Cafwyd nifer o sgyrsiau bach am droi’r man cysgodol a oedd wedi gordyfu wrth ymyl y nant yn lle i ymlacio, myfyrio a synfyfyrio’n gyffredinol. Bu amryw o bobl yn crwydro yno bob hyn a hyn i geisio meddwl am wahanol opsiynau, ond, rhyngoch chi a fi, ni fu i’r un rhaw dorri’r ddaear mewn gwirionedd.
Ond un diwrnod, aeth Jo, gyda’i siswrn tocio, draw at gordyfiant o ddanadl poethion a mieri a dechrau ar y dasg o ddofi byd natur er mwyn i’r Tyfwyr Byw’n Dda gael ein gofod tawel. (A elwir hefyd, o bosibl, yn Guddfan Zen, Ardal Ymlacio, Lle i Feddwl ac opsiynau eraill y mae arolwg barn WhatsApp wedi ceisio penderfynu arnynt.)
Ymunodd eraill â’r ymdrech. Adnewyddodd Mike a Kevin y planciau llithrig a oedd yn creu llwybr dros dro. Cludodd Clive ac eraill sglodion pren mewn berfa o’r storfa i greu llwybr sglodion pren gwrth-lithr, gwych wedi’i ffinio. Diolch i’r tîm garddwriaeth yn yr Ardd Fotaneg a roddodd y sglodion pren i ni ac a osododd ddau floc o bren solet hynod o drwm ond hardd iawn ar gyfer seddi naturiol. Troediodd eraill i mewn ac allan, ac aeth rhywun ati i addasu both olwyn pren mawr o’r sgip yn fwrdd ar gyfer … wel llawer o bethau ond yn bennaf paneidiau o de!!
Cafwyd rhagor o dorri, hacio, tynnu a siapio. Cafodd ymylon eu tacluso, tir ei lefelu, cerrig eu tynnu, ac erbyn hyn mae’n wirioneddol hyfryd. Daeth Kevin â bwydwyr adar a gallwn weld adar yr ardd yn hedfan i mewn ac allan, ac mae un Robin bach (ffrind arbennig Kevin) hyd yn oed yn bwyta o’i law. Mae dwy hwyaden tsieni bach a achubwyd o’r sgip yn swatio wrth ymyl y nant ymhlith y cerrig mân, ac mae’n anodd peidio â chael ymdeimlad o hyfrydwch a chynhesrwydd wrth edrych arnyn nhw.
Ar y cyfan, cyflawniad enfawr gan aelodau grŵp Tyfwyr Byw’n Dda sy’n gallu defnyddio’r gofod hwn ’nawr i gael ychydig o seibiant, ac anrheg anhygoel i aelodau’r dyfodol ei fwynhau.