25 Hyd 2023

Tyfwyr Byw’n Dda – Teimlado Ryddid 

Bruce Langridge

Ar ôl blwyddyn anodd iawn, cefais fy nghyfeirio at gynllun Tyfwyr Byw’n Dda gan fy nyrs arbenigol.

Cysylltodd  cynorthwyydd therapi â mi, a ddaeth i fy nhŷ i egluro pwrpas y grŵp a’i genhadaeth ar gyfer y dyfodol, yn ogystal ag egluro nodau cynllunio i mi geisio eu cyflawni yn fy sesiynau.

A minnau’n arddwr (neu yr oeddwn cyn Rhagfyr ’21) meddyliais mor wych oedd y cyfle hwn nid yn unig i mi ymuno â grŵp cymdeithasol ond hefyd gael fy nwylo’n frwnt eto, a hynny o fewn rhwydwaith cymorth.

Es i am sesiwn brawf, roeddwn yn teimlo’n ‘rhydd’ o’r tŷ, roddwn yn teimlo bod gennyf ychydig o annibyniaeth yn ôl, a mwynheais gymysgu ag eraill yn y grŵp a oedd yn ôl pob golwg yn mwynhau garddio a chymdeithasu, a helpwyd hynny gan ychydig o dywydd braf.

Cefais fy nghroesawu a’m cyflwyno i bawb, dangoswyd i mi y twnnel poly newydd a gafodd y grŵp yn rhodd, yr offer, a lle roedd popeth yn cael ei gadw.

Yna aethom i gyd ati i chwynnu a chlirio ein hardal ar gyfer ei phlannu y flwyddyn nesaf.

Roedd unrhyw gynnyrch a oedd yn cael ei hel yn cael ei roi ar fwrdd cynhaeaf er mwyn i bawb allu mynd â pheth adref gyda nhw ar ddiwedd y sesiwn.

Canolbwyntiais ar hel betys, cennin a shibwns o’r gwelyau uchel, a chliriais lawer o chwyn hefyd.

Roedd fy shibwns yn hyfryd yn fy salad i ginio.

Cyn hir roedd yn amser coffi, eisteddom y tu allan i’r twnnel poly yn yr haul, yn rhannu cacen pen-blwydd gan aelod o’r grŵp.

Roedd pawb yn sgwrsio a chymdeithasu ac roedd llawer o chwerthin, roeddwn yn teimlo’n gartrefol ac yn methu aros i ddechrau fy sesiynau! Codwyd fy hunan-barch, o’r diwedd roedd gennyf rywbeth cadarnhaol i siarad amdano gartref ac roeddwn wrth fy modd yn rhannu ag eraill yn fy nheulu yr hyn yr oeddwn wedi’i wneud a pha mor dda oedd y gefnogaeth a pha mor dda yr oeddwn yn teimlo yn ystod fy sesiwn.

Dechreuais fy sesiwn gyntaf ym mis Rhagfyr ac ni allwn aros i fynd, eto cefais fy nghyflwyno i rai aelodau nad oeddwn wedi eu gweld o’r blaen, ac eto roedd pawb mor gyfeillgar a chroesawgar.

Unwaith eto roeddwn yn teimlo’n rhydd, roeddwn yn teimlo fel bod gennyf bwrpas a sicrheais fy mod yn gwneud y mwyaf o’r sesiwn.

Cafodd pawb gyfle i gael diod i ddechrau, yn ogystal ag amser i ddal i fyny ag unrhyw newyddion; roedd bwrdd gwybodaeth newydd wedi’i sefydlu i helpu o ran cyfathrebu a chynllunio ar gyfer y flwyddyn nesaf, pa lysiau a blodau y gellid eu tyfu ‘nawr a’u gaeafu, trafododd pawb pa faes yr oeddent yn gweithio arno, yna aeth pawb ati i ddechrau ar y gwaith, ac unwaith eto ymddangosodd yr haul am ychydig i godi lefelau hunan-barch a fitamin c pawb.

Roeddwn wrth ymyl y twnnel poly yr wythnos hon, yn rhoi trefn ar yr holl eginblanhigion o’r twnnel poly oedd yn cael eu gaeafu, symudwyd bwrdd i mi ei ddefnyddio, ac roeddwn yn gallu bwrw ati wedyn.

Cafodd pawb, gan gynnwys fi, gyfle i siarad, chwerthin a chael llawer o hwyl, ac roedd bwrdd cynhaeaf ar gael eto, mae’n syndod faint o gynnyrch oedd yn dal yn y ddaear, aeth fy nghennin i mewn i’m cawl y diwrnod canlynol, maent bob amser yn blasu cymaint yn well pan fyddant wedi’u tyfu gartref.

Cyn hir roedd yn amser coffi a chacen, dyma gyfle perffaith i gael sgwrs, i wella ein lles,  cylch cyfeillgarwch, gwybod bod eraill yn cael anawsterau ond lle diogel i rannu ein teimladau. Y prif bwnc oedd Luminate.

Mae cymorth a chyngor bob amser wrth law, nid oes dim yn ormod o drafferth felly mae anghenion pawb yn cael eu diwallu.

Ar ôl amser coffi, aethom ati i dacluso a storio ein hoffer yn ôl yn ddiogel yn y mannau cywir, cyn gadael am adref.

Rwy’n edrych ymlaen at ein sesiwn nesaf; os bydd y tywydd yn caniatáu, byddwn yn gwneud torch, cyn dathliadau’r Nadolig.

Ellie