29 Mai 2021

Tyfwyr Byw’n Dda yn Dychwelyd – Blog Amy

Amy Henderson

Bywyd ar ôl y cyfnod clo

Ar ôl ymweld â’r Ardd yn gynharach yn yr wythnos i weld pa mor wyllt oedd popeth, dywedais wrth y grŵp y byddem yn hurio gwahanol beiriannau fel rhai cynaeafu i fynd i’r afael â’r anialwch newydd.

Byddai dillad dioglwch, menig caled, llifau cadwyn, trimwyr ac unrhyw beth felly yn ddernyniol iawn.

Ond pan gyrhaeddom yr Ardd ar ein dydd Mercher cyntaf yn ôl, cawsom fod James wedi torri popeth! Dymunol iawn! Diolch iddo wrthym i gyd. Roed yn ddiwrnod heulog, roedd y coed afalau yn eu blodau, y borfa wedi’i thorri, dim chwyn yn unman, a phosibiliadau i’w gweld ym mhobman.

Roeddem ni mor hapus i fod wedi cael ychydig arian ar gyfer twnnel plastig a chyfarpar garddio cyfleus.

Bydd y twnnel yn golygu y bydd yr ardd yn lle ar gyfer pob tywydd er mwyn inni allu cysgodi rhag y glaw ac yfed te (hynny yw, plannu hadau a gwneud tasgau garddwriaethol).

Fel bob amser, bu llawer iawn o chwerthin,

Rhannu straeon,

Plannu gwelyau llysiau newydd ac anfon y peiriannau cynaeafu yn ôl i’w cartref.