15 Mai 2017

Cylchlythyr yr Ardd – Mai 11

Ardd Fotaneg · Botanic Garden

Croeso i gylchlythyr diweddara’r Ardd, os hoffech ei dderbyn yn syth i’ch cyfeiriad e-bost, cofrestrwch yma.

Gweler y cylchlythyr llawn yma.

MAE’N TOCYN DYCHWELYD YMA ETO!

Mae ein ‘tocyn dychwelyd’ arbennig sy’n caniatáu mynediad am ddim am wythnos, yn ôl y flwyddyn hon, mewn pryd ar gyfer gwyliau’r Pasg!

Felly, bydd unrhyw un sy’n prynu tocyn i’r Ardd nawr hyd at Ragfyr 31ain 2017 yn cael ei ganiatáu i ddod nôl i’r Ardd AM DDIM am saith diwrnod ar ôl eu hymweliad – a gymaint o weithiau ag y dymunwch!

 

Taith Hanes yr Ardd – Mai 17eg

Ymunwch â’n taith tywys i ddarganfod mwy am yr Ardd – o’r Middletons herfeiddiol y 17eg ganrif i blasty ysblennydd Syr William Paxton, dewch ar archwiliad 45 munud o hyd o’n hanes. Gan ddechrau o Fynedfa’r Gorllewin yTŷ Gwydr Mawr am 2:00yp.

Mae’r daith wedi’i cynnwys yn nhâl mynediad arferol yr Ardd.

 

Mercher Mwdlyd

Mae Dydd Mercher Mwdlyd yn cynnwys awr o hwyl a sbri, gweithgareddau yn yr awyr agored, adrodd straeon ac archwilio ar gyfer plant bach o dan oed ysgol, ac yn gyfle arbennig i rieni fynd â’u plantos yn agos at natur yn y dŵr a’r mwd – byth bynnag fo’r tywydd!

Mae’r gweithgareddau yn dechrau o’r Porthdy, mae yna dâl mynediad arferol i oedolion ac mae plant o dan 5 mlwydd oed am ddim.

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â’r Adran Addysg ar 01558 667150

 

Diwrnod i Chi a’r Ci

Bydd y Dydd Llun sydd ar ddod yn gweld yr Ardd yn croesawu ymwelwyr a’u cŵn unwaith eto.

Yn dilyn galw mawr, mae dyddiadau arbennig wedi’u neilltuo yng nghalendr perchnogion cŵn ar gyfer Penwythnosau i Chi a’r Ci yn yr Ardd.

Peidiwch ag anghofio, mae pob Dydd Llun yn Ddiwrnod i Chi a’r Ci trwy gydol y flwyddyn!

Gweler rhestr llawn o reolau y Diwrnodau i Chi a’r Ci yma.  Caiff cŵn mynediad i siop goffi Y Pot Blodyn, ger prif fynedfa’r Ardd, Bwyty’r Tymhorau, y Siop Roddion ac ar brif gyntedd y Tŷ Gwydr Mawr.

Ni chaniateir cŵn ar lwybrau mewnol y Tŷ Gwydr Mawr, tu fewn i Blas Pilipala, na’r maes chwarae i blant chwaith.