24 Chwef 2023

Arsylwadau Gwirfoddolwyr Cadwraeth – Arolwg o Adar, Gwyfynod a Ffyngau

Conservation Volunteers

14-2-2023: Diwrnod heulog braf, tua 10C gydag awel ysgafn.

Colin a Chris – Yn gyntaf, aethom trwy Cae Trawscoed lle gwelsom Ddryw yn y perthi Draen Duon gyferbyn â’r sedd lle roedd Bruce a Keith yn eistedd. Mae’r Bronfreithod yn gwneud yn dda ar hyd sawdl y llyn, ond doedd dim Adar Duon yno lle y byddwn bob amser yn eu gweld – efallai eu bod yn nythu. Ar Lyn Mawr, chwe Gŵydd Canada a dau Gyw Gŵydd a allai fod yn gywion eleni, ond efallai ei bod yn rhy gynnar, ac, ymhellach ymlaen, tri arall a oedd fwy neu lai yn bendant yn gywion y llynedd. I fyny ym Mhant Felin Gat a heibio i’r bont uchaf, Llwyd y Gwrych, Titw Mawr, Titw Tomos Las a Thitw Penddu, ac, yn anad dim, Titw’r Wern dim mwy na dwsin o droedfeddi oddi wrthym, felly cawsom olwg da arno. Allan i’r parcdir i gynnal cyfrif tir ffermio yr NFU, a fawr ddim gweithgarwch. Piod yn y pellter, Boncath a Barcud yn hedfan uwchben, a chwpl o Frain a Robin Goch yn canu yn y berth. Wrth gerdded tua chanllath i mewn i’r cae, gwelsom lwybrau amlwg Moch Daear – newyddion drwg i’r Ehedyddion a’r adar eraill sy’n nythu ar lawr. Gwelsom lawer o Eirlysiau wrth ddychwelyd trwy Goedwig Trawscoed.

Jean – Aeth John a fi i Drawscoed gyda Colin a Chris lle gwelsom nifer o Ji-bincod, dau Ditw Tomos Las, Cigfran, Aderyn Du a Bronfraith ger mynedfa’r cae. Roedd yna nifer o dwmpathau gwahaddod (lle bydd y tegeirian fel arfer yn ymddangos). Aeth Colin a Chris ymlaen i’r Rhaeadr, ac ymunodd John a mi â Bruce a Keith. Dangosodd Keith lwybrau’r Moch Daear i ni, ac ar y ffordd ‘nôl enwodd Bruce a John ganeuon yr adar gwahanol.

Peter – A minnau’n tywys hen ffrindiau a chyn-ddisgyblion Ysgol Ramadeg Ystalyfera (Ysgol Gyfun Cwmtawe erbyn hyn), deuthum ar draws dau fwng ar y llwybr i Lyn Felin Gat. Roedd y tywydd yn berffaith, a mwynhaodd y grŵp ei ymweliad yn fawr.

Vicky – Madfallod yn bolaheulo ar Fonyn Derw yn Nôl Trawscoed.

Grŵp y Gwyfynod – Hazel, Gilly, Maud, Jan a Frances. Tri Gwyfyn, Crynwr Cyffredin, Crynwr Gothig, a Rhisglyn Ymyl Fraith, a gymerodd dipyn o amser i’w hadnabod – da iawn Jan.

Marie – gwelodd Fred, Inger a mi y blodau a’r cenau cyll hyn ar Goeden Gyll sy’n tyfu tua chanllath heibio i’r tŷ iâ.

Bu’n rhaid i ni edrych yn ofalus iawn cyn y gallem eu gweld. Fodd bynnag, gwelsom sawl un ar Goeden Gyll sy’n tyfu ar gyrion Coed y Gwanwyn.