17 Ion 2022

Arweinydd Angylaidd Tyfwyr Byw’n Dda

Amy Henderson

Blwyddyn Newydd Dda i bawb. Dechreuodd y grŵp y flwyddyn gyda newyddion gwych. Mae’r llwybrau hygyrch hirddisgwyliedig o amgylch yr ardd wedi’u cwblhau.

Maent wedi gwneud gwahaniaeth enfawr ac wedi trawsnewid ein gardd fach yn fan lle gall pawb fynd i bobman! Mae hyn mor hyfryd, yn arbennig i’n tyfwyr sy’n defnyddio cadair olwyn ac a oedd wedi’u cyfyngu i’r ardal patio yn flaenorol. Diolch yn fawr i Paul yn yr Adran Addysg sydd bob amser yn cefnogi’r freuddwyd ac a lwyddodd i’n symud i bwynt lle cafodd cyllid ei sicrhau a’i ddyrannu i ni!! Rydym yn ddiolchgar iawn.

Gan nad ydym wedi blogio ers tro ni allaf ysgrifennu hwn heb ddwyn i gof ein sesiwn olaf y llynedd.

Mae traddodiad a defod yr ŵyl wedi hen ymsefydlu. Gwneud torch ac yna, am ddim rheswm call y gallaf feddwl amdano, tynnu llun o’ch hun yn ei gwisgo fel eurgylch. Bob blwyddyn. Bellach mae gennym bedair blynedd o luniau o Arweinydd Angylaidd Tyfwyr Byw’n Dda. Beth allai fod yn well!! Rhai wynebau gwahanol a rhai yr un peth. Ond bob amser yn ffordd wych o ddymuno Nadolig Llawen neu Wyliau Hapus i’n gilydd cyn y gwyliau. Roedd y torchau yn hollol wych hefyd. Buom yn chwilota yng ngardd y Tyfwyr Byw’n Dda a’r pentyrrau o brysgwydd a deiliach a dorrwyd gan y timau garddwriaethol a’u rhoi o’r neilltu ar gyfer compostio. Roedd y canlyniadau’n hyfryd, ac mae fy un i wedi bod ar y drws ffrynt dros y Nadolig, yn fy atgoffa o’r grŵp a’r fraint o weithio gyda phobl wych, rhannu’r chwerthin, a chael fy ysbrydoli gan y straeon am adferiad a’r heriau y mae aelodau ein grŵp yn eu hwynebu.

Rwy’n gwybod ei fod yn cael ei ddweud bob tro y bydd rhywun yn ysgrifennu neu’n siarad am y Tyfwyr Byw’n Dda, ond mae’n wir yn lle arbennig, lle mae cymorth yn cael ei roi a’i dderbyn gan bobl sy’n deall anafiadau i’r ymennydd oherwydd eu bod wedi profi anaf i’r ymennydd eu hunain.

Mae’n ymddangos o’m safbwynt i fod hyn yn beth pwerus iawn. Ychwanegwch yr ardd ei hun, y dwylo yn y pridd, tyfu’r hadau, a bod yn rhan o daith flynyddol yr ardd, ac mae’n feddyginiaeth iachau bwerus. Yn y fan a’r lle, yn rhad ac am ddim, ac nid mewn potel.