18 Mai 2017

Cylchlythyr yr Ardd – Mai 18

Ardd Fotaneg · Botanic Garden

Croeso i gylchlythyr diweddara’r Ardd, os hoffech ei dderbyn yn syth i’ch cyfeiriad e-bost, cofrestrwch yma.

Gweler y cylchlythyr llawn yma.

Lowri Evans & Lee Mason

Bydd Lowri Evans & Lee Mason yn perfformio yn y Tŷ Gwydr Mawr ar Fai 21ain.

Bydd y canwr a chyfansoddwr enwog o Sir Benfro, Lowri Evans, yn galw i’r Ardd gyda’i phartner a chydweithiwr cerddorol Lee Mason i berfformio caneuon o’u halbwm newydd ‘A Little Bit of Everything’ – dathliad o 10 mlynedd ers eu halbwm cyntaf.

Yn ganwr talentog, mae Lowri yn ysgrifennu, recordio a chanu yn Gymraeg ac yn Saesneg, mae’n teithio i ganu’n aml, gan deithio America ac, yn 2014, fe wnaeth recordio sesiwn i’r cyflwynydd enwog ar BBC Radio 2, Bob Harris – a ddisgrifiodd hi fel “canwr a chyfansoddwr ardderchog”.

Mae’r perfformiad yn yr Ardd yn dechrau am 2yp.

 

Diwrnod Wedi Hudo gan Blanhigion

I ddathlu’r 4edd Diwrnod Wedi Hudo gan Blanhigion Rhyngwladol, bydd y hoffwr o blanhigion Bruce Langridge a Will Ritchie yn arwain taith tywys o gwmpas 7 o’r planhigion mwyaf diddorol yn yr Ardd Fotaneg Genedlaethol Cymru, ar Ddydd Iau 18fed o Fai am 2yp.

Disgwyliwch i weld harddwch, addasiadau anhygoel a siapiau ysblennydd.

Disgwyliwch i gyffwrdd, i arogli ac o bosib i flasu rhai dail a blodau anhygoel.

Disgwyliwch i glywed straeon a fydd yn syndod i chi.

Disgwyliwch i gael eich hudo gan blanhigion.

 

Taith Hanes yr Ardd – Mai 24ain

Ymunwch â’n taith tywys i ddarganfod mwy am yr Ardd – o’r Middletonsherfeiddiol y 17eg ganrif i blasty ysblennydd Syr William Paxton, dewch ar archwiliad 45 munud o hyd o’n hanes. Gan ddechrau o Fynedfa’r Gorllewin yTŷ Gwydr Mawr am 2:00yp.

Mae’r daith wedi’i cynnwys yn nhâl mynediad arferol yr Ardd.

 

Mercher Mwdlyd

Mae Dydd Mercher Mwdlyd yn cynnwys awr o hwyl a sbri, gweithgareddau yn yr awyr agored, adrodd straeon ac archwilio ar gyfer plant bach o dan oed ysgol, ac yn gyfle arbennig i rieni fynd â’u plantos yn agos at natur yn y dŵr a’r mwd – byth bynnag fo’r tywydd!

Mae’r gweithgareddau yn dechrau o’r Porthdy, mae yna dâl mynediad arferol i oedolion ac mae plant o dan 5 mlwydd oed am ddim.

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â’r Adran Addysg ar 01558 667150

 

Diwrnod i Chi a’r Ci

Bydd y Dydd Llun sydd ar ddod yn gweld yr Ardd yn croesawu ymwelwyr a’u cŵn unwaith eto.

Yn dilyn galw mawr, mae dyddiadau arbennig wedi’u neilltuo yng nghalendr perchnogion cŵn ar gyfer Penwythnosau i Chi a’r Ci yn yr Ardd.

Peidiwch ag anghofio, mae pob Dydd Llun yn Ddiwrnod i Chi a’r Ci trwy gydol y flwyddyn!

Bydd y Diwrnod i Chi a’r Ci’r wythnos hon gyda ‘Dogs’ Trust’ Pen-y-bont ar Ogwr yma’n cynning arolygon iechyd am ddim.

Gweler rhestr llawn o reolau y Diwrnodau i Chi a’r Ci yma.  Caiff cŵn mynediad i siop goffi Y Pot Blodyn, ger prif fynedfa’r Ardd, Bwyty’r Tymhorau, y Siop Roddion ac ar brif gyntedd y Tŷ Gwydr Mawr.

Ni chaniateir cŵn ar lwybrau mewnol y Tŷ Gwydr Mawr, tu fewn i Blas Pilipala, na’r maes chwarae i blant chwaith.