16 Mai gan Jan, Gilly a Hazel:
Wrth fynd ar hyd ymyl Coed y Gwanwyn, roedd y drain gwynion ar wahanol gyfnodau o flodeuo – dim ond megis dechrau agor oeddent ym mhen draw Gardd yr Apothecari, roedd yna fwy o flodau hanner ffordd ar hyd yr ardd, ac roeddent yn eu blodau’n llawn ger Coed Anne.
Roedd yna fioledau damasg pêr gyferbyn â’r pren gellyg, a hefyd lysiau Solomon yn llawn blodau.
Roedd yna fwyeilch yn hedfan i mewn ac allan o nyth yn wyneb y clogwyn gyferbyn â’r Tŷ Gwydr Trofannol.
Gwelwyd banc o lygad doli gyferbyn â’r Ardd Wenyn.
Roedd yna dwll llygoden bengron goch, o bosibl, ger Coed Anne.
Roedd y wernen wedi deilio bellach ond doedd dim golwg dda arni gan mai prin oedd y dail.
Gan Colin, Gary, Heather a Nicky: Bu i ni dreulio’r bore yn gosod arwyddion blodau Gary yng Nghae Trawscoed. Llawer o degeirianau-y-gors deheuol a thegeirianau brych cyffredin. Treuliwyd llawer o amser yn chwilio am y tegeirianau llydanwyrdd ac, o’r diwedd, daethpwyd o hyd i rai yn eu blagur ac wedi deilio yr ochr arall i’r llwyn unigol cyntaf nad yw’n bell o’r fynedfa – nid hwn yw un o’r lleoedd ‘arferol’, felly maent yn parhau i wasgaru.
Gan John:
Roedd yna filoedd o wyau yn y Pwll Drych uwchben y Ffrwd – penbyliaid yn fy marn i.
Ond MALWOD newydd ddeor wedi’u dal yn y grug môr oeddent!
Drudwen wedi gwneud nyth mewn twll uwchben drws siop hufen iâ y Cwtsh. Gwelodd Chris y fam yn hedfan i mewn, ac wedyn eto. Gwelais fwlch yn y bondo yn y cwrt lle mae robin goch wedi dod o hyd i agen rhwng y plastr a’r bwrdd hindraul.
Gan Chris:
Pont Felin Gât. Siglen lwyd yn bwydo’i rhai ifanc yng nghyffiniau’r gored risiog, gerllaw’r baddon dŵr mwynol. Yn uwch i fyny tuag at y rhaeadr, roedd rhieni’n gofalu am siglen lwyd anaeddfed.
Euthum draw i Gae Blaen i wirio’r blychau nythu: deiliadaeth = 0/4.
Rhedodd llwynog i ffwrdd yn y ddôl, hedfanodd melyn y rhafnwydd o dan y tŷ ystlumod. Tystiolaeth o nythod y tu mewn i fondo’r tŷ ystlumod, adeiladweithiau mwsoglyd, ond dim adar o gwmpas.
Gwelwyd pâr o glochdariaid y cerrig ym mhen uchaf Cae Blaen.
Wrth ddod yn ôl i fyny ochr ddwyreiniol Llyn Mawr, gwelwyd pâr o lwydfronnau yng nghornel cae wedi’i dorri, ymysg y mieri/drain gwynion.
Gan Frances a Colin: 23 Mai: Roedd yr ardal laswelltog islaw’r Tŷ Gwydr Mawr yn llawn pryfed, gan gynnwys dwsin neu ragor o leision cyffredin, chwilen filwrol (Cantharis rustica), chwilen flodau coesau trwchus, tri gwyfyn ffacbys a, y gorau ohonynt i gyd, hen wrach, nad wyf erioed wedi’i gweld o’r blaen. Roedd yna hefyd löyn byw arall yno, a edrychai’n go debyg i wibiwr llwyd, ond doeddwn i ddim yn siŵr. Tybed a oes unrhyw un arall wedi’i weld?
Vicky – gwelais Rhynchites betuleti, y gwiddonyn rholio dail, sy’n arbenigo ar rolio dail cyfan y gollen.
Gan Chris – 23 Mai
1) y bont ym mhen Llyn Mawr: y gnocell fraith fwyaf ar y canllaw diogelwch uchaf.
2) y dyfroedd gwyllt o dan y rhaeadr: siglen lwyd ar gangen uwchben y rhaeadr, titw penddu yn hedfan uwchben y rhaeadr, morwyn dywyll (corff glas symudliw/adenydd melyngoch) uwchben esgair y llyn.
3) Cae Syrcas: teulu o ddrudwy ar laswellt wedi’i dorri. Aeth haid o nicos heibio uwch fy mhen.
4) pen isaf Cae Brwyn, clochdar y cerrig benywaidd ger perth newydd ei phlygu.
5 Mehefin
Frances, Maud, Gilly a Hazel.
Roedd yna 35 o wyfynod o blith 20 o rywogaethau. Y rhai mwyaf trawiadol oedd Gwalchwyfyn y Poplys, Gwalchwyfyn yr Helyglys, Gem Fforch Aur Hardd, Gwyfyn Brith, Gwyfyn Gwythïen Goch, Brith Ymyl Gymylog a Blaen Brigyn mawr iawn.
6 Mehefin:
Gan Colin, Jean, Gary – gosod mwy o arwyddion yng Nghae Trawscoed ond dim llawer o newid ers yr wythnos diwethaf. Ambell i degeirian llydanwyrdd yn dechrau blodeuo.
Yr uchafbwyntiau dros nos ar 12 Mehefin a welwyd gan Gilly, Maud, Hazel ac Inger.
Roedd yna 52 o wyfynod o blith 23 o rywogaethau. Yr un mwyaf prin oedd y Gwyrdd Godreog a welwyd gan Inger. Cafwyd hyd i un prin arall yn ogystal – y Chwimwyfyn Rhithiol. Gwelsom hefyd ddau Walchwyfyn yr Helyglys, Gwyfyn Brith, Trwynog, Gem Smotiau Aur, Gem Pres Gloyw, Brith Ymyl Gymylog, dau Ermin Gwyn a phedwar Ermin Llwydfelyn.
14 Mehefin gan Peter
Corynnod ym Mhont Felin Gât
17 Mehefin 2023 Vicky, Julian, John a Colin
Arolwg o ystlumod lleiaf yn y Bloc Stablau
Noson gynnes, ac yn sych ar y cyfan.
Dechreuwyd cyfrif am 9pm
Gwelwyd yr ystlum cyntaf am 9.46
Gorffennwyd am 10.20 oherwydd glaw
Hedfanodd ystlumod o sawl allanfa.
Nifer: cyfanswm o 162.
18 Mehefin gan Peter – Llawer o loÿnnod ar y llethr o’r Tŷ Gwydr Mawr i’r llyn.