21 Rhag 2022

Tyfwyr Byw’n Dda – dyma fyfyrdodau Jo

Amy Henderson

Diolch yn fawr iawn i Luminate a wahoddodd y Tyfwyr Byw’n Dda i Luminate.

Yn anffodus roedd anwydau a COVID wedi cadw rhai ohonom i ffwrdd, er enghraifft Andrew a ysgrifennodd … “Helô bawb. Roeddwn mor siomedig na allwn fynd i’r sioe. Roedd yn edrych yn wych😊. Rhodd hyfryd gan yr Ardd Fotaneg.

Wedi rhoi cynnig ar droi’r goleuadau ymlaen ac i ffwrdd 20 o weithiau’n gyflym yn fy ystafell fyw neithiwr, ond ni chafodd yr un effaith!!!”

Ond roedd y rhai a oedd wedi lapio amdanynt yn gynnes ar noson oer a rhewllyd wedi mwynhau cymaint.

Dyma fyfyrdodau Jo …

Cynnig hyfryd iawn oedd dau docyn rhad ac am ddim i Luminate i bob un o aelodau’r Grŵp Tyfwyr Byw’n Dda. Roeddwn wedi bod yn edrych ymlaen at fynd am ychydig wythnosau, ac yn mynd â fy mab Lewis gyda mi. Er ei bod yn drist nad oedd pawb yn gallu mynd, roedd hi’n dal yn noson bleserus iawn. Roedd y goleuadau’n edrych yn wych ym mhobman ac ar y ffordd o gwmpas wrth gymryd yr holl oleuadau i mewn.

Cawsom gyfle i ddilyn dilyniant o oleuadau trwy ganu clychau i’r gân Jingle Bells pan oeddem yn gweld ein lliw. Rhoddais i, Kevin ac Owen a’i gymar ef gynnig arni, a dywedwyd wrthym ein bod wedi gwneud yn dda, ac mae hynny oherwydd ein bod yn dîm da.

Yr oedd y Tŷ Gwydr Mawr yn dda iawn; edrych yn uchel ac yn isel am y tylwyth teg a’u gerddi bychain.  Rwy’n meddwl mai un o fy hoff bethau oedd gwylio’r holl oleuadau ar y tŷ, roedd yn anhygoel. Eisteddom wedyn i gael siocled poeth moethus a theisen grwst sinamon gyda Kevin a Fiona.  Roedd hynny’n braf iawn.  Hoffwn pe byddwn wedi mynd ychydig ymhellach a thostio malws melys hefyd.

Er bod ein grŵp garddio yn cwrdd bob dydd Mercher, a’n bod ni’n siarad, yn chwerthin ac yn bwyta ac yn gwneud rhywfaint o waith, teimlad arbennig iawn oedd cael y cyfle i fynd gyda fy ail deulu i Luminate, felly diolch yn fawr iawn i chi gyd.