Dydd Mawrth 11 Gorffennaf 2023
Maud a Hazel – Er bod y Gastanwydden yn edrych yn dda yn gyffredinol, ac arni lawer o goncyrs, roedd yna ddifrod amlwg gan bryfed.
Roedd y goeden Gellyg yn edrych yn well nag yr ydym wedi’i gweld, ac roedd ffrwythau’n dal i ddatblygu arni.
Chris a Colin – Haid o tua 12 nico yn bwyta hadau blodau gwyllt yng Nghae Gwair, hefyd ychydig o wenoliaid yn hedfan dros y cae hwn. Nyth cacwn ym môn y goeden y tu ôl i’r man lle’r arferai’r hen dŷ fferm sefyll.
Arddangosfa barasiwt gan gorhedydd y waun dros Gae Blaen.
16 Gorffennaf
David – Digon o weision y neidr a mursennod eleni, yn enwedig ger Llyn Felin Gat. Llawer o bicellwyr tinddu ar Bwll yr Ardd.
25 Gorffennaf/1 Awst
Pawb – Wedi cymryd rhan yng Nghyfrif Glöynnod Byw Mawr y DU. Cynhaliwyd arolygon yng Nghae Trawscoed, Cae Gwair, Cae Derwen, Cae Syrcas, yr Ardd Wyllt, yr Ardd Furiog a Gardd yr Apothecari.
Y glöyn byw mwyaf cyffredin oedd y Porthor – wedi’u cofnodi hefyd yr oedd yr Iâr Fach Amryliw, y Glesyn Cyffredin, yr Iâr Wen Fawr, yr Iâr Wen Fach, y Fantell Paun, Gweirlöyn y Ddôl, a’r Gwyfyn Fforch Arian.
1 Awst
Peter – Ffwng y Pertyn Gwyn, Leucoagaricus leucothites, yn y Tŷ Gwydr Mawr.
Nifer anhygoel o Borthorion a Mentyll Coch y tu allan.
8 Awst
Ehangiad amlwg y gwreiddiriog ar draws Cae Trawscoed, a chribau San Ffraid ar draws Cae Derwen.
Peter – Cyrch ffyngau gyda Nicky. Mae llawer o ffyngau wedi ymddangos oherwydd y tywydd gwlyb diweddar.
Cap Cwyr Duol, Hygrocybe conica, ar y lawnt allanol o amgylch y Tŷ Gwydr Mawr.
Yn y goedwig i’r chwith o’r Ardd Goed
Cap Inc Clystyrog, Coprinellus disseminatus
Coesyn Brau’r Bonion, Psathyrella piluliformis
Tarian Felfed, Pluteus umbrosus
Roeddem hefyd wedi dod ar draws Lepiota bach ac iddo arogl cryf (Lepiota cristata efallai) a nifer o ffyngau parasiwt pitw bach.
Hazel, Gilly a Poppy (wyres Gilly)
Roedd ffrwythau’n dal i fod ar y goeden Gellyg ger Coed y Gwanwyn. Nid yw’r difrod a achosodd y pryfed i’r Wernen a’r Gastanwydden fel petai wedi lledaenu ymhellach. At hynny, roedd yna doreth o goncyrs ar y Gastanwydden a oedd yn llenwi’n dda.
David – Ffilmiwyd Llysywod ger Pont y Corn
John – Clywais fod yna deulu o ffwlbartiaid ar y llwybr beicio ar ochr orllewinol y safle.
15 Awst
Pawb – Wedi tynnu ychydig o Jac y neidiwr o ochr ogleddol y safle
Peter – Boled Gludiog, Suillus viscidus, a Siantrel, Cantharellus cibarius, ym Mhont Felin Gat.
22 Awst
Tamaid y cythraul yn dechrau blodeuo ac yn parhau i ledaenu ar draws Cae Trawscoed. Blwyddyn dda ar gyfer paradyl yr hydref yng Nghae Trawscoed ac yng Nghae Gwair.
Llawer o ffyngau cap ffibr lliwgar yng Nghoed y Tylwyth Teg, yn ogystal â’r cofnod cyntaf o’r cap gweog hosan, Cortinarius torvus, sydd ag arogl cryf. Ffyngau’n ymddangos yng Nghoed y Gwanwyn, gan gynnwys y coesyn ystwyth, Helvella elastica.