19 Rhag 2023

Diwrnod Mwsogl Cenedlaethol yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru

Leila Franzen

Mae bryoffytau, gan gynnwys mwsoglau, yn rhai o’r planhigion mwyaf anhygoel. Mae coedwig sydd wedi’i gorchuddio â bryoffytau yn edrych yn hudolus, ac mae’r amrywiaeth a geir ymhlith y planhigion hyn yn harddwch cudd. Datgelir gwahaniaethau cynnil o ran lliw a gwead trwy eu harchwilio’n agos gan ddefnyddio lens llaw neu ficrosgop.

Nid yn unig y mae mwsoglau yn hardd, ond maent hefyd yn unigryw. Maent yn wahanol i blanhigion eraill, gan atgynhyrchu trwy sborau neu ddarnau o blanhigion. Nid oes ganddynt chwaith wreiddiau go iawn na system fasgwlaidd, ac maent yn amsugno eu holl faethynnau yn uniongyrchol o’r atmosffer neu’r glaw. Fel arfer dim ond un gell o drwch yw eu dail, ac felly nid oes ganddynt y gallu i gadw dŵr yn yr un modd â phlanhigion â dail cwyraidd. Yn lle hynny, maent yn cyrlio eu dail ac yn arafu eu metaboledd, gan aros am y gawod nesaf o law.

Yn fy marn i, mae mwsoglau yn cynrychioli diffyg ymwrthedd llwyr i fympwyon yr amgylchedd. Maent yn hapus i fynd gyda’r llif mewn bywyd, ac yn dysgu gwers i ni am amynedd.

Mae mwsoglau hefyd yn cyflawni diben. Maent yn sefydlogi ecosystemau trwy reoleiddio’r broses cylchu dŵr a maethynnau, yn ogystal â thrwy sefydlogi uwchbridd. Maent yn darparu cynefin hanfodol i bryfed, sy’n cynnal y gadwyn fwyd ehangach yn anuniongyrchol.

Cryphaea heteromalla

I ddathlu’r planhigion arbennig hyn a meithrin ymwybyddiaeth ohonynt, cynhaliwyd digwyddiad yma yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru ar 21 Hydref ar gyfer ein Diwrnod Mwsogl Cenedlaethol cyntaf erioed, a hynny mewn cydweithrediad â Chymdeithas Fryolegol Prydain. Mae cadwraeth bryoffytau yng Nghymru hyd yn oed yn bwysicach nag mewn rhai ardaloedd eraill yn y DU, gan fod Cymru yn gartref i gyfran fawr o rywogaethau’r DU. Roedd yr Ardd Fotaneg yn gartref naturiol i’r digwyddiad hwn gan fod dros 130 o rywogaethau bryoffytau wedi’u cofnodi ar y safle, ac mae’n debygol y bydd llawer yn rhagor yn cael eu darganfod.

Diwrnod Mwsogl Cenedlaethol

I ddathlu popeth yn ymwneud â mwsogl, roedd y digwyddiad yn cynnwys amrywiaeth o arddangosfeydd, o blanhigion byw, i sbesimenau sych o’n llysieufa yn dyddio’n ôl i’r 1800au, a gymerwyd o’r casgliadau a gedwir yn yr Ardd Fotaneg. Roedd microsgopau ar gael i ymwelwyr, gan agor eu llygaid i’r manylion a’r amrywiadau a geir yn y sbesimenau byw.

Arweiniwyd taith gerdded dywysedig ar ddiwedd y bore gan Sam Bosanquet, sy’n arbenigwr ar bryoffytau. Rhoddodd Sam drosolwg cyffredinol o fryoffytau cyn mynd allan i’r gwelyau blodau, y lawntiau, y coedwigoedd a’r caeau i ddangos mwsoglau a llysiau’r afu rhyfeddol a phrin i’r grŵp o ugain a mwy o bobl. Gofynnwyd cwestiynau yn ystod y daith, a arweiniodd at drafodaethau agored gan ysgogi diddordeb mawr ymhlith y rhai a oedd yn cymryd rhan.

Diwrnod Mwsogl Cenedlaethol

Roedd y digwyddiad hefyd yn gyfle i weld y llwybr mwsogl am y tro cyntaf, sef llwybr a gynlluniwyd i gyflwyno rhai o’r bryoffytau sy’n cartrefu yma i’r ymwelwyr. Mae’n rhoi sylw i ystod amrywiol o lysiau’r afu a mwsoglau, sy’n unigryw o ran gwead a lliw, gan gynnwys mwsogl a adferwyd pan oedd ar fin darfod o’r tir, ac un arall sy’n hanfodol i gadwraeth hirdymor ffyngau sy’n brin yn rhyngwladol.

Mae’r llwybr hwn bellach yn atyniad parhaol, felly gall ymwelwyr ei fwynhau o hyd. Mae yna arwyddion wedi’u gosod o amgylch yr Ardd i roi gwybod i chi pan fyddwch yn yr ardal gywir, ac mae map o’r llwybr ar gael wrth y ddesg flaen neu yn y Tŷ Gwydr Mawr.

Bydd yna gyfres o bostiadau blog yn ymddangos yn y flwyddyn newydd i roi gwybodaeth ychwanegol am y llwybr, felly cadwch olwg ar y gofod hwn.

Hoffem ddiolch i Claire Halpin, Sam Bosanquet, Ray Woods, Charles Hipkin a Chymdeithas Fryolegol Prydain am gyfrannu at y digwyddiad.