3 Awst 2020

Uchafbwyntiau Blodau Gwylltion – Bwrned Mawr Sanguisorba officinalis

Bruce Langridge

Rwyf wedi bod yn arwain teithiau tywys o gwmpas GNG Waun Las ers blynyddoedd. Rwyf wrth fy modd yn gwneud hyn – gallaf rannu fy mrwdfrydedd a’m gwybodaeth am y safle gyda phobl sydd â diddordeb. Ond rydw i hefyd yn dysgu wrth bobl sy’n dod ar y teithiau.

Mae’r bwrned mawr yn enghraifft dda o hyn. Tra oeddwn i’n gyffro i gyd am y tegeirianau sy’n lledu’n naturiol ar draws ein gweirgloddiau, roedd naturiaethwyr profiadol yn gofyn o hyd pam oedd gennym gymaint o’r bwrned mawr, a chyfeiriai garddwyr at yr amrywiaethau o’r bwrned mawr oedd ganddyn nhw yn eu gerddi.

Mae hwn, wedi’r cyfan, yn flodyn gwyllt bytholwyrdd deniadol gyda dail adeiniog a phigau blodau coch sy’n tynnu’ch sylw ar flaen coesau hir 1m o uchder. Maen nhw’n edrych fel peli coch yn hongian yn y weirglodd ganol haf. Mae peillwyr yn eu hoffi hefyd – fe welwch amrywiaeth ryfeddol o bili-pala, gwenyn, gwyfynod a chlêr yn bwydo arnyn nhw.

Felly, pam mae’r Waun Las mor llawn o’r bwrned mawr?

Pan ddeuthum i adnabod y safle gyntaf tuag 20 mlynedd yn ôl, roedd y bwrned mawr i’w weld fwyaf mewn ychydig fannau gwlyb o gwmpas y Waun Las, ac yn arbennig o amlwg ar weirglodd Cae Trawsgoed ymysg y brwyn pabwyr. Roedd hefyd yn ein Gardd Wyllt, ac mae’n debyg ei fod yn y gymysgedd wreiddiol o hadau ar gyfer yr arddangosfa arbrofol hon o blanhigion. Ers hynny rydym wedi gwneud ein pridd yn y Waun Las yn llai cyfoethog, ac mae’r bwrned mawr wedi lledu i fannau sychach yn y weirglodd rydym wedi’i chreu, yn enwedig Cae’r Waun, tir porfa gynt lle’r oedd cnwd o wair gwyrdd wedi ei osod o Gae Trawsgoed yn 2016. Felly, pam yma yn hytrach na Chae Derwen gerllaw? Efallai mai gwair wedi’i dorri o’r rhan wlyb o Gae Trawsgoed oedd yn llawn o’r bwrned a roddwyd ar Gae’r Waun, a Chae Derwen wedi cael gwair o’r mannau sychach.

Y pwynt roedd pobl ar fy nheithiau tywys yn ei wneud oedd bod yr aelod hwn o deulu’r rhosyn wedi dirywio’n sylweddol yng nghefn gwlad Cymru oherwydd amaethu dwys.  Felly, roedd ei weld yn ffynnu yma yn hyfryd iawn.  Credwn fod hadau rydym yn eu casglu a’u gwerthu o’r Waun Las yn gallu helpu atal y dirywiad hwn, a byddai’n ased wirioneddol i bobl sydd am adfer blodau gwylltion yn eu gweirgloddiau eu hunain, neu hyd yn oed i’w ychwanegu at eu darn gwyllt o lawnt.

Os hoffech chi brynu hadau’r bwrned mawr, dylent fod ar gael tua mis Hydref. Y llynedd casglodd fy nghydweithiwr Dr Kevin McGinn, gyda chymorth gwirfoddolwyr cadwraeth, rai o’r hadau bwrned mawr o’r Waun Las ar gyfer Banc Hadau Cymru, sydd yn ein Canolfan Wyddoniaeth ni.   Ond eleni rydym y gobeithio casglu llawer iawn mwy o hadau i’w gwerthu.

 

Mae Gwarchodfa Natur Genedlaethol Waun Las yn fferm organig sy’n gweithio ac sy’n ffisegol yn rhan o Ardd Fotaneg Genedlaethol Cymru – mae hi lai na 5 munud o gerdded o’r Tŷ Gwydr Mawr. Ynddi mae dolydd yn llawn blodau gwylltion prin sydd mewn perygl ac sydd wedi cyrraedd yn naturiol oherwydd y ffordd rydym yn ffermio – yn bennaf drwy bori a lladd gwair mewn ffordd strategol. Gobeithio y bydd yr hyn rydyn ni’n ei wneud hefyd yn annog eraill i reoli eu tir er mwyn natur.

Yn 2016 gwnaed arbrawf i symud ‘gwair gwyrdd’ newydd ei dorri o ddwy ddôl yn llawn blodau gwylltion (Cae Trawsgoed a Chae Tegeirianau) i ddwy ddôl heb fawr  o rywogaethau (Cae Derwen a Chae’r Waun). Mewn cwta tair blynedd roedd tegeirianau’n tyfu yn y caeau derbyn . Yn 2019 ychwanegwyd ‘gwair gwyrdd’ hefyd ar ddôl arall o wair gan mwyaf, sef Cae Gwair. Rydym yn bwriadu cynaeafu hadau’r blodau gwylltion ar y dolydd hyn yn fuan iawn.