Yr Ardd Wyllt

Ardal sy’n fwrlwm o harddwch anffurfiol, yn enwedig yn yr haf

Os ydych yn dilyn y tir sy’n goleddu am i lawr o’r Tŷ Gwydr Mawr, tuag at y llynnoedd, fe ddewch chi ar draws yr Ardd Wyllt.

Tynnwyd uwchbridd o’r fan hon i ail-greu tirwedd spartaidd paith Gogledd America a stepdir Asia, ble mae blodau yn hytrach na gweiriau yn ffynnu mewn priddoedd gyda lefelau maeth isel.

Cyflwynwyd planhigion y paith a’r stepdir yma, fel rhosyn y mynydd, blodyn pigwrn a blodau Mihangel, tra bod planhigion brodol Cymreig fel tegeirianau a llygaid-llo mawr wedi darganfod eu ffordd yn naturiol. Mae hyn yn cynhyrchu tonnau ffres o liw yma, o’r gwanwyn i’r hydref.

Mae’r math yma o blannu anffurfiol neu ‘ymddangosiad naturiol’ wedi dod yn ffasiynol yn Ewrop a Gogledd America, ond ni cheisiwyd plannu ar y fath raddfa mewn hinsawdd laith fel hinsawdd Cymru o’r blaen.

Mae’r llwybrau lle torrwyd y gwair yn eich galluogi i grwydro drwy’r ardal hon. Efallai y sylwch chi sut mae adar a phryfed lleol wedi cael eu denu at y ffynhonnell fwyd gyfoethog hon a dylech weld amrywiaeth o bili-palaod ar ddiwrnodau cynnes, heulog.