14 Mawrth – bleiddgorynnod a madfallod
Gan Maud, Gilly, Frances a Hazel – ar ôl noson wyntog, oeraidd gyda chawodydd trwm, roedd bore’r 14eg yn hyfryd a heulog, er nad yn arbennig o gynnes, tua 9°C.
Ac roedd gennym 16 o wyfynod – pedair rhywogaeth a oedd yn cynnwys naw Crynwr Gothig, pedwar Crynwr Bach, dau Grynwr Cyffredin, ac un Crynwr Amrywiol.
Vicky – Bleiddgorynnod yng Nghae Trawscoed. Ar gyfartaledd, gwelwyd pum corryn fesul cam.
Nicky – Gwelais Fadfall yn torheulo yn yr Haul ar y Bonyn Derwen.
Heather – Ie, bore hyfryd. Telor y cnau neu ddau, dringwr coed, a’r fadfall gyffredin yn y dderwen gwympiedig. Dim lluniau, mae’n ddrwg gennyf
21 Mawrth – siff-siaff, sgrechod y coed a chwpanau Robin goch
Diwrnod cymylog a braidd yn oer – tua 4°C.
Colin a Fred – aethom i fyny at y rhaeadr fawr. Gwelsom don unfan ddiddorol yn y rhaeadr gyntaf. Nid oedd yr ‘heidiau’ arferol o ji-bincod yn bresennol, a dim ond un neu ddwy hwyaden wyllt a oedd ar Llyn Mawr. Dim Gwyddau Canada a dim arwydd o’u baw! Wedi clywed Siff-siaff, ond yn dawel iawn ym mhobman ar y cyfan.
Angela – euthum gyda Marie ac Inger i’r Goedlan Cyll y tu hwnt i’r rhewdy. Gwelais a chlywais siff-siaff a dwy sgrech y coed. Ymunodd Peter â ni, a dangosodd nifer o gwpanau Robin goch i ni yn y Goedlan Cyll.
Frances, Maud, Gilly a Hazel – Briallu a Bresych y Cŵn wedi blodeuo ar lethr Coed y Gwanwyn ger y goeden Gellyg. Eithin yn dechrau blodeuo hefyd. Briallu Mair bron wedi agor wrth y wal ger yr ardd wenyn. Y grifft llyffant yn yr Ardd Gors yn amlwg wedi marw, a dim arwydd o benbyliaid. Dant y llew yn y gwely blodau gyferbyn â Choed Anne. Llawer o lygad y dydd ar lawnt yr Onnen yn Sgwâr y Mileniwm.