4 Ion 2017

Gan Bwyll – ewch i gerdded o gwmpas y tu allan i’r Tŷ Gwydr Mawr

Bruce Langridge

Pellter: 1/2 km (0.3milltir)

Amser yn Fras: 10 munud

Camau: 700

Calorïau: 25-35

Addas ar gyfer cadeiriau olwyn a chadeiriau gwthio

Nodweddion Arbennig: Planhigion Môr y Canoldir, gwreiddiau coedydd anferth, Ghana, hanes, golygfeydd

Oherwydd firws Covid-19, rhai ichi gadw pellter o 2m rhyngoch chi ac unrhyw un nad yw’n aelod o’ch cartref.

Os ydych am gadw’n heini, mae cerdded yn yr awyr agored yn ffordd wych i ddechrau. Mai hon yw’r fyrraf o deithiau’r Ardd, ond bydd digon o bethau diddorol ar hyd y ffordd.  Dilynwch yr arwyddion porffor a byddant yn mynd â chi ar hyd un llwybr gwastad o gwmpas y Tŷ Gwydr Mawr.

Os oes gennych chi ardd sy’n llawn cerrig, efallai y bydd ychydig syniadau difyr ichi yng Ngardd y Clogfeini.

Mae’r ardd hon yn llawn planhigion sy’n tynnu sylw, yn gymysgedd garddwriaethol o nifer o blanhigion a fyddai fel rheol yn addas i hinsawdd cynhesach na Chymru, yn enwedig ardal Môr y Canoldir.

Welwch chi’r adeilad mawr melyn acw?  Tŷ Principality yw hwn. Cafodd ei godi 200 mlynedd yn ôl i wasanaethu Neuadd Middleton a oedd lawer iawn yn fwy bryd hynny. Mae’n cael ei ddefnyddio nawr fel canolfan gynadledda.  Llosgwyd Neuadd Middleton i’r llawr ym 1931, ond gellir gweld patrwm y stafelloedd o hyd ac arwyddion sy’n dangos sut le oedd Neuadd Middleton ar un adeg. Gwelwch yn ogystal y dirwedd o Gyfnod y Rhaglywiaeth sydd i gael ei chwblhau yn yr hydref 2020.

Ymhellach ymlaen mae Coedwig y Bwganod. Mae gwreiddiau’r coed anferth hyn o goedwigoedd trofannol Ghana i gyd wedi troi’n nodweddion unigryw ers iddynt gyrraedd yma ar lorïau mawr yn 2014. Sylwch pa rai mae plant yn hoffi dringo drwyddynt neu i mewn iddynt. Mae madarch anarferol yn eu difa, mae rhai’n disgyn yn ddarnau ac eraill yn dal yn gadarn ac yn gyfan.

Mae hwn yn lle da hefyd i wylio’r lliwiau’n ffrwydro yn y gwanwyn a’r haf yn ein Gardd Wyllt, y darn hir o ochr y bryn sy’n rhedeg i lawr at ein llynnoedd.

Chwiliwch am bili-pala lliwgar ac am degeirianau gwyllt – maen nhw wedi dod i orchuddio ymyl y bryd yn ddiweddar. Gwrandewch hefyd ar hymian cyson y gwenyn – maen nhw wrth eu bodd gyda’r holl blanhigion peillio sydd yma.

Sylwch ar y cylch cerrig islaw wrth ichi edrych i lawr ar Y Rhodfa.  Daw’r cerrig glas Preseli hyn o’r un ardal â’r cylch mewnol yng Nghôr y Cewri, a chafodd y rhai eu cerfio gan y saer maen Darren Yeadon. Dywedir eu bod yn gallu adnewyddu eich egni, felly pan fyddwch wedi gorffen cerdded o gwmpas ychydig droeon, ewch i gyffwrdd â’r rhain – efallai y byddant yn eich adfywio chi hefyd.

Cyn ichi fynd yn ôl at fynedfa orllewinol y Tŷ Gwydr Mawr, mae yna garreg tua 10m ar eich chwith sy’n llawn ffosilau coed 300 miliwn o flynyddoedd oed a greodd feysydd glo De Cymru. Dim ond rhan yw’r garreg hon o gyfres o  drysorau daearegol sydd yn yr arddangosfa Craig yr Oesoedd ar hyd y Rhodfa.

Ydych chi’n teimlo’n dda? Dwedwch wrthym sut mae’r daith hon wedi gwneud ichi deimlo’n dda drwy roi eich sylw yma neu ar ein tudalennau cyfryngau cymdeithasol.

https://www.facebook.com/GardenofWales

Efallai y byddwch yn synnu cynifer o nodweddion rhyfeddol sydd i’w gweld wrth ichi gerdded ar hyd y llwybr o gwmpas y tu allan i’r Tŷ Gwydr Mawr.