31 Hydref
Chris, John a Jean
Hedfanodd cnocell werdd o Goed Ann, nesaf at y Cylch Penderfyniadau. Rydym yn gweld ac yn clywed cnocellau gwyrddion yn yr Ardd yn rheolaidd, fel arfer o amgylch y Ganolfan Wyddoniaeth a’r Ardd Wyllt ger y cerflun tarw.
Roedd yna ditwod mawr ar lasbrennau afalau yn y berllan newydd, a delor y cnau, titw mawr a thitw tomos las yng Nghoed y Labordy Dŵr.
Hedfanodd mantell goch trwy’r peithwellt ger Llyn Canol.
Gary, Colin ac Angela
Aethom ati i sythu tua dwsin o’r glasbrennau ar hyd ymyl Llyn Mawr.
7 Tachwedd
Jean
Gwelais grëyr glas yn hedfan nid nepell o Bont Felin Gat, a dwy siglen felen yn chwarae ar hyd y Ffrwd. Roedd Iâr Fach Amryliw hefyd yn gorffwys ar wal y Tŷ Gwydr Mawr.
Gary, John, Chris, Howard
Tynnwyd chwe bag bin du o ddail wedi pydru o’r pwll chwilota mawr. Byddai’r rhain wedi ychwanegu gormod o faethynnau at y pwll, gan niweidio ei fioamrywiaeth ac ansawdd ein gwaith chwilota yn y pwll. Byddwn yn rhoi gorchudd o rwyll wifrog dros y pwll y flwyddyn nesaf i ddal y dail sy’n cwympo.
14 Tachwedd
Chris, Colin, John, Finley, Dafydd ac eraill.
Archwiliwyd y blychau nythu yng Nghoed Ann ac yn y Labordy Dŵr, a’u glanhau. Roedd un wedi pydru’n llwyr; roedd nythod mewn cwpl ohonynt.
22 Tachwedd
Peter
Swm enfawr o ffwng twyllwr golau, Laccaria laccata, o dan y dderwen o flaen y Bloc Stablau – maent yn ymddangos yma bob blwyddyn. Capiau cwyr claerwyn, Hygrocybe virginea, ar y lawnt o amgylch y Tŷ Gwydr Mawr. Mae eu diffyg arogl yn eu gwahaniaethu oddi wrth gapiau cwyr cedrwydd. Capiau inc gloyw, Coprinellus disseminatus, yng Nghoed Trawscoed.
28 Tachwedd
Chris
Ymwelodd grŵp ohonom â’r goedwig gerllaw Cors y Gïachod i wirio cyflwr y tri blwch nythu. Roedd panel blaen un ohonynt wedi’i ddifrodi, felly aethom ati i’w drawsnewid yn flwch cyfeillgar i robinod.
Roedd yna ychydig o adar dŵr ar Lyn Canol.
Ar Lyn Uchaf, roedd yna 13 o gorhwyaid, llond llaw o ieir dŵr, a thua 20 o hwyaid gwyllt.
Gwelsom ddau goch yr adain yn hedfan i mewn i’r coed wrth ymyl y llyn.
Tipyn o fwyeilch, ac ymddangosai mai’r rhywogaeth frodorol oedd pob un, yn hytrach na’r mewnfudwyr a welwn yn aml yr adeg hon o’r flwyddyn.
Aethom ati hefyd i archwilio gweddill y blychau adar yn y goedwig fach gerllaw y siop lyfrau ail-law. Roedd hwn wedi cael ei daro i’r llawr yn ystod y tocio diweddar i osod cynhwysydd storio metel. Rydym yn bwriadu gosod blwch newydd yn y lleoliad hwn.
Gwelodd Ruth a Maria ddringwr bach a choch y berllan yn y ffawydden yng Nghae Berwyn
5 Rhagfyr
Daeth y grŵp gwyfynod o hyd i wyfynod Rhagfyr yn y fagl. Mae’r rhain yn ymddangos pob gaeaf, pan fyddant yn dodwy eu hwyau ar frigau mewn coedwigoedd llydanddail, gan oroesi’r oerfel gyda’u thoracs blewog sydd wedi’i inswleiddio’n dda. Dim ond gwyfynod gwryw heddiw – roedd ganddynt antenau pluog amlwg.