Gan ein Gwirfoddolwyr Cadwraeth
26 Medi
Gan Hazel, Maud a Nicky
Dim ond 26 o wyfynod o 15 o rywogaethau i ni eu hadnabod. Roedd hi wedi bod yn noson sych, gymylog o bryd i’w gilydd gyda lleuad 2/3.
Y gwyfynod mwyaf diddorol oedd:
Emrallt Gwelw, a oedd, fel pob un o’r Emralltau, yn hapus i eistedd ar focs wyau ac nid oedd angen iddo fynd mewn pot. Clustwyfyn Oren hardd iawn a Gwyfyn Llenni Crychlyd a ledaenodd ei adenydd. Fel arfer byddwn yn gweld un o’r rhain â’i adenydd ar gau.
Gan Chris, Howard a John
Torrwyd y pennau blodau i ffwrdd o tua 60 o blanhigion Jac y Neidiwr yn Nôl Cae Trawscoed.
Roedd yr haid fawr o nicos yn dal yn y ddôl. Roedd yna ditwod mawr a thitwod tomos glas yn y coed ar ffin ogleddol y ddôl, hedfanodd sgrech y coed heibio uwchben, ac roedd yna fwncath yn esgyn uwchben Coedwig Porthdy’r Gogledd. Roedd barcud coch uwchben pen uchaf Llyn Mawr.
Dim mwyeilch i’w gweld.
Aethom ati hefyd i glirio’r ‘llwybr’ mieri sy’n arwain at y boncyff ffawydd sydd wedi cwympo, a fu unwaith yn gartref i nyth cacwn.
3 Hydref
Gan Colin a Vicky
Wrth chwilio am Fleiddgorynnod, gwelodd Vicky ffwng diddorol iawn ychydig y tu hwnt i’r boeler biomas, Boled y mae ei gnawd melyn yn troi’n las pan gaiff ei dynnu’n ddarnau. Bu’r Cacwn yn brysur iawn, yno ac yn Nôl Cae Trawscoed. O gwmpas y bonyn derwen sydd wedi cwympo, sy’n gartref i’w nyth, gwelsom Fantell Paun a oedd wedi pylu braidd a thair Madfall yn gorwedd yn yr haul. Llwyddodd Vicky i ddal un Bleiddgorryn a aeth ag ef adref i’w adnabod yn bendant.
Daeth Nicky o hyd i bâr o gapiau cwyr pinc yng Nghae Gwair. Darganfyddiad rhyfeddol. Mae’r ffyngau hyn i fod i gymryd degawdau i sefydlu eu hunain. Gwyddom nad ydynt wedi’u cofnodi ar y ddôl wair adferedig hon o’r blaen, ac mae pobl wedi bod yn edrych yma ers 25 mlynedd. A oeddent yn llechu yn y pridd ar hyd yr amser, neu a yw eu sborau wedi eu sefydlu eu hunain yma ers i ni gyflwyno’r gwair gwyrdd yn 2019?
17 Hydref
Gan Dafydd.
Edrych ar ffyngau a mwsoglau.
Y gyntaf yw’r Bonet Odro, rwy’n meddwl, ar y sedd goed ger Cored Llyn Uchaf. Roeddwn yn hoffi’r holl ddarnau o flodau a oedd wedi darfod a’r Cladonia fimbriata o’i gwmpas fel petai’r tylwyth teg wedi bod yn cael parti. Roedd y Coesyn Brau Clystyrog ger giât pont Waun Las, wrth ddechrau’r llwybr ar ochr pellaf Llyn Mawr. Roedd y Cap Blewog yn y coetir rhwng Cors y Gïachod a Llyn Canol
Rydw i wedi bod yn hela mwsogl hefyd ac wedi dal y mwsogl sidan tonnog wedi’i gydblethu â chen ger y cap blewog.