3 Ebr 2023

Tyfwyr Byw’n Dda – Jo

Amy Henderson

“ANGEL CACENNAU” ARBENNIG IAWN Y TYFWYR BYW’N DDA YN CODI LLAIS

(ac yn pobi cacennau anhygoel i ni bron bob wythnos)

F’enw i yw Jo ac ar ôl cael anaf i’r ymennydd bron dair blynedd yn ôl, rwyf wedi bod yn ffodus iawn yn cael mynychu grwpiau sydd yno i helpu pobl trwy eu hadferiad. Rwyf wedi bod mewn grŵp teithiau cerdded, grŵp Surfability, grŵp celf, a grŵp garddio yn yr Ardd Fotaneg Genedlaethol – rydym yn ein galw ein hunain yn “Tyfwyr Byw’n Dda”. Mae pob grŵp wedi bod yn ffynhonnell therapi ac ymlacio hynod o dda.

Rwyf wedi cwrdd â phobl hyfryd ar hyd y daith sydd wedi mynd trwy bethau tebyg neu fwy, ac mae’r holl staff/niwrolegwyr, a’r therapyddion iechyd galwedigaethol, wedi bod yn anhygoel ac yn gefnogol iawn. Pan nad ydych yn cael amser da, mae mor braf deffro yn y bore a gwybod bod gennych grŵp i fynd iddo, rhywbeth i edrych ymlaen ato, mynd i gwrdd â “Fy Nheulu Garddio”. Heddiw roeddem yn trefnu cynllun yr ardd ar gyfer y dyfodol; mae eisoes wedi newid cymaint ers i mi ddechrau. Aethom i gyd ati i dynnu llun o’r modd y dylai’r ardd edrych yn ein barn ni, ynghyd â phethau eraill yr hoffem eu gweld yn yr ardd. Yr hyn yr oeddem yn meddwl llawer yn ei gylch oedd – rhagor o welyau uwch o uchderau gwahanol yn yr ardd er mwyn ei gwneud yn haws i bobl â phroblemau symudedd gwahanol chwynnu, plannu hadau neu symud planhigion. Ardaloedd wedyn ar gyfer pobl sy’n ei chael yn haws symud o gwmpas.

Bu i ni gytuno lle i osod sied newydd fel bod gennym ragor o le i storio ein hoffer ac fel y gallwn wneud mwy o ddefnydd o’n twnnel polythen, a godwyd y llynedd, i hau hadau a thyfu planhigion, neu i fod yn gysgod os yw’r tywydd yn wael.

Hoffwn i’r ardd fod ag ardal ynddi lle gellid plannu blodau gwyllt i annog bywyd gwyllt; mae’n dda cael gwenyn o gwmpas i helpu i beillio planhigion a blodau, a hefyd un neu ddau o fyrddau adar yma ac acw efallai, a phlaciau pren yn nodi meddyliau pobl am yr ardd neu i atgoffa pobl i gofio ymlacio, gorffwyso a mwynhau.

Rwy’n meddwl y byddai cael ardal ymlacio i eistedd a mwynhau’r amgylchedd yn dda ar gyfer pobl a hoffai ymlacio yng nghanol y gwaith garddio weithiau, gan fod yna ddigon i’w wneud yn yr ardd bob amser, ond rwyf hefyd yn meddwl ei bod yn bwysig i unrhyw gael yr amser hwnnw pan fydd arnynt ei angen. Byddai hefyd yn dda cael bwrdd y tu allan, lle gallai pobl blannu hadau, ac ati, yn yr awyr iach, neu gellid ei ddefnyddio yn ogystal i ddarparu cyfle i bobl roi cynnig ar rywbeth newydd megis arlunio, peintio, crosio, ond, yn amlwg, garddio gyntaf.

Mae materion a phroblemau pawb yn wahanol, felly mae’r hyn rwy’n gobeithio a fydd yn parhau hefyd yn achos pobl y grŵp, yn bobl y gorffennol, y presennol a’r bobl newydd a fydd yn dechrau, yn cynnwys bod sawl cyfeillgarwch yn ffurfio ar hyd y daith. Mwynhewch a Byddwch yn Hapus.