2 Meh 2021

Tyfwyr Byw’n Dda – Un gwely bach mewn môr o wyrdd

Amy Henderson

Mae ein gwelyau llysiau i gyd wedi eu tagu a’u trechu

Wedi diflannu dan glo mewn môr o borfa a blodau gwylltion. Dim ond un gwely garlleg bach yn dal i sefyll (yr unig un gydag ymyl o lwyni bocs o’i amgylch i’w amddiffyn). Felly, rydyn ni’n teimlo’n falch iawn o’r gwely bach hwnnw am ddal ei dir!

Wrth gwrs, mae bywyd gwyllt wrth eu bodd.

Daethom ar draws ein llyffant preswyl yr wythnos hon. Rhaid ei fod wedi alaru ar gael ei gario o gwmpas yn llaw rhywun neu ar flaen rhaw bob prynhawn dydd Mercher a ninnau’n syllu arno mewn rhyfeddod a syndod.

Parhaodd y chwynnu a’r didoli yn ogystal ag ymweliadau â’r sgip am lwyfannau pren i wneud lle i storio coed. Rydyn ni’n gobeithio gallu coginio ar dân agored pan fyddwn wedi sefydlu. Wel, crempog o leiaf.

Fel bob amser, prynhawn hyfryd yng ngardd y Tyfwyr Byw’n Iach. Diolch am y lle hardd hwn yn yr Ardd Fotaneg Genedlaethol, y blodau,  yr adar, y cwmni, y chwerthin, y storïau a’r te.