o Socanod Eira yn hedfan uwchben. Ymlaen wedyn i Goed y Labordy Dŵr lle roedd Merlin yn wirioneddol ddefnyddiol.  Yn gyntaf clywyd Dryw, yna Coch dan Adain, y bu i ni allu ei gadarnhau’n weledol, Robinod, wrth gwrs, Telor Penddu, Llinos Werdd, Titw Penddu, Titw Tomos Las, Titw’r Wern, Titw Cynffonhir, Bronfraith, Mwyalchen. Yn bendant rhai y byddem wedi’u methu.

Wrth symud ymlaen o amgylch Llyn Uchaf lle roedd yna nifer o Hwyaid Gwylltion, wrth gwrs, gwelsom hefyd dair Hwyaden Lwyd, a gwelodd Chris a Dafydd Gigfran yn hedfan drosodd ac yn glanio yn y Glaswelltiroedd. Ymlaen wedyn o gwmpas Llyn Canol i Bont Waun Las lle y gwelsom ddwy Fronwen y Dŵr yn hedfan o gwmpas gerllaw.

Nephroma resupiinatum – Pimpled Kidney lichen. Peter Williams

olaf, ymlaen i Lyn Mawr a’r ardaloedd o’i gwmpas lle bu Merlin eto yn gymorth mawr i ni nodi’r canlynol:

Sarcoscypha sp. – Elf cap. David Jones

Robinod, Corhedydd y Waun, Llwyd y Berth, Bronfraith, Coch dan Adain, Hwyaden Wyllt, Brân, Pioden, Bwncath, Dryw, Titw Cynffonhir, Titw Tomos Las, Titw Penddu, Delor y Cnau, Mwyalchen ac, o bosibl, Aderyn y to unig, coll. Awgrymodd hefyd Wylan Gefnddu Fwyaf, ac mae’n bosibl bod un yn mynd heibio ar ei thaith, ond mae’n fwy tebygol mai Brân yn crawcian ydoedd!

Stereum rugosum – Broadleaf Bleedin Crust. Peter Williams

Bu i Dafydd hefyd gyfrif dros ugain o Hwyaid Gwyllt ar un adeg, pob un ar wyneb Llyn Mawr. Roedd nifer yn rhagor yn hedfan heibio, yn ogystal â thua chwech neu saith Corhwyaden, a rhagor o bosibl, yn hedfan yn ôl ac ymlaen, tair Hwyaden Lwyd ac o leiaf bedair Iâr Ddŵr. Ymhlith yr Hwyaid gwyllt yr oedd grŵp o 11 o geiliogod hwyaid yn paredio o amgylch gyda’i gilydd; defod garu o ryw fath, o bosibl, ond ni ymddangosai fel pe bai unrhyw hwyaid o amgylch.

Yn ogystal â’r holl weithgarwch hwn o du’r adar, roedd Marie, Gary a Ruth yn brysur yn digido’r llyfrau Coed yn y Bloc Gwyddoniaeth, roedd Howard allan yng Nghae Derwen gyda dŵr hanner ffordd i fyny ei welintons, roedd Angela a Nicky yn archwilio llwybrau Moch Daear, ac roedd Peter yn hel ffyngau ac yn cynhyrchu’r lluniau hardd a welir isod.

Stropharia semiglobata – Dung Roundhead spores. Peter Williams